19.12.08

Haleliwia



Mae tipyn o ddiddordeb wedi bod yn y fersiynau amrywiol o ‘Hallelujah’ gan Leonard Cohen yn ddiweddar.

Yn gyntaf, daeth y newyddion bod Brigyn wedi cyfieithu’r gân i’r Gymraeg am y tro cyntaf erioed ac wedi cael caniatâd y dyn ei hun i gael gwneud hynny. Stori allan o ddim byd ar gyfer Wedi 7, BBC Cymru’r Byd a’u tebyg. Beth sy’n fwy diddorol am fersiwn Brigyn, fasen i’n dweud, yw bod neges y gân a natur y geiriau wedi’u newid yn llwyr yn y trosiad i’r Gymraeg. Nid cyfieithiad sydd yma ond geiriau cwbl newydd heblaw am y byrdwn, ‘halelŵia’ (er, defnyddir haleliwia unwaith yn y gân).

MySpace Brigyn, lle gallwch wrando ar Haleliwia.

Roedd gan i gant o eiriau am sut mae’r gân yn fy ngyrru o’m cof, ond mae’n well i mi fodloni ar: nid ‘Welsh-language adaptation of Leonard Cohen’s global hit song, Hallelujah’ yw cân Brigyn ond cân bregethwrol sy’n anesmwyth o Efengylaidd.

Yna daeth y gân yn stori fawr iawn yn y gyfryngau Prydeinig gan mai Hallelujah sy’n debygol o fod yn Rhif Un dros y Nadolig ar ôl cael ei dewis i enillydd yr X Factor ei rhyddhau fel ei sengl gyntaf. Alexandra Burke enillodd y gystadleuaeth yn dilyn perfformiad ‘unbelievable’ (yn ôl Simon Cowell) o’r gân yn y rownd derfynol ddydd Sadwrn diwethaf.



Ers hynny, mae pob math o straeon wedi codi ynglŷn â geiriau helaeth y gân a’u hystyron, yr ymgyrch gan gefnogwyr Jeff Buckley i godi ei gynnig i frig siartiau’r senglau a trafod gwahanol fersiynau’r gân, o Rufus Wainwright a Bon Jovi i k.d. lang a Susanna and the Magical Orchestra (ddim ar gael ar youtube ond werth ei glywed!).

Mae John Cale wedi cael sylw gweddol yn y trafodaethau yma. Pe bai’r holl sylw i John Cale, yna fe fyddai’r sylw yn nesu at fod yn deilwng. Cafodd ei nodi mewn sawl lle dros y cyfnod diweddar mai canu fersiwn John Cale o’r gân mae pawb ddaeth ar ei ôl, nid y gwreiddiol – a dwi’n cydweld yn llwyr. Dwi’n arbennig o hoff o ailddehongliadau John Cale o ganeuon cerddorion eraill, boed yn ychwanegu adrodd dwfn a darn piano syml i Ready for Drowning gyda James Dean Bradfield (yn Camgymeriad Gwych / Beautiful Mistake), ail-ysgrifennu Ar Lan y Môr yn Dal:Yma/Nawr neu ychwanegu pedwarawd llinynnol hyfryd (gyda’r fiola yng nghanol y cyfan, wrth gwrs) i Hallelujah. Dyma’r fersiwn gorau un o’r gân yn y fy marn bitw i:

18.12.08

Dwy ddime



Ffilm wych ond nid un o fy hoff ganeuon ohoni.

Ond mae pwnc y gân yn weddol amlwg a dyna sydd gen i dan sylw.

Un o’r pynciau sy’n codi amlaf pan fydda i’n trafod Uwch Gynghrair Cymru gyda hwn a’r llall yw tâl y chwaraewyr. Hyd yn oed mewn cynghrair lled-broffesiynol gyda naws lled-deuluol, mae obsesiwn gydag arian caled, oer.

Dwi heb siarad gyda chwaraewyr ynglŷn â’u tâl – sen i’n gwrthod siarad am fy nghyflog i gyda nhw – ond o’r sïon, ymddengys bod rhaid yn cael digon i dalu eu costau teithio ond fawr mwy na hynny, tra bod rhai yn ennill cymaint â hanner can mil y flwyddyn.

Mae na lawer o straeon am yr arian mawr mae’r Rhyl yn talu i’w chwaraewyr – gwrthododd o leiaf dau o’r gwŷr ymunodd o Wrecsam dros yr haf gynigion gan glybiau o’r Gynghrair Bêl-Droed a phenderfynu symud i’r Belle Vue (Danny Williams a Neil Roberts, gyda llaw).

Ac mae stori’r miliwnydd Mike Harris a’i dîm proffesiynol personol, Y Seintiau Newydd (TNS), yn hen hanes erbyn hyn.

Mae ochr arall y geiniog (sori) i’w weld yn amlach o lawer, yn anffodus. Mae Caernarfon ar werth, amheuon ynglŷn ag ymlyniad tymor hir cwmni Gap Recruitment i glwb Cei Connah, ac mae Bangor mewn dyfroedd dyfnion – angen dod o hyd i gyfarwyddwyr a Chadeirydd newydd erbyn mis Ionawr.

Braf oedd clywed bod Castell-nedd wedi’i achub gan ‘gonsortiwm’ (ers i Pobol y Cwm ddefnyddio’r gair, dwi’n ei dderbyn fel rhan o’r iaith) heddiw, ond mae gen i deimlad mai un wennol yw’r stori honno a bod y gaeaf yn mynd i fod yn galed, oer a hir.

Mae darllen erthyglau fel hwn ("Crunch time - how Britain's 10 leading sports are coping with the economic crisis" - mae'n debyg bod 'Olympics' yn un 'sport' bellach...) yn y Guardian heddiw yn fy nghythruddo i. Yn yr un modd â gwraidd y problemau economaidd presennol oedd bancwyr yn meddwi ar fuddsoddiadau cwbl afreal ac anghynaladwy, mae’r problemau a ddaw, yn ddi-os, i chwaraeon proffesiynol yn codi o’r un syched.

Ac yn yr un modd mae’r benthyciadau anhygoel i achub y sector ariannol sy’n hawlio sylw’r gwleidyddion a’r wasg, trafferthion y clybiau anferth a chwaraeon sy’n ffynnu ar ormodedd fel rasio Fformiwla Un caiff y sylw, nid y bobl gyffredin sy’n colli eu pensiwn neu gweld gwerth eu tŷ yn disgyn a cost eu morgais yn codi na’r clybiau bach a dibynna ar haeloni oriau ac arian ambell berson lleol sy’n siwr o fynd i’r wal.