14.9.06

Ar dir Cymru unwaith eto

Fel sy'n digwydd yn rhy aml o lawer i'r blog hwn fod o unrhyw werth i unrhywun, dyma neges arall ar ol cyfnod estynedig o dawelwch. Mae'r tawelwch y tro hwn ychydig yn fwy dealladwy na diogi'r gorffennol - doedd dim amser na chysylltiad digon cysgon gyda'r we gen i i allu cadw'r blog i fynd tra'r oeddwn i'n America.

Dwi wedi bod yn ol ers bron i wythnos erbyn hyn. Fe ddaeth hi'n amlwg yn gynnar iawn yn ystod fy nau fis yn y gwersyll bod gen i amser i unai ysgrifennu dyddiadur neu lythyrau / rhywbeth arall. Fe ddewisais i gadw dyddiadur i gadw fy meddwl ar y ddaear ac i gael cofnod llawnach o fy amser draw dros y pwll na fuaswn i'n cael gan fynd ar ol llythyrau neu mewn ysgrifau bychain.

Fues i'n reit ddisgybledig gyda'r dyddiadur - mae gen i tua 24,000 o eiriau yn fy llyfr nodiadau Moleskin ar ol 75 diwrnod o ysgrifennu (320 y diwrnod) yn y gwersyll ger Lake George, NY; Montreal, Quebec; Tuftonboro, NH; Farmington, CT; Washington, DC; New York, NY; Boston, MA. Trodd y dyddiadur yn ddyddiadur go iawn, dyddiadur teimladau a chyfrinachau, yn rhyfeddol y gynnar ar ol ei gychwyn. Mae'r rhesymau dros wneud hyn wedi rhoi dipyn o waith cnoi cil i mi. Dwi ddim yn cadw dyddiadur adre a dwi heb ysgrifennu gair ynddo ers glanio yn Heathrow ond eto, pan roeddwn i yn America, roedd rhaid i mi ysgrifennu ynddo. Ffordd o ddianc, ffordd o gyfathrebu gyda rhywbeth yn Gymraeg, ffordd o fod yn fi go iawn (gan fod rhaid i mi ymddwyn mewn nifer o ffyrdd arbennig yn y gwersyll e.e bod yn athro / rhiant i'r plant, gallu cyfathrebu gyda rhai pobl 'ar eu lefel nhw' ayb), ffordd o fitchio am y gwersyll.

Beth bynnag, beth dwi'n ceisio ei ddweud yw bod gen i lot o destun am fy amser yn y gwersyll ac yng Ngogledd America. Dwi'n bwriadu digideiddio y sylwadau mwyaf diddorol, os y bydd fy sylwadau o ddiddordeb i unrywun. Fues i drwy'r dydd yn paratoi lluniau ar raglen Uploadr Flickr dydd Sul - roedd gen i ddisgrifiadau manwl a thagiau i 130 o luniau - ond pan gliciais y botwm i roi'r lluniau ar y we, fe fu farw'r rhaglen a dim ond un llun sydd yno. Ar ol bod wrthi drwy'r dydd, allwn i ddim wynebu gwneud y gwaith eto - trawma - ond ar ol cael fy 7 ffilm 36 llun yn ol heddiw, dwi wedi cael ail wynt. Dwi'n bwriadu digideiddio rhai o'r ffotograffau a rhoi casgliad o'r holl luniau ar y we.

Rhywbryd, ymysg yr holl waith cyfrifiadurol yma, mae gen i draethawd hynod ddiddorol i ddarllen ar ei gyfer yn y Llyfrgell Genedlaethol sy'n son am sut y gwnaeth Plaid Cymru yn etholiad cyffredinol 1983 a gweld dylanwad 'issues' (dyw 'materion' ddim wir yn gweithio) ar y canlyniadau. Dwi wedi fy nghyffroi gan y pwnc a'r ymchwil - gobeithio bydd digon o amser gen i adre i wir dorri cefn y gwaith darllen.