Trip i'r gogledd
Mae ochr Mam o’r teulu yn dod o’r gogledd ddwyrain - o Lanarmon yn Iâl ac o Lanefydd - a dyna lle bu y chwaer a mi ar ymweliad ddydd Mercher a Iau diwethaf. Roedd hi’n ddiwrnod gwneud y bêls mawr ar y ffarm, felly roedd digonedd o beiriannau lliwgar i fy niddannu a digon o afalau i’w casglu oddi ar y pren yn yr ardd. Aethon ni am dro ddydd Iau, er mor wael oedd y tywydd, i Tweed Mill yn Nhrefnant i siopa ac i gael cinio. Mae Tweed Mill yn un o’r llefydd hynny sy’n tynnu pobl sy’n hawlio’u pensiwn fel mae fflam yn tynnu gwyfynnod. Roeddwn i’n siomedig iawn i beidio gweld ‘Mill’ yno, er fod digon o ‘Tweed’ i bara am flwyddyn.
Yn anffodus, ar y ffordd adre o Dweed Mill, gyrrodd gar oedd yng nghanol y ffordd i mewn i’r drych ochr a’i chwalu. Bastad.
1 comment:
Mae fy nhad a fy ma yn dod o Lanefydd (enw cartref fy nhad oedd Hafodty, alli'm cofio un mam.) Tweedmill yn le rhyfedd ar y diawl, pobl yn dod yno o achrau galnnau Merswy i siopa!
Post a Comment