27.9.05

Homage i Charles W Cushman

Blogiodd Nic am luniau o gasgliad Charles W Cushman yn ddiweddar a dwi wedi trio fy ngorau i wneud 'copi' o'r golygfeydd o Aberystwyth erbyn heddiw. Dewisais ddau lun i'w dyblygu - dyma fy ymgais:




7 comments:

Dafydd Tomos said...

Neis iawn! Mae angen diwrnod gyda haen o gymylau ysgafn i gael y golau'n iawn ond mae bob amser yn braf yn Aber ondyw hi :)

seiriol said...

Dyma'r trydydd tro i fi geisio dyblygu'r lluniau a mae hi wedi bod yn braf y dair gwaith, a'r cysgodion yn hir bob tro sy'n profi'r theori mai Aber yw'r lle brafiaf yn y byd.

Anonymous said...

Haia Seiriol,

Lluniau bendigedig - ond maen nhw'n fawr iawn! Mae gen ti reolaeth drostyn nhw yn fan hyn, mae'n siwr, ond mae'n nhw'n taflu'r Blogiadur dros y lle i gyd...;-)

Tybed a fyddai modd i ti lleihau eu maint i fod sut maen nhw'n ymddangos ar dy flog go-iawn?

Sori fod yn boen...!

seiriol said...

Gwelliant?

Anonymous said...

Ym... na, yn anffodus ddim! Dw i wedi creu fersiynau llai ohonyn nhw (dw i ddim yn meddwl bod flickr yn eu lleihau go-iawn, jesd bod nhw'n rhoi uchafswm ar beth sy'n cael ei dangos) - anfon dy e-bost ataf fi at aran[at]sgwarnog.com, a wna i anfon y lluniau llai i chdi!

Dogfael said...

Wedi anghofio dweud cymaint o bleser ges i o weld yr homage i ffotograffau Cushman.

Ray Diota said...

lluniau difyr iawn! mwynhau pethach fel hyn, rhaid gweud...