18.9.05

Papur Lleol


Does na ddim byd tebyg i benawd papur lleol. Mae'r Cambrian News yn cynnig penawdau hilariws yn wythnosol fel "Doctor being probed by medical council" yr wythnos hon. Fe welais i'r un lleiaf cyffrous ers amser ddoe mewn Gwasanaethau ar ochr y draffordd ger Telford. Waw.

5 comments:

Nwdls said...

Shropshire Star onide? Dwinna wedi bod yn sylwi 'fyd!

seiriol said...

Ie wir. Ers pryd ma Toyah Wilcox yn 'punk star'?

Dafydd Tomos said...

Tua 25 mlynedd yn ôl :) Newyddion newydd gyrraedd y Cambrian News mae'n rhaid.

Gwylia'r ffilm Jubilee gan Derek Jarman os gei di gyfle.. mae Toyah yn actio punk ifanc, tew yn y ffilm. Wow!

seiriol said...

Dydw i ddim yn amau y darn 'punk' - y darn 'star' ro'n i'n meddwl oedd yn amheus!

Dafydd Tomos said...

Fel ddwedes i.. 1981. O'n i'n caru Toyah (dal i wneud) - http://www.bbc.co.uk/totp/artists/t/toyah/clips/its_a_mystery.shtml