29.9.05

Ar y trothwy

Dim ond neges gyflym - dwi yng nghanol pacio ar hyn o bryd ac yn mynd i gychwyn peth cyntaf bore fory felly fe fydd na ychydig o 'downtime' flickr a glasflog wrth i fi brynu weiren ethernet a cael y cyfrifiadur ar y rhwydwaith yng Nghaer-grawnt. Fe brynais i ffôn newydd ddoe, sy'n un 3G gyda chamera ac mae nifer o negeseuon gyda lluniau wedi'i gynnwys yn fy nghytundeb, felly dwi'n meddwl falle cychwyn cyfrif moblog hefyd fel mod i'n cofnodi ar y we ar dri ffrynt mewn ychydig!

Beth bynnag, well i mi fynd i gael fy swper - classic fry-up Dad ar gyfer fy noson olaf adre.

27.9.05

Homage i Charles W Cushman

Blogiodd Nic am luniau o gasgliad Charles W Cushman yn ddiweddar a dwi wedi trio fy ngorau i wneud 'copi' o'r golygfeydd o Aberystwyth erbyn heddiw. Dewisais ddau lun i'w dyblygu - dyma fy ymgais:




Llofrudd Amser

Un o ganlyniadau bod adre ar fy mhen fy hun drwy'r dydd gyda dim llawer i'w wneud a dim ffrindiau i'w harasio (mae gen i restr ddarllen ond dyw hynny ddim yn cyfri) yw fy mod i'n gwastraffu tipyn o amser. Tra bod Nwdls yn blogio ar lafar dwi'n gwastraffu fy amser gyda'r Widget Tetris dwi wedi ychwanegu i'r dashboard ar fy iMac ac ar Stick Cricket.

Does dim angen i mi ddisgrifio pa mor addictive ydy Tetris, dwi'n siwr, ac mae Stick Cricket yn perthyn i'r un categori. Dwi'n cael trafferth mawr gyda medium pacers yn y gem yna - dwi'n medru darllen spin yn eitha da a dwi'n medru amseru'r bowlwyr cyflym yn dda fel arfer ond mae'r medium pace rhywle rhwng y ddau a dwi ddim yn medru gwneud y newid i'r amseru'n ddigon llyfn.

Peidiwch clicio ar y linc i Stick Cricket neu fe fyddwch chi'n gwastraffu gweddill eich bywyd, fel dwi'n mynd i wneud os na fyddai'n stopio'n fuan.

26.9.05

Ar fy mhen fy hun bach

Wel, mae hi bron yn amser i mi fynd allan i'r byd mawr, tu hwnt i Bow Street, ac am y Brifysgol. Mae fy ffrindiau i gyd wedi dechrau yn barod ac yng nghanol eu wythnosau glas erbyn hyn. Mae'r mwyafrif o'n ffrindiau wedi'i throi hi am Gaerdydd a rhai wedi aros yn Aberystwyth. Dechreuodd eu tymhorau dros y penwythnos felly dim ond fi sydd ar ôl (heb gyfri'r rhai sy'n cymryd blwyddyn 'allan'). Efallai bod hyn ddim yn ymddangos fel llawer o ddim ond mae fy mhen blwydd ddydd Mercher a dydy fy ffrindiau ddim yma i ddathlu gyda mi.

Mae'r paratoadau cyn gadael wedi mynd yn dda - fe aeth y rhieni a mi i Gaerfyrddin i siopa cwpwl o benwythnosau 'nôl yn prynu llestri a dillad ac fe lwyddais i gael popeth arall oedd angen arna i ar yr ochr goginio yn Tweed Mill. Yr unig beth dwi dal heb brynu ydy tegell. Peth cymdeithasol ydy tegell i mi gan fod yn gas gen i ddiodydd poeth. Bob un.

Yn anffodus, mae angen dechrau meddwl am bacio. Does gen i ddim llawer o lyfrau dwi am fynd gyda mi (argh angen darllen cyn mynd) ond mae gen i eitha lot o ddillad. Dwi'n mynd i fod yn byw yn adeilad Keynes (map o'r coleg yma) o fewn muriau'r coleg, sef lle fues i'n aros pan gefais i fy nghyfweliad felly mae gen i syniad o faint yr ystafell. Mae hi'n stafell en suite eitha brown.

Dwi angen cyrraedd y Coleg yn 'gyfforddus' erbyn 1500 ddydd Gwener, diwrnod ola'r mis, hynny yw, wedi dadbacio erbyn tri. Mae na wasanaeth yn y Capel (lluniau neis iawn yma) am 1730 gyda'r rhieni, yna ffarwelio am y tro olaf. Mae na bryd arbennig y noson honno yn y Neuadd ond tu hwnt i hynny, does gen i ddim syniad pryd neu lle fyddai'n gwneud unrhywbeth. Mae na chwech hanesydd arall yn mynd i fod yn fy mlwyddyn yn King's, felly dwi'n sylweddoli pa mor lwcus ydw i, a dwi'n bwriadu gwneud yn fawr o'r cyfle arbennig dwi wedi'i gael.

23.9.05

McFly


Un o’r pethau dwi fwyaf balch ohono o ran fy nghymeriad ydy fy chwaeth gerddorol. Mae ystod fy chwaeth yn eang iawn ac un dangosydd ydy edrych ar y 50 cân dwi wedi gwrando arnyn nhw fwyaf ar iTunes a’r iPod - Prince a Marilyn Manson i Joni Mitchell a Snoop Dogg. Faswn i’n hoffi meddwl am fy hun fel rhywun sydd â meddwl agored cerddorol, yn sicr ddim yn snob a rhywun sy’n hoff o gerddoriaeth pop yn enwedig.

Dydy hi’n ddim syndod, felly, fy mod i’n ffan o gerddoriaeth McFly sy’n fand o bedwar bachgen tua’r un oedran â mi sy’n chwarae cerddoriaeth pop. Pop da hynny yw, nid Louis Walsh-Westlife pop, ond Beatles/Who/Beach Boys pop. Nhw oedd yn gyfrifol am All About You sef cân Comic Relief eleni. Maen nhw wedi mynd i frig y siart senglau bedair gwaith ac mae eu dwy albym wedi mynd yn syth i rif un - y band ieuengaf erioed, yn iau na’r Beatles hyd yn oed, i gyrraedd rhif un gyda’u halbym gyntaf.

Rhyw chwe mis yn ôl, daeth cyhoeddiad fod y bechgyn yn mynd ar daith tuag at yr hydref, felly dyma benderfynu mynd i’w gweld yn yr NEC Arena yn Birmingham ar yr 17eg o Fedi a fyddai hefyd yn fath o ŵyl hwyl fawr i bawb cyn i ni fynd am y Brifysgol. Roeddwn i wedi bod yn yr NEC sawl gwaith cyn y gig, ond i’r Motor Show a phethau tebyg i hynny ac nid i’r Arena. I ddweud y gwir, doeddwn i erioed wedi bod mewn gig mewn arena yn unlle cyn dydd Mercher felly roedd gen i feddwl eithaf agored am beth i’w ddisgwyl o ran y llwyfannu a safon y sain.

The Famous Last Words oedd y band cyntaf i ymddangos - braidd yn crap. Tyler James ddaeth wedyn - olreit, bownsiodd rownd y llwyfan, llais eitha da. Wedyn, ar ôl i mi ymweld â’r lle gwerthu nwyddau, dechreuodd y sioe go iawn. Roedden ni tua deg rhes yn ôl o’r blaen, reit ar ben y bloc i ochr chwith y llwyfan. Felly seddi ardderchog.

Dechreuwyd rhan McFly o’r sioe gyda fideo ‘heist’ ar y waliau fideo anferth yna’r llen yn disgyn a’r band yn chwarae I’ve Got You a Nothing. Roedd y sioe i gyd yn broffesiynol - llwyfannu da, goleuo ardderchog a safon y sain yn llawer uwch na beth oeddwn i’n ei ddisgwyl. Dydw i ddim yn cofio trefn y set i gyd ond yr uchafbwyntiau i mi oedd: mash-up 5 Colours in her Hair / American Idiot; Ultraviolet, yn enwedig y goleuo; Tom yn codi o grombil y llwyfan yn chwarae baby grand; y rocio yn Pinball Wizard; peli tân yn codi o’r llwyfan ar y diwedd.

Yn sylfaenol - gig gwych. Lluniau yma.

18.9.05

Papur Lleol


Does na ddim byd tebyg i benawd papur lleol. Mae'r Cambrian News yn cynnig penawdau hilariws yn wythnosol fel "Doctor being probed by medical council" yr wythnos hon. Fe welais i'r un lleiaf cyffrous ers amser ddoe mewn Gwasanaethau ar ochr y draffordd ger Telford. Waw.

Trip i'r gogledd

Mae ochr Mam o’r teulu yn dod o’r gogledd ddwyrain - o Lanarmon yn Iâl ac o Lanefydd - a dyna lle bu y chwaer a mi ar ymweliad ddydd Mercher a Iau diwethaf. Roedd hi’n ddiwrnod gwneud y bêls mawr ar y ffarm, felly roedd digonedd o beiriannau lliwgar i fy niddannu a digon o afalau i’w casglu oddi ar y pren yn yr ardd. Aethon ni am dro ddydd Iau, er mor wael oedd y tywydd, i Tweed Mill yn Nhrefnant i siopa ac i gael cinio. Mae Tweed Mill yn un o’r llefydd hynny sy’n tynnu pobl sy’n hawlio’u pensiwn fel mae fflam yn tynnu gwyfynnod. Roeddwn i’n siomedig iawn i beidio gweld ‘Mill’ yno, er fod digon o ‘Tweed’ i bara am flwyddyn.

Yn anffodus, ar y ffordd adre o Dweed Mill, gyrrodd gar oedd yng nghanol y ffordd i mewn i’r drych ochr a’i chwalu. Bastad.

Cadi 03/95 - 13/09/05


Bu farw Cadi, y gath, ddydd Mawrth ar ôl penderfynu ei rhoi i gysgu wedi i’r milfeddyg ddarganfod tiwmor ar yr iau neu’r bustl. Roedd hi wedi bod yn gwmni i ni ers deng mlynedd ac yn gymeriad gymhleth iawn. Doedd hi ddim yn hawdd dod yn ffrind iddi felly roedd cael anwyldeb ganddi yn golygu magu perthynas go iawn. Dros y dair mlynedd ddiwethaf, bu hi’n gwmni i mi bob dydd am gwpwl o oriau o leiaf wrth i mi gyrraedd adref o flaen fy rhieni felly fe ddaethon ni'n agos iawn. Fe fydd tipyn o golled ar ei hôl. Mae hi wedi’i chladdu rhwng dwy goeden yn yr ardd.

Good morning everyone

Wel, mae deg diwrnod wedi pasio ers i mi flogio ddiwethaf, ond mae gen i lawer i’w ychwanegu yma. Dwi’n ofni y bydd purges blogiol fel hyn yn digwydd yn fwy aml nag adnewyddu cyson, felly maddeuwch i mi am y llith.

Beth bynnag, digon o hel esgusodio a mwy o flogio.

Heblaw eich bod chi’n byw o dan garreg neu mewn unrhyw wlad yn y byd heblaw am Awstralia a Phrydain, mae’n debyg eich bod chi wedi clywed bwrdwn diweddar y wasg Seisnig am fuddugoliaeth tim criced Lloegr wrth iddyn nhw gipio’r Lludw oddi wrth Awstralia wedi pumtheg mlynedd yn y diffeithdir. Fel cefnogwr criced, fe wnes i fwynhau’r gyfres yn fawr iawn ond fel cefnogwr Awstralia, roeddwn i’n siomedig iawn i weld perfformiadau gwan gan dim sydd wedi arfer syfrdanu gyda safon eu chwarae.

Gan mai Flintoff, Pietersen a Vaughan oedd yn chwarae’r criced da, allen i ddim mwynhau safon y chwarae gan mai Saeson oedden nhw. Rhywbeth greddfol i’w wneud gyda chefnogi Awstralia ers blynyddoedd oedd hyn, mae’n siwr. Doeddwn i ddim yn imiwn, fodd bynnag, i’r tensiwn a fu’n rhedeg drwy’r gyfres wedi’r prawf cyntaf. Dyma’r tro cyntaf ers amser i mi fod cweit mor agos i flaen y sedd, neu’n eistedd i fyny yn hytrach nac ar fy nghefn, yn gwylio criced ers amser.

Mae na sawl peth wedi codi’u pennau yn dilyn diwedd y gyfres. Mae dogfael wedi sôn yma ac yma am orymateb ac ymfalchïo cyfoglyd y wasg a'r cyfryngau yn llwyddiant y tim criced yn llawer fwy huawdl na fedra i, felly wnai ddim ond dweud fod yr holl ffys wedi llwyddo i atgyfnerthu’r rhesymau pam nad ydw i’n cefnogi timau chwaraeon Lloegr yn y lle cyntaf.

Y prawf diwethaf yn y gyfres oedd prawf diwethaf Richie Benaud tu ôl i’r meicroffôn ym Mhrydain wrth i’r hawliau teledu symud draw at Sky o Channel 4. Dwi’n hoff iawn o Benaud fel sylwebydd oherwydd ei gynildeb a’i acen hyfryd. Mae na ran o gyfweliad diddorol iawn wnaeth Benaud i News 24 yma.

8.9.05

Hit Parade

Dwi'n berson sy'n hoff iawn o ystadegau. Os fyddai'n gwneud gwaith, fe fyddai'n hoffi gwybod yn union faint o waith sydd i'w wneud a faint yn union o amser sydd i'w wneud (dwi'm yn gwybod be fyddwn i'n gwneud heb 'word count') a dwi'n hoff iawn o ddarllen am ystadegau diddorol o'r Premiership ar wefan Sky.

Dydy hi'n ddim syndod felly fy mod i'n ffan o'r dudalen glyfar ar flickr sy'n fy ngalluogi i i weld faint o weithiau mae pobl (gyda llawer gormod o amser i'w wastraffu) wedi edrych ar fy lluniau ac ar luniau unigol.

Mae'n ddiddorol iawn i weld pa luniau yw'r rhai mwyaf poblogaidd. Mae ambell lun wedi cynnal sgwrs yn y sylwadau amdano ac felly'n uchel ar y rhestr ond yn lun diflas ac anniddorol braidd (fel hwn) ac mae patrymau am ba luniau sydd o ddiddordeb i ddefnyddwyr y safle yn dod i'r amlwg, fel poblogrwydd y 'tag' a grwp Scymraeg.

Dyma fy mhum llun mwyaf poblogaidd:





Mae'r llun cyntaf wedi cael ei weld dros ddau gant o weithiau'n fwy aml nac unrhyw lun arall.

Hwn ydy fy hoff lun i:



gyda hwn yn ail agos:

4.9.05

Fe Ddaeth yr Awr

Fe gyrhaeddodd bore dydd Sadwrn yn rhyfeddol o gyflym, ac er fy mod wedi ymddiddan gyda’r toiled ar fy ngliniau yn ystod y nos, roeddwn i’n barod ar gyfer y diwrnod mawr - gem Cymru yn erbyn Lloegr. Rydw i wedi bod ar bob taith bêl droed mae’r ysgol wedi’i chynnig oddi ar y daith i weld yr Ucrain ym Mawrth 2001, y cyntaf i mi fod yn ddigon hen i allu mynd iddi, felly doedd dim amheuaeth y byddwn yn mynd i weld y gem olaf posib hefyd gyda’r ysgol.

Cawsom ginio ym McArthur Glen (toiledau hyfryd iawn yno, gyda llaw) a mynd yn syth am y Stadiwm ar ôl cyrraedd Caerdydd. Ry’n ni’n dueddol o gyrraedd y Stadiwm yn gynharach na’r rhelyw tra’n teithio gyda’r ysgol, felly roedd hi’n syndod gweld cyn gymaint o gynnwrf tu allan y Stadiwm mor gynnar yn y prynhawn. Dwi’n hoffi cyrraedd y gem yn gynnar a gwylio’r chwaraewyr yn cynhesu yn enwedig - mae’n eich galluogi chi i ymddangos yn Nostramdamusaidd os ry’ch chi’n sylwi ar rywbeth sy’n codi ei ben yn ystod y gem, fel oedd hwn a hwn yn ffit neu pryd fydd rhywun yn dod ymlaen fel eilydd. Ers i John Toshack gymryd lle Mark Hughes fel rheolwr Cymru, mae Roy Evans, cyn reolwr Lerpwl a’i gynorthwy-ydd wrth y llyw, yn paratoi y chwaraewyr cyn y gem a hynny reit o flaen y seddi y byddwn ni’n ei cael bob tro gyda’r ysgol! Dwi wastad yn mwynhau’r cyfle i weld legend mor agos!

Wnai ddim eich diflasu gyda’r hyn roeddwn i’n meddwl am dactegau’r ddau dim a rhyw bethau technegol, anniddorol felly, a dim ond dweud fy mod i’n falch iawn o’n perfformiad ni ar y dydd. Mae’n biti fod cyn lleied o sylw wedi bod yn y cyfryngau i’r cynnydd sydd wedi bod o dan Toshack ers iddo gymryd yr awennau, yn enwedig o gymharu’r perfformiad ddydd Sadwrn gyda’r un yn Old Trafford rhai misoedd yn ôl, a’r holl sylw wedi mynd i unai bwwio’r anthem ‘genedlaethol’ (ymunais yn y bwwio, gyda llaw) neu faint sydd angen i’r Saeson wella i ennill Cwpan y Byd.

Roedd hi’n deimlad od i gerdded oddi ar y bws, a hynny ym maes parcio’r ysgol, gan mai dyma’r peth olaf un i mi ei wneud gyda’r ysgol am byth. Beth bynnag, doedd dim amser i bendroni oherwydd yr eiliad y cyrhaeddais i adref roedd rhai i mi ddewis yr emynau ar gyfer y Sul. Rydw i wedi bod yn un o organyddion Capel y Garn ers cwpwl o flynyddoedd erbyn hyn, yn cymryd un Sul o bob wyth neu naw. Gwasanaethau heddiw oedd y ddau olaf i mi gyfeilio iddynt am dipyn o amser, mae’n debyg, felly fe wnes i ddewis un o fy hoff emynau i orffen y gwasanaeth y bore, fy ngwasanaeth olaf y tu ôl i'r organ, sef Aberystwyth o waith Joseph Parry.

Garn Villa, naws a bore cynnar

Cefais ddiwrnod prysur iawn ddydd Gwener yn glanhau’r tŷ a thorri’r lawnt cyn mynd am Garn Villa, sef tŷ Alaw, i gael ymlacio cyn mynd i’r dref am y noson. Gwyliodd Elain, Ffion, Alaw a mi Pulp Fiction tra’n ‘mwynhau’ punch a baratowyd gan y merched (a gwin gwyn achos do’n i’m yn gallu dioddef y punch). Dwi ddim yn siwr beth oedd ynddo i gyd ond doedden nhw’n sicr ddim wedi dal yn ôl gyda rhai o’r cynhwysion, yn enwedig yr Energy Drink (fersiwn Lidl o Red Bull). Mae'r llun yn dangos Ffion yn mwynhau'r punch yn syth o'r grochan. Ar ôl cael swper o basta hyfryd iawn, fe ddaeth hi’n amser i ni adael am oleuadau llachar Aberystwyth ac am stafell dywyll ‘lan stâr’ y Cwps.

Mae mynd i nosweithiau naws Cymdeithas yr Iaith yn y Cwps ar ddydd Gwener cyntaf bob mis yn bleser anghyffredin. Ar yr un llaw, mae cyfle i gymdeithasu mewn awyrgylch hwyliog, Gymraeg, a chlywed bandiau da mewn lleoliad clos, ond ar y llaw arall mae’n gallu mynd yn gyfyng iawn yn sydyn iawn yno ac mae’n gas gen i’r amdo o fwg sydd yn yr wastad yn yr oruwchystafell. Dan Lloyd a Mr Pinc a Thangwystl oedd yn ein diddanu y mis yma. Recordiwyd rhywfaint o’r noson am y tro cyntaf yr wythnos hon, felly mae cân gan Tangwystl, Tro ar ôl Tro ac Alden Terrace gan Dan Lloyd a Mr Pinc yn fyw am byth, diolch i Rys Llwyd a’i liniadur. Mi wnes i gael fy synnu gan gymaint o bobl oedd yn y gig i ddweud y gwir, gan fod Aberystwyth difyfyrwyr a diymwelwyr yn gallu bod yn dawel iawn yn ystod mis Medi. Rhoddodd Tangwystl berfformiad da iawn - doeddwn i heb eu clywed cyn y gig yma, ond gan fy mod yn adnabod eu groupies ac un o'r aelodau, roedd gen i syniad o'r math o gerddoriaeth oedd yn aros amdandaf i, a cefais fy mhlesio. Braf oedd gweld saxophone yn cael ei ddefnyddio mewn gig Cymraeg! Wnes i ddim talu llawer o sylw i Dan Lloyd a Mr Pinc ac o beth glywais i, wnes i ddim colli llawer.

Mae tystiolaeth ffotograffaidd yn profi ein bod wedi mynd am Rummers, ger Pont Trefechan, ar ôl y Cwps, ond wnes i ddim aros yn rhy hwyr gan fy mod i’n gwybod fod siwrne fws i Gaerdydd, i Stadiwm y Mileniwm, yn fy aros y bore canlynol.