7.4.07

Access

Mae gan bob coleg rhai awdurdodau addysg i'w targedu i ddod â myfyrwyr o gefndir na fyddai fel arfer yn ystyried ymgeisio i Gaer-grawnt i'r Brifysgol. Gan fod disgwyliadau academaidd Caer-grawnt yn eitha uchel, mae codi ymwybyddiaeth gyffredinol o fudd Prifysgol yn rhan o raglenni colegau fel arfer hefyd. Mae Coleg y Brenin, fy ngholeg i, yn adnabyddus am gael y canran uchaf o fyfyrwyr o ysgolion y wladwriaeth ac yn un o'r colegau mwyaf egniol wrth geisio denu ymgeiswyr "not from traditional backgrounds." Dyw Coleg y Brenin ddim yn wag o fyfyrwyr ysgol bonedd ac mae canran eitha sylweddol yn dod o ysgolion gramadeg yr Home Counties, ond mae enw da (neu ddrwg, yn nhyb rhai) ganddon ni fel coleg sy'n trio'n galed i agor drws Caer-grawnt i bawb.


Eira! O ffenest y gwesty

Gyda hynny mewn golwg, aeth pedwar-ar-ddeg ohonon ni i Darlington, Hartlepool a Middlesbrough i siarad gyda phlant blwyddyn 10 a chweched dosbarth am bedwar diwrnod. Roedden ni'n aros yn y Bluebell Lodge yn Acklam, ar gyrion Middlesbrough - fel Travelodge ond yn sownd at dafarn ac yn teimlo fel gwesty moethus yn Dresden circa 1975. Roedden ni'n mynd i ddwy neu dair ysgol y dydd yn gweld grwpiau "gifted and talented" blwyddyn 10 neu faint bynnag o'r 6ed oedd yn boddran troi i fyny. Fe setlodd pawb i mewn i'w rôl ac ein rwtin i mewn ffurf ddisymud yn gyflym iawn. Heb drefnu sgript na dim byd o flaen llaw, roedden ni'n dweud bron iawn yn union yr un peth wrth bob grwp.

[ Diflas - Fformat arferol: gem sefyll i fyny os chi'n meddwl "ie" (e.e sefwch os y chi'n meddwl bod Caer-grawnt yn ddrytach na Phrifysgolion eraill, sefwch os y chi'n adnabod rhywun sy'n mynd i Brifysgol), gem dyfalu pwy yw'r person aeth i Gaer-grawnt ni'n ei ddisgrifio (e.e mae ganddo wyneb hir fel ceffyl ac mae ei enw yn swnio fel peth gwneud stwffin > Jeremy Paxman [Gwyliwch hwn]), gem Call My Bluff (ar yr un llinellau â'r gem arall), tynnu llun o fyfyriwr stereotypical Caer-grawnt, a gorffen gydag ateb cwestiynau am "pam dylen i fynd i Brifysgol" a "sut fywyd sydd gan fyfyiwr yng Nghaer-grawnt." ]

Dwi'n meddwl i ni gael effaith go iawn ar rai o'r plant. Gan ein bod ni mond mewn ysgol am awr neu ddwy, teimlai'r ysgolion y dylen ni weld y rhai oedd gyda'r mwyaf o obaith i gael mynd i'r Brifysgol h.y grwpiau "gifted and talented" sef 10% "gorau" yr ysgol. Doedd dim fath beth yn bodoli ym Mhenweddig felly roedd gen i ddiddordeb i gael gweld sut oedd y grwpiau yma'n cael eu rhoi at ei gilydd. Roedd na ddipyn o amrywiaeth rhwng yr ysgolion ond thema barhaol oedd "teacher recommendation." Dwi ddim yn gyfforddus o gwbl gyda'r syniad yma o rannu'r disgyblion a rhoi teitl mor erchyll â "gifted and talented" iddyn nhw. Wedi dweud hynny, doedd ein rhoi ni mewn setiau ddim yn effeithio ar ein harmoni cymdeithasol yn yr ysgol (ond falle mod i'n dweud hynny gan mod i'n top set bob pwnc).


JT, Jeremy Beadle ac AB. Roedd athro celf yr ysgol hon yn tynnu llun o westai arbennig dydd gwobrwyo'r ysgol bob blwyddyn. Bisâr.

Roedd effaith Llafur Newydd i'w weld ym mhob ysgol. Ysgolion crefyddol (Catholig) neu arbenigol (mewn chwareon, drama dawns etc, peirianneg) oedden nhw i gyd. Yn Middlesbrough, mae pob ysgol yn arbenigo mewn rhywbeth heblaw am ddwy ysgol. Mae dwy ysgol Babyddol yn y dref ac mae un yn derbyn miliynau yn fwy o bres bob blwyddyn oherwydd eu status "arbenigedd." Does bosib bod hyn yn deg ar y plant sy'n mynd yr ysgol "arferol." Tueddai'r athrawon i fynd yn eitha negyddol neu amddiffynol wrth geisio egluro'r system i ni - wn i ddim beth roedd hynny'n ei ddangos am yr ysgolion, chwaith.

Ac yn ôl i Gaer-grawnt am gwpwl o wythnosau i ymlacio ac i ddechrau gweithio cyn mynd adre am y Pasg. (dwi'n ymwybodol bod y darn yma'n hir ac yn dweud ychydig ond dwi wedi bod yn ei sgwennu ers cyhyd nes mod i'n teimlo bod rhaid ei anfon)

5.4.07

Cymru v Lloegr - 17/03/07


Trwy rhyw ryfedd wyrth, nes i lwyddo i gael dau docyn i gem ola'r Chwe Gwlad eleni rhwng Cymru a Lloegr diwrnod cyn y gem. Atebais i gwestiwn rhyfeddol o hawdd (pwy sgoriodd unig gais y gem pan drechwyd Lloegr yn ystod Camp Lawn 2005?) ar wefan chwaraeon BBC Cymru'r Byd ac, yn wyrthiol, fy enw i ddaeth allan o'r het!

Roeddwn i wedi gwylio holl gemau'r bencampwriaeth eleni gyda ffrind o Crawley, DJS, felly roedd rhaid cynnig y tocyn sbâr iddo. Sais i'r carn yw DJS - roedd yn Stadiwm Telstra, Sydney, pan enillodd Lloegr yn 2003 - ond penderfynodd wisgo crys y Llewod i'r gem i "ymddangos yn goch o bell" rhag ofn i bethau droi'n gas. Aethon ni ar y tren o Gaer-grawnt i King's Cross yna tiwb i Paddington, ymlaen i Gaerdydd ac yn syth i'r Mochyn Du i gasglu'r tocynnau gan SEH.

Dwi rioed wedi gweld canol Caerdydd mor brysur. Roedd na giwiau o ddwsinau a channoedd o bobl tu allan i dafarndai am ddau o'r gloch y pnawn a'r gem mond yn dechrau am hanner awr wedi pump! Doedd na ddim modfedd yn rhydd yn y Mochyn Du - fe gymerodd hi oesoedd i gael sylw wrth y bar a rhoi i DJS ei brofiad cyntaf o Brains - felly ar ôl casglu'r tocynnau gan fy chwaer, aethon ni i'r Stadiwm yn eitha cynnar. On i'n eitha balch o gael bod yno yn gynnar yn y diwedd gan bod rhan fwyaf tyngedfenol Codi Canu, rhaglen ddiweddaraf "byd go iawn" S4/C, yn digwydd cyn y gic gyntaf.



Dwi'n gwylio ambell raglen ar wefan S4/C, ond, yn amlach na pheidio, mae'r rhaglenni'n llwytho'n eitha patchy sy'n golygu bod pethau sy'n dibynnu mwy ar sain nac ar lun yn well i'w gwylio. Pan fydd edefyn yn codi am raglen S4/C ar maes-e, dwi'n cymryd diddordeb a doedd dim llawer o glod i'r rhaglen yn y fan honno. Nes i fwynhau'r rhaglen - syniad da, gwreiddiol, cymeriadau da (h.y yr arweinyddion) a gwobr dda iawn ar ddiwedd y rhaglen. Beth bynnag, er ei bod hi braidd yn anodd clywed y corau yn y Stadiwm ei hun, nes i fwynhau clywed "I Bob Un Sy'n Ffyddlon" a chaneuon eraill y corau yn atseinio o gwmpas, gyda'r to ar gau.

Beth bynnag, yn ôl at y gem! Dyma'r ail waith i mi fynd i weld rygbi yn Stadiwm y Mileniwm - dwi wedi bod i weld Cymru'n chwarae pêl droed ddwsinau o weithiau - y tro cyntaf oedd Cymru'n erbyn Japan ar benwythnos agoriadol Canolfan y Mileniwm. Roedd y gem honno braidd yn ddiflas, er bod rhai o'r symudiadau yn y cefnwyr yn ddel iawn, doedd dim awyrglych. Gallai gem Lloegr ddim bod yn fwy gwahanol gyda'r Stadiwm yn berwi o'r cychwyn cyntaf.



Roedd y gem yn hollol wych - alla i ddim dechrau disgrifio pa mor hapus oeddwn i ar ôl y cais cyntaf ac ar ôl y chwiban olaf. Fe gymerodd DJS y fuddugoliaeth yn rhyfeddol o dda - tasen ni heb haeddu'r fuddugoliaeth gymaint wedyn fe allai hi wedi bod yn wahanol ond dyna ni. Mae DJS yn dipyn o wleidydd a trwy cyd-ddigwyddiad cymhleth (pan areithiodd DJS yn lle GG MP), mae'n adnabod AP MP a threfnodd i ni fynd am ddiod gyda fe ar ôl y gem. Cefais i noson wych yn siarad wast am wleidyddiaeth Cymru a gossipio am San Steffan. Ychydig bach yn bisâr, ond yn llawer o hwyl.

Adre peth cynta'r bore canlynol ac yn syth am Ogledd Lloegr ...

1.4.07

Y gorwel, yn y ddau gyfeiriad

Dwi dal yng Nghaer-grawnt er bod y tymor wedi dod i ben ers tua pythefnos. Mae hi wedi bod yn bythefnos brysur iawn. Y bwriad oedd aros yma i gael fy ngwynt ataf ar ôl i'r tymor orffen a dechrau ar yr adolygu, ond mae hi wedi troi allan yn dra gwahanol.

Mae cyrsiau gradd Caer-grawnt wedi eu rhannu'n ddau - Part I a Part II. Mae Part I yn para dwy flynedd mewn hanes felly mae pump arholiad ar y pump cyfnod dwi wedi eu hastudio dros y pump tymor diwetha gen i mewn tua dau fis.

ARGH.

Mae fformat yr arholiadau i gyd yr un fath - tair awr, tri traethawd. Ar un olwg, mae hyn yn olreit gan mai dim ond un "techneg" arholiad, h.y un math o draethawd, sydd angen ei berffeithio. Y broblem yw bod hyn yn golygu adolygu ( / dysgu) lot fawr o wybodaeth mewn amser byr.

8 pwnc (traethawd wythnosol) X 5 tymor = 40 pwnc
3 traethawd X 5 arholiad = 15 traethawd
Dyweder fy mod i'n dysgu 6 peth ar gyfer pob papur ... 6 pwnc X 5 arholiad = 30 pwnc
Dwi ddim yn cael gwybod pryd yn union mae'r arholiadau tan ddechrau tymor nesaf, ond mae tua 60 diwrnod gan i.
30 pwnc / 60 diwrnod = 1 pwnc bob 2 ddiwrnod.

ARGH.

Dymunwch lwc i fi ...

Rhai Pethau

Nes i drio atgyfodi'r blog ychydig yn ôl, ond roedd hyn yn nyddiau cynnar Blogger Beta ac fe drodd glasflog yn flog hyll a di-fflach iawn. Er ei fod dal yn ddi-fflach ac yn rhydd o unrhyw las yn y dyluniad bellach, mae'n edrych ychydig yn daclusach. Mae Blogger yn gweithio'n well gyda Safari erbyn hyn, sef y porwr dwi'n ei ddefnyddio (mae trio defnyddio Firefox gyda Mighty Mouse yn amhosib), felly mae fy esgusodion yn diflannu a dyma fi yn ôl.