8.7.06

Llythyr ychydig yn hirach o'r Taleithiau

Mae gen i gyfnod i ffwrdd rwan (mae Bill, arweinydd y grwp yn gofalu ar ol y plant tra eu bod yn nofio) felly ychydig o amser i ysgrifennu yn llawnach am y cwpwl o wythnosau cyntaf yma yn Camp Walden ac yn America.

Roedd y siwrne i gyrraedd yma ychydig yn hirwyntog - 7 awr o hedfan a tua'r un faint ar fysiau milgi o New Jersey i New York City i Albany i Lake George. Roedd gweddill y gweithwyr wedi bod yma ers wythnos erbyn i mi gyrraedd felly dwi dal yn dod ar draws gwahanol bethau maen nhw'n ymwybodol ohonyn nhw ond dydw i ddim. Fe gyrhaeddais i ar eu diwrnod cyntaf i ffwrdd ac fe aethon ni i wersylla felly fe drodd pethau allan i fod yn ffodus i mi.

Dwi'n byw yn y bync gyda'r chwe plentyn a'r ddau weithiwr arall, sy'n gallu bod yn anodd, yn enwedig wrth ystyried ein bod ni yn y caban gwaethaf posib (mae na brosiect i wella'r cabanau ond y bechgyn hyn sy'n cael y gwelliant yn olaf). Pan fydda i 'OD', dwi'n gweithio tua 18 awr y dydd, gyda'r plant drwy'r amser. Erbyn hyn, mae Bill a fi (mae Bill gyda'r plant drwy'r amser ond gyda ychydig mwy o gyfrifoldeb na fi) yn gweithio gyda'n gilydd i gael awr i ffwrdd yn ystod y dydd i gadw ein pennau ar y ddaear ond mae hi'n gallu mynd braidd yn ormod weithiau.

Dwi wedi cael sawl cyfle i drio pethau newydd yma, fel chwarae lacrosse, sgio dwr, cael gwersi tenis go iawn, chwarae pel fas, chwarae golff mini ar gwrs ffansi go iawn (gyda melinau gwynt ayb, nid fel y golff 'gwallgof' ar y Prom yn Aber) a cyrraedd top wal ddringo. Mae'r gwersyll mewn lle hyfryd, reit yn ymyl llyn Trout Lake ond ar allt, yn anffodus, felly mae cerdded o'r un fan i'r llall yn ddigon i'ch blino.

Roeddwn i'n gwersylla ar ynys ar llyn Lake George dros y 4ydd o Orffennaf ac mae na gymaint o blant o Ganada a sydd o America yma, felly nes i golli allan ar y profiad Americanaidd roeddwn i wedi bod yn edrych ymlaen i'w fwynhau. Mae'r faner yn cael ei chodi bob bore a'i gostwng cyn swper ac mae hi'n holl-bresennol. Ond pan dwi'n gofyn pam, does gan neb syniad pam - "this country's very patriotic" (pay-tri-otic).

Mae hi'n anodd blogio mor gyflym a hyn a cael popeth yn yr un fan yn fy mhen, ond gobeithio bod cael nodyn neu ddau yn rhoi rhyw syniad o sut hwyl dwi'n ei gael. Dwi'n cadw dyddiadur bob dydd ac mae'r rhan fwyaf o'r sylwadau yn hwnnw yn eitha blogaidd, felly efallai nai roi'r darnau gorau o hwnnw ar y blog ar ol i mi orffen neu pan fyddai'n bored a gyda dim byd i'w wneud (ha! not likely).

Hwyl am y tro,
S x

3.7.06

Llythyrau o'r Taleithau

Helo bawb.

Dwi'n ysgrifennu'r nodyn yma ar gyfrifiadur yn lolfa "cwnselwyr" Camp Walden, ar ol fy niwrnod cyntaf i ffwrdd. Dwi'n methu credu mod i dim ond wedi bod yn bedwar diwrnod ers i'r plant gyrraedd. Mae fy mhen a fy nghorff yn dweud wrtha i ei bod hi wedi bod yn dipyn hirach na hynny.

Mae'r gwersyll yn llai na'r disgwyl a'r cyfleusterau ychydig mwy o slap dash. Fodd bynnag, mae fy mechgyn (Beau, Danny (mae'r ddau yna ar fin bod yn broblem), Andrew S, Andrew W, Jordan a David) wedi gwneud yn siwr fy mod i'n ymwybodol bod ein caban (sef yr un hynaf a'r mwyaf groti o'r holl rai yma) yn llawer mwy moethus na'r rhelyw o wersyllau. Mae hi'n anodd iawn i fyw gyda chwech bachgen 11-2 mlwydd oed a dau gwnselwr arall (Matt o Fanceinion a Brandon o Fontreal) oherwydd mod i wedi arfer gyda fy annibyniaeth yn Nghaer-grawnt.

Cwnselydd ydy enw fy swydd a be dwi'n neud ydy mynds o gwmpas gyda'r plant o activity i activity, bod yn athro, ffrind gorau a rhiant. Reit, amser i fynd - wedi bod ar y we ers gormod o amser.

Dwi'n iawn, saff, mwynhau ayb, gyda llaw.

Hwyl,
S