21.5.06

Prescott in Czech Health Five-Knuckle Shuffle Shock

Mae John Prescott wedi cael ei ail-shyfflo yn y Cabinet - ef yw gweinidog iechyd newydd y Weiriniaeth Siec. Stori yma.

Gwyliwch.

18.5.06

Nid Dante

Fe fues i'n y Junction am y tro cyntaf neithiwr i weld y Divine Comedy. Dwi wastad wedi bod yn hoff o'r Divine Comedy ond dydw i ddim mor gyfarwydd â hynny gyda'u gwaith nhw. Dwi'n mynd i wneud yn siwr mod i'n dod i nabod eu stwff nhw'n lot gwell ar ôl y gig neithiwr.

Glywson ni ddiwedd y support, boi Gwyddelig gyda gitar, eitha inoffensive, ac yna daeth y band ymlaen am naw o'r gloch a chwarae awr a hanner o set. Roedd Neil Hannon, y prif ganwr, yn wych i wylio, carismatig ond heb drio. Roedd jyst ganddo 'rywbeth' oedd yn gwneud i chi wrando ar gwylio. Llais da hefyd ac, am unwaith, roedd hi'n bosib clywed y geiriau oedd yn cael eu canu, sef un o gryfderau pennaf y band.

Gan mod i'n y gig, fe golles i ffeinal Cynghrair y Pencampwyr, ond dwi ddim wir yn poeni, gan fod y gem yn rhan o'r ymwybyddiaeth cyffredinol mae hi'n eitha hawdd cael jist beth ddigwyddodd heb fod wedi eistedd ar stôl mewn tafarn am ddwy awr.

Roeddwn i'n disgwyl cael sioe dda gan y Divine Comedy - maen nhw'n enwog am hynny, a'r banter rhwng Hannon a'r gynulleidfa - ond fe ges i syndod i weld pa mor dda oedden nhw. Roedd y caneuon oddi ar yr albym newydd (allan yn fuan) yn swnio'n dda. Noson dda iawn.

16.5.06

Ffilms, fflimiau ffilimiau

Dwi wedi gweld pum ffilm ers dod yn ôl i'r coleg y tymor yma, dwy ohonyn nhw yn yr Arts Picturehouse a thair gyda'r gymdeithas ffilmiau yma'n y coleg, sef King's Films. Dwi'n aelod o bwyllgor King's Films (ac yn ysgogi baich y rhan helaeth o'r gwaith ond wnai ddim cwyno am hynny) felly mae gen i rywfaint o reolaeth dros y ffilmiau ry'n ni'n eu dangos a dros y thema ry'n ni'n ei ddewis ar gyfer bob tymor. Thema'r tymor diwethaf oedd "King's Oscars" ac roedd gan bob ffilm gysylltiad 'arbennig' gyda'r Oscars, e.e All About Eve (y mwyaf o nominations tan Titanic), Shakespeare in Love (Judi Dench yn ennill am ryw 8 munud ar y sgrîn) a La Vita e Bella (Best Actor a Best Director i'r un person am yr un ffilm).

Dewiswyd (dyfalwch pwy gynigodd y syniad) "Ahead of the Class" fel thema'r tymor yma, gyda'r arholiadau ar y gorwel. Y tair ffilm sydd wedi bod hyd yma (rhag ofn eich bod chi'n rhy ddiog i glicio ar y linc i safle'r gymdeithas) ydy Pi, Legally Blonde a Hamlet.

Pi: llwyth o gach. Ceisio ateb cwestiynau am ystyr y bydysawd, anghysonderau mathemategol ro'n i hyd yn oed yn gallu eu gweld, edrych yn neis weithiau ond at ei gilydd, gwastraff amser.

Legally Blonde: aah, ffilm ardderchog. Mae perfformiad gwirioneddol dda Reese Witherspoon yn cario'r ffilm ond nid peth drwg mo hynny. Roedd hi'n dda i'w gwylio gyda chwmni hefyd, fel pob comedi dda - daeth tua 35.

Hamlet (fersiwn Olivier, 1948): da iawn. Actio gwych gan Olivier, y delivery o rai llinellau yn wych, yn llawn poise. Dwi rioed wedi gweld perfformiad o Hamlet, na'i darllen, felly roedd hi'n dda i gael yr addysg yn ogystal â'r profiad sinematig.

Dwi'n hoffi mynd i'r Arts Picturehous i wylio ffilmiau. Dyma'r sinema dylai sinema yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth fod. Mae'r sgriniau yn ddigon bach i fod yn gartrefol ond yn ddigon mawr i gadw'r profiad a theimlad sinematig. Fe ddylen i ymaelodi gan mod i'n gwastraffu arian drwy fynd yno'n rhy aml. Beth bynnag, y ddwy ffilm dwi wedi eu gweld yno y tymor yma ydy

Transamerica: Felicity Huffman yn dda. Nes i fwynhau'r ffilm; mae hi'n eitha upbeat tuag at y diwedd, ac mae na ddigon o hiwmor ynddi i'w chadw i fynd heb iddi fynd yn drwm. Ond dyma wendid y ffilm mewn gwirionedd - mae hi'n rhy slapstic i gael unrhyw ddyfnder emosiynol go iawn. Mae'r prif gymeriad yn ymladd gyda'i theimladau mewn ffordd mor ysgafn fel ei bod hi'n amhosib i'r gwyliwr gael ei dynnu mewn i rannu'r poen a'r profiad yn llawn. Ond, fel ffilm weddol ysgafn sy'n trin a phwnc anodd mewn ffordd eitha difrifol ond heb fod yn gwbl llwyddiannus, mae hon yn iawn.

Rear Window: aah, campwaith arall. Dwi wedi gweld hon sawl gwaith o'r blaen, ond ddim erstalwm a rioed mewn sinema. Roedd na ambell i ongl gamera wych yn dangos y chwys a'r tensiwn ar wyneb Jimmy Stewart, fel sydd i'w ddisgwyl gan Hitchcock, ond nid dyna'r uchafbwynt o ran cyrhaeddiad technegol yn hon, i mi. Llwyddo i saethu ffilm gyfan gyda'r camera mewn dau safle, yn edrych i mewn ar y stafell ac allan drwy'r ffenest, ydy hynny, yn amlwg. Fel ambell i ffilm Hitchcock, fe ddigwyddodd yr uchafbwynt braidd yn gyflym a fizzlodd y peth allan ar ôl adeiladu cymaint o densiwn, ond dim ond un beirniadaeth (nid ansylweddol, wrth gwrs) ydy hynny.

Yn wahanol i'r ddau dymor arall, dwi ddim wedi bod yn mynd i gymdeithasau ffilm colegau eraill y tymor yma, oherwydd dydyn nhw ddim yn dangos ffilmiau (ARHOLIADAU ADOLYGU ARHOLIADAU ayyb) felly mae fy allbwn o weld 2-3 ffilm yr wythnos yn edrych o dan fygythiad ychydig y tymor yma (mae talu £6.40 bob wythnos i fynd i'r Picturehouse yn gofyn gormod o'r benthyciad, dwi'n ofni) ond dwi wedi trio ngorau i gadw pethau i fynd ar ddechrau'r tymor, o leiaf.

14.5.06

Gerald Davies

Fe gefais i un o'r nosweithiau gorau alla i gofio nos Lun.

Dechreuodd y noson gyda thaith i Goleg yr Iesu, sydd tua deng munud o gerdded drwy'r dre. Roedd Cymdeithas y Mabinogi, sef Cymdeithas Gymraeg y Brifysgol, wedi trefnu i Gerald Davies ddod i siarad. Roedd ei sgwrs yn un ddiddorol iawn - fe fu'n sôn am ei amser yma'n fyfyriwr rhwng 1968 a 1971 yng Ngholeg Emmanuel yn astudio Saesneg, am ei yrfa yn chwarae rygbi a beth mae'n feddwl o chwaraeon yn gyffredinol.

Mae rhai o'r ffeithiau am y dyn yn gwneud i ddyn ddeall pa mor dalentog oedd Gerald. Ef oedd y myfyriwr cyntaf i gyrraedd y Brifysgol oedd wedi cynrychioli Cymru a'r Llewod ac fe aeth yn syth o arholiad olaf ei Finals i fynd i ymuno gyda thaith y Llewod i lawr yn Seland Newydd yn 1971, yr unig daith i guro'r Crysau Duon ar eu tir eu hun. O glywed yr oriau o ymarfer ar y cae rygbi roedd tim y Brifysgol yn gwneud yn y dyddiau hynny, does gen i ddim syniad sut llwyddodd i gwblhau ei radd.

Beth bynnag, ar ôl gorffen siarad, fe aeth criw o rhyw 14 ohonom ni o'r Gymdeithas a Gerald i'r pantheon hwnnw o brofiad culinary - Pizza Express. Fe ffeindiais i fy hun tua dwy droedfedd gyferbyn â Gerald am weddill y pryd (mae byrddau'r lle braidd yn gul) - waw! Fe benderfynais i wneud fy ngorau o'r cyfle a gofyn am ei farn ar bob agwedd allen i feddwl o rygbi heddiw a rhoi fy nwy geiniog ar faterion tebyg. Dwi ddim yn meddwl fyddai'n cael cyfle i bedlo fy mhynditri cadair esmwyth at rywun mor bwysig yn fuan, felly fe driais i gael y cwbl allan. Wele luniau!

Aethon ni ymlaen i far Emma wedyn, lle oedd gem Preston a Leeds yn cael ei ddangos (tipyn o gefnogaeth yno i Leeds) a dyna sut y bu hi am weddill y noson, Gerald a chriw oedd yn mynd yn fwy dethol o'r Gymdeithas Gymraeg a Guinness rhad. Aah, dyddiau da.

6.5.06

Llwyddiant

Llwyddiant i'r Democratiaid Rhyddfrydol, y BNP a Margaret Beckett.

Fe lwyddodd Rod Cantrill i gael ei ail-ethol ar ran y DRhyddfryol yma yn ward Newnham, gyda dwywaith cyfanswm y blaid Geidwadol. Mae'r canlyniadau ar gyfer cyngor Caer-grawnt i'w gweld yma. Fe lwyddodd y Blaid Lafur i ennill un sedd yma oddi wrth y Toriaid (nath y DRh yn wael iawn yn y ward honno) ond colli un i'r DRh. Dydy hynny ddim yn adlewyrchu'r canlyniadau i gyd, hyd yn oed yma yng Nghaer-grawnt. O edrych ar y canlyniadau ychydig yn fanylach, fe welwch chi fod y seddi llwyddodd Llafur eu cadw yn agos a bod dim bygythiad o gwbl yn y seddi eraill.

Diddorol ydi gweld Max Boyce wedi gwneud mor dda yn West Chesterton, gyda 1,000 o bleidleisiau a dros 500 o fwyafrif!

Mae na gyfweliad diddorol iawn gyda Nick Griffin, arweinydd y BNP gyda David Dimbleby yma. Dickhead. Fe wyliais i DVD anfonwyd i ryw ward yn Preston neu Burnley ar YouTube y diwrnod o'r blaen - roedd na araith gan Nick Griffin am tua awr a chwarter ar y diwedd. Rhyfeddol. Dwi'n methu ffeindio'r peth ar hyn o bryd yn anffodus ...

Roeddwn i'n siomedig iawn i weld Charles Clarke yn cael yr heave-ho yn yr ad-drefniad yn y Cabinet. Mae Clarke yn alumnus o Goleg y Brenin felly mae ganddo le bach arbennig gen i. Dwi'n falch iawn o weld bod Margaret Beckett yn dod yn Ysgrifenydd Tramor - Condoleeza Rice heb y lipstick erchyll, efallai. Oes na gyfnod erioed wedi bod lle bu cymaint o bwer gan dwy ddynes?

5.5.06

Golwg ar enwogrwydd

Cyhoeddwyd llythyr gen i yn Golwg, yr wythnos hon. Fe fuodd Dad mor garedig a sganio'r dudalen a'i hanfon i mi - wele.



Dyma'r tro cyntaf i mi anfon llythyr at bapur newydd neu gylchgrawn. Roedd yr erthygl gwreiddiol yn sôn am brinder disgyblion gyda'r sgiliau priodol i fod yn rhwymwyr ac yn beiranwyr yn ardal Aberystwyth, sy'n bwynt digon teilwng, dwi'n siwr. Yn anffodus, ceisiodd Robat Gruffudd (o'r Lolfa, oedd yn cwyno) sgorio pwyntiau yn erbyn Ysgol Penweddig am allforio myfyrwyr ac am gael obsesiwn at anfon disgyblion i Gaer-grawnt a Rhydychen, sy'n lol llwyr. Roeddwn i'n meddwl mod i mewn safle eitha da i roi ychydig o brofiad a gwirionedd i mewn i'r stori. Heddiw, Golwg. Fory? Y Byd!

4.5.06

Pleidleisio a Traethawd

Wel, fe rois fy nghroes yn y bocs bach ar y darn papur. Effeithiodd cwpwl o bethau yn y dyddiau diwethaf ar fy mhenderfyniad, i ddweud y gwir. Y prif beth a lywiodd fy newis oedd cael clywed oddi wrth y cynghorydd presennol sef ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd hi'n hollol amlwg fod hwn ben ac ysgwydd uwchben y lleill o ran dawn a dibynadwyedd, ac er mod i'n trio dweud wrth fy hun nad oeddwn i'n poeni am safon yr ymgeiswyr, fe fyddai hi'n drueni i'r ward pe na bai'r gŵr yma'n cael ei ethol. Roeddwn i wedi bod yn meddwl yn eitha dwys am roi pleidlais i'r Blaid Lafur, oherwydd er popeth sydd o'i le gyda'r blaid, dwi'n gweld mwy o dda sylfaenol a mwy o gyfle i'r da hwnnw gael ei fynegi yn ymarferol a dod â chyfiawnder i'r wlad na yn yr un o'r pleidiau eraill. Ond dwi jyst wedi clywed gormod o falu cachu am / gan y blaid dros yr wythnos/au diwethaf, felly dwi'n meddwl eu bod nhw'n haeddu eu bloody nose go iawn.

Mae traethawd cyntaf y tymor i mewn erbyn 9 o'r gloch bore fory. Dwi wedi gweithio'n reit galed yr wythnos hon, i ddweud y gwir. Mae'r tywydd wedi bod yn *odidog* felly mae hi wedi bod yn reit anodd i ganolbwyntio ar adegau ond dwi'n eitha hapus gyda faint o ddarllen dwi wedi'i wneud, yn y diwedd. Fe fues i'n darllen ar y gwair yn Bodley's (dwi'n cael mynd ar y gwair fanno) [hmm nai dynnu lluniau sy'n well na'r dim sydd i'w weld ar y wefan - jyst trystiwch fi ei fod yn idyllic, wrth yr afon, haul braf, gwair perffaith gwyrdd ayyb] ond dwi ddim yn dda iawn am weithio tu allan, felly fe fues i yn Llyfrgell Hanesyddol Seeley. Mae'r adran hanes yn "gampwaith" bensaerniol, a'r llyfrgell yn arbennig. Mae'r to ac un ochr yn ffenestri i gyd, sy'n golygu ei bod hi'n olau yn y dydd ac yn dywyll iawn yn y nos, yn boeth iawn yn yr haf ac yn oer iawn yn y gaeaf. Clyfar. Gan ei bod hi mor braf heddiw, roeddwn i'n teimlo fel mod i'n cael fy nghoginio yn araf yno.

Academic self-flagellation. Hunan-fflangellu academaidd, hyd yn oed.

Beth bynnag, dwi'n gwybod ychydig bach am i ba raddau y dylanwadodd cael mantais dynastic yn hytrach na masnach ac eiddo colonial (trefedigaethol?) ar gysylltiadau rhyngwladol yn ystod y ddeunawfed ganrif. Hynny yw, pam fod na lot o ryfel yn y ddeunawfed ganrif ond lot llai yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae fy supervisor (y person sy'n gofalu ar ôl fy astudiaethau) yn arbenigwr ar y meddylfryd tu ôl y bethau yn y cyfnod yma (y syniadau tu ôl i'r Chwyldro Ffrengig yn enwedig) felly dwi wedi cael llawer i'w ddarllen am theoriau am fasnach, jealous of trade, cydbwysedd grym ayyb. Diddorol iawn, i ddweud y gwir. Neud i mi feddwl efallai bydden i'n hoffi astudio SPS (Social and Political Sciences) ond wedyn dwi'n taro un golwg ar Hobbes neu rywun a dwi'n gwybod mod i'n y lle iawn.

Supervision am ddau fory - dwi'n edrych ymlaen i weld sut fydd fy supervisor yn ymddwyn. Efe ydy fy NoS (Director of Studies) felly dwi'n ei adnabod yn eithaf da, yn adnabod ei steil yn barod mewn sefyllfaoedd cymdeithasol (chwithig iawn) a mewn dosbarthiadau yn trafod syniadau hanesyddol mwy haniaethol mewn ffordd eitha cyffredinol, ond dwi am weld sut mae'n trin pwnc ei arbenigedd.

Beth bynnag, mae angen ychydig o lawdriniaeth ar y traethawd cyn bore fory, felly gwely a codi'n ddigon cynnar. Nos da.

1.5.06

Royston, Etholiadau Lleol a Chyfweliad

Roedd na gerdyn post bach piws a gwyn yn aros amdanai yn fy nhwll colomen pan ddes i 'nôl i'r coleg ddydd Gwener diwetha yn rhoi pleidlais i mi yn ward Newnham yn yr etholiadau lleol. Dwi wedi fy nghyffroi gyda democratiaeth!

Dwi mewn safle arbennig sy'n annhebygol iawn o godi eto yn ystod fy mywyd.

Does gen i ddim ots am unrhywbeth sy'n digwydd yn lleol - y coleg, gyda'i stadudau a'i reolau arbennig (gall y coleg neud beth bynnag mae am wneud, o fewn rheswm) sy'n dylanwadu ar fy mywyd i. Mae dewis Provost newydd i'r coleg, er enghraifft, can-mil gwaith mwy pwysig na pwy ydy fy nghynghorydd. Dydw i ddim yn gwybod lle mae fy ward yn dechrau na gorffen, na pwy ydy'r ymgeiswyr na dim o'u polisiau na dim byd arall am beth sy'n bwysig yn yr etholiad yma. Does na ddim etholiad yn ward Tirymynach adre i mi gael pleidleisio drwy'r post felly dwi mewn safle arbennig.

Mae gen i'r cyfle i roi pleidlais, neu beidio, i'r prif bleidiau ar sail egwyddorion sylfaenol y pleidiau hynny'n unig.

Dydy hi'n ddim syndod, felly, mod i wedi cyffroi gyda'r etholiad yma a fy nghyfle unigryw. Dwi ddim yn meddwl y gellir dweud yr un peth am drigolion maestrefi Caer-grawnt a pha bynnag bentrefi fyddai'n mynd trwyddyn nhw i gyrraedd pentref.

Roedd gen i gyfweliad ar gyfer mynd i edrych ar ôl plant Americanaidd drwy raglen Camp America yn ymyl Tower Bridge yn Llundain ddydd Sadwrn. Gan ei bod hi'n blydi gwyl banc, roedd na waith yn cael ei wneud ar y rheilffordd rhwng Caer-grawnt a Royston, felly roedd rhaid dal bys i fanno, wedyn tren mor bell â Finsbury Park (sy'n dymp) oherwydd bod King's Cross ar gau (oedd yn creu hyd yn oed mwy o drafferth o ran cyrraedd Tower Hill ar y tiwb).

Ar y daith fys o orsaf Caer-grawnt i Royston, tua ugain munud ar yr A10 a trwy ambell bentref, fe weles i unarddeg poster etholiadol (eisteddais i ar ddwy ochr y bys i gael golwg ar ddwy ochr y stryd - gwyddonol, dontchyanow). Roedd croesdoriad y posteri yn dipyn o sioc i mi, i ddweud y gwir. Dwi'n gwybod mod i yng Nghaer-grawnt, ond adre dwi wedi arfer gyda 50% "Plaid", 40% Lib Dem, 5% Llafur, 5% Ceidwadol (ish). Ar y daith ddydd Sadwrn fe weles i
0 "Plaid"
0 "Arall" (UKIP, BNP, Al Qaeda, Gwyrdd etc.)
2 Ceidwadwyr
9 Lib Dem
Roeddwn i'n disgwyl gweld mwy o bosteri, i ddweud y gwir, ond blydi hel, 9 Lib Dem a 2 i'r Ceidwadwyr - lle aeth y Blaid Lafur i guddio? Roedd sedd Caer-grawnt yn sedd Llafur tan yr etholiad cyffredinol diwethaf - ydy'r llanw wedi troi yn gyfangwbl ar y blaid?

Beth bynnag, aeth y cyfweliad yn iawn, diolch. Roedd rhaid i mi fynd i dŷ'r dyn, fflat ar lawr uchaf yr adeilad, gyda gardd concrit "city gardener" go iawn drwy'r drysau patio gwydr. Roedd y dyn tua 40 mlwydd oed, yn dew ond yn ddigon clen. Fe drodd yr holl beth braidd yn Little-Britain-League-of-Gentleman-aidd ar ôl mynd i mewn i brif stafell y fflat, oedd yn rhyw fath o gegin / stafell fyw. Roedd gan y boi ddwy gath, brawd a chwaer, un ddu a gwyn a'r llall yn ddu a brith. Ac roedd o'n hollol hollol obsessed, mewn ffordd "angen gweld rhywun proffesiynol" gyda'r ddwy gath. Dwi'n hoff iawn o gathod, fel ry'ch chi'n ymwybodol, mae'n siwr, felly dwi wedi arfer gyda tipyn o gariad afresymol at gathod, ond roedd y boi yma braidd yn unhinged yn y ffordd roedd yn gofalu ar ôl / siarad gyda'r ddwy gath. Roedd y ffordd edrychodd ar Prince (yr un ddu a gwyn) wrth ei ddal yn ei freichiau (mewn safle dal babi, bol i fyny) wedi iddo chwydu ar y carped tua deng munud i mewn i'r cyfweliad yn llawer mwy offputting na'r gath ei hun yn chwydu. Neidiodd Prince i fyny ar fy nglin tua canol y cyfweliad a roedd y dyn, druan, i weld yn eitha eiddigeddus mai fi oedd yn cael y sylw. Pan setlodd y gath i lawr ac eistedd ar fy nglin i'n ddigon bodlon, wel, doedd ganddo ddim i ddweud wrth y gath wedyn, druan.

Dwi'n eitha gobeithiol i gael lle munud olaf mewn Camp yn rhywle, ond mae'n fwy tebygol i mi gael lle "wrth gefn" - hynny yw yn gwybod mod i'n mynd i rywle yn America, ond ddim yn gwybod i ble - gan mod i wedi ei gadael hi mor hwyr (dwi ddim yn meindio hyn i ddweud y gwir - ma'n eitha cyffrous).

Hmm wedi bod yn trio meddwl am ffordd i glymu dechrau'r neges yma gyda'r diwedd ond allai ddim meddwl am ddim byd, felly

.