Ar y trothwy
Dim ond neges gyflym - dwi yng nghanol pacio ar hyn o bryd ac yn mynd i gychwyn peth cyntaf bore fory felly fe fydd na ychydig o 'downtime' flickr a glasflog wrth i fi brynu weiren ethernet a cael y cyfrifiadur ar y rhwydwaith yng Nghaer-grawnt. Fe brynais i ffôn newydd ddoe, sy'n un 3G gyda chamera ac mae nifer o negeseuon gyda lluniau wedi'i gynnwys yn fy nghytundeb, felly dwi'n meddwl falle cychwyn cyfrif moblog hefyd fel mod i'n cofnodi ar y we ar dri ffrynt mewn ychydig!
Beth bynnag, well i mi fynd i gael fy swper - classic fry-up Dad ar gyfer fy noson olaf adre.
3 comments:
Pob lwc i ti yng Nghaer-grawnt...:-)
Pob hwyl yng Nghaer-grawnt - paid â gadael i'r snobiau gael ti lawr. A phen blwydd hapus hefyd.
Ie, ie, gobeithio dy fod ti'n mwynhau 'n' all that. Nawr ble mae'r cofnod nesaf? Mynnwn foddhad llenyddol!
Post a Comment