22.6.06

Ar drothwy arall

Dwi'n siwr y dylwn i ddechrau gyda neges yn dweud pa mor ddrwg dwi'n teimlo am beidio postio negeseuon yma'n amlach, ond dwi ddim am wneud hynny am yr un rheswm â roddir ar ddiwedd y llyfr Adrian Mole diweddaraf - Adrian Mole and the Weapons of Mass Destruction - am beidio ysgrifennu dyddiadur, sef happy people don't write diaries. Mae na wir yn hynny, dwi'n meddwl. Ond beth bynnag, dwi wedi bod yn llawer rhy brysur yn bod yn hapus i roi fy amser i fod o flaen sgrin y cyfrifiadur yn ysgrifennu drivel fydd neb yn darllen.

Fodd bynnag, dwi'n mynd i America fory a dwi'n meddwl y byddai hi'n syniad da i gael cofnod o be dwi'n gwneud a sut mae pethau'n mynd yn y fan honno. Wedi hir ymaros, dwi wedi cael gwybod i le dwi'n mynd a dwi'n meddwl fy mod i wedi "glanio ar fy nhraed" go iawn. Dwi'n mynd i Camp Walden am tua dau fis wedyn dwi'n meddwl af i Boston, New York a Washington DC am ychydig ar y diwedd. Dwi ddim yn meddwl y bydda i'n teithio cymaint â roeddwn i wedi bwriadu gwneud yn wreiddiol oherwydd pwysau gwaith. Mae gen i draethawd "hir" (5,000) erbyn mis Ionawr ac mae'r gwaith darllen i gyd yn ffynonellau cynradd (hy papurau newydd) yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. To what extent do issues determine elections? fydd teitl y traethawd pan ddaw'r amser, gan gyfeirio at berfformiad Plaid (Cymru) yn un ai 1979, 83 neu 87. Dwi wir yn edrych ymlaen at y darllen a'r ysgrifennu ond fe fydd rhaid gwneud y gwaith hynny rywbryd.

Beth bynnag! Dwi'n mynd i America fory. Dwi ddim cweit yn deall y darn fory yna. O wel.

Dwi wedi bod braidd yn fratiog gyda fy mharatoadau (e.e does gen i ddim doleri!) ond mae pethau'n dod at ei gilydd erbyn hyn. Dwi'n hedfan o Heathrow am 1300 ac yn dal bys am 0800 ond mae gen i drwy'r dydd heddiw i bacio. Yn anffodus, dwi'n gorfod pacio yn ddeublyg, hy pacio ar gyfer America a phacio ar gyfer gadael stafell Keynes 303 (sniff) am byth. Mae gen i gwpwl o bethau pwysig i'w gwneud fel ffeilio *holl* nodiadau'r tymor yma (dwi wedi bod yn wael iawn am gadw trefn ar bapur dros y ddau fis diwetha), dweud hwyl fawr wrth bawb a penderfynu beth i roi yn y bag.

Y bag, wel, am fag. Dyma'r bag fydd yn gyfaill da i mi am y ddau fis nesaf, gobeithio. Fues i'n siop Field & Trek yn gwario llawer gormod o arian yr wythnos hon yn prynu'r bag, côt law, pâr o sandalau a sach gysgu. Dwi rioed wedi gwario cymaint o arian mewn un pwrcas! Roeddwn i'n crio tu mewn wrth roi fy rhif PIN yn y peiriant.

Mae na "amser tawel" bob prynhawn yn y gwersyll ac mae mynediad i'r we yn lolfa y cwnselwyr, felly y gobaith ydy gallu ysgrifennu yma'n weddol aml. Reit, gwely. Roedd "June Event" y coleg neithiwr (anghydffurfwyr ydym, felly nid "ball" ond "event") felly fe es i'r gwely tua 0530 a chodi i dorri ngwallt am 1030 felly dwi wedi blino braidd. Sy'n rhoi rheswm da am lwybr be dwi wedi sgwennu uchod.

Nos da a tan y tro nesaf (o'r Amerig bell!).