tag:blogger.com,1999:blog-153069192024-03-08T04:57:29.538+01:00glasseiriolhttp://www.blogger.com/profile/06840933971518397129noreply@blogger.comBlogger70125tag:blogger.com,1999:blog-15306919.post-62155868331317063072013-01-23T20:00:00.001+01:002013-01-29T14:03:38.213+01:00Rhinwedd y Cyffredin yw Taclusrwydd
Rydw i'n berson sy'n hoffi nod trefnus a thaclus fel rhestr siopa manwl a rysait i'w ddilyn; neu Post-it Note o dasgau i'w cyflawni at fy nesg yn y gwaith.
Fel rhan o hynny, dwi'n hoffi dilyn cyfresi teledu a ffilm o'r naill ben i'r llall. Ar hyn o bryd, dwi'n gwylio'r gampwaith The West Wing am y pumed tro, The Sopranos am yr eildro a phumed cyfres Mad Men. Fe dreuliais i benwythnos cyfan yn y gwanwyn yn gwylio holl ffilmiau James Bond yn eu trefn, o Dr. No i Quantum of Solace.
Ond ar ôl teimlo mod i'n bod braidd yn ddigyfeiriad gyda darllen a gwylio ffilmiau'n ddiweddar, dwi wedi penderfynu mynd ati o ddifri i osod strwythur i'r hyn dwi'n ei ddarllen a'i wylio, fel bod gen i nod taclus i'w gyrraedd a chyfres i'w dilyn o un pen i'r llall.
Y nod llenyddol yw darllen holl (ish) weithiau Mihangel Morgan yn nhrefn eu cyhoeddi (ish). Yr eironi yw mai 'rhinwedd y cyffredin yw taclusrwydd' yn ôl Mr Cadwalader, prif gymeriad Dirgel Ddyn, reit ar ddechrau'r nofel gyntaf ar y rhestr gan gyfeirio at A Special Day (aka Una giornata particolare), hen ffilm Eidalaidd gyda Sophia Loren.
Sy'n ein harwain at hen ffilmiau tramor: dwi wedi penderfynu gwylio'r hanner cant o ffilmiau gorau erioed yn ôl rhestr 'Sight and Sound' y BFI, i ledaenu fy ngorwelion ac i ddysgu dipyn bach mwy am sinema'r byd. Dyma'r rhestr: http://www.bfi.org.uk/news/50-greatest-films-all-time
Fe benderfynais i bod rhaid i mi wylio'r ffilmiau i gyd, dim ots pa mor gyfarwydd oedd y ffilm na phryd oedd y tro diwethaf i mi ei gweld - rhaid gwylio eto.
Erbyn hyn, dwi wedi gwylio pedair ffilm ar ddeg o'r rhestr - hen ffilmiau'n bennaf a'r rhan fwyaf yn rhai tramor. Dwi wedi gwylio ffilmiau doeddwn i 'rioed wedi clywed amdanyn nhw, ffilmiau mud, ffilmiau arbrofiol, ffilmiau trist a llawen.
Dwi heb fwynhau bob ffilm hyd yn hyn (Pierrot le Fou yr isafbwynt hyd yma) a dwi ddim yn siwr pam bod ambell ffilm mor uchel ar y rhestr (La Regle de Jeu yn y pump uchaf?!) ond dwi'n mwynhau'r profiad.
Y thema gyffredinol ymysg y ffilmiau yw bod llawer ohnyn nhw'n torri tir newydd, fel un o'r rhai diwethaf i mi ei gwylio - Man with a Movie Camera, ffilm sy'n dangos bywyd bob dydd y 20au yn Rwsia trwy dorri cyflym sy'n troi'n hypnotaidd o rythmig erbyn y diwedd.
Heb os, y ffilm dwi wedi ei mwynhau fwyaf hyd yn hyn yw City Lights, ffilm Charlie Chaplin o 1931 sy'n gydradd olaf ar y rhestr o hanner cant ond ffilm wnaeth i mi chwerthin yn uchel yng nghanol pathos chwerwfelys stori garu'r ffilm.
Nesaf ar y rhestr mae Gertrud, ffilm o Ddenmarc o'r 60au doeddwn ni 'rioed di clywed amdani tan i'r DVD gyrraedd o Lovefilm.
Dwi'n dal i ddysgu (er, dwi ddim am droi'n snob dros nos - dwi di gwylio'r Amazing Spiderman a Ratatouille yn weddol ddiweddar... ac mae rheiny'n ffilmiau gwych hefyd!)seiriolhttp://www.blogger.com/profile/06840933971518397129noreply@blogger.com1tag:blogger.com,1999:blog-15306919.post-12900829404112006582010-09-16T10:57:00.003+01:002010-09-16T11:27:13.245+01:00Mad MenynDyna beth dwi'n galw pennod o Mad Men.
Does dim angen 200 o eiriau gen i ar ba mor wych yw'r gyfres yma - mae sawl un yn cynnwys Charlie Brooker wedi gweld hynny yn llawer mwy huawdl na mi.
I ddweud y gwir, mae erthyglau a blogs yn meddwi ar ba mor wych yw Mad Men yr un mor boblogaidd â'r rhaglen ei hun erbyn hyn ac wrth ddarllen un o'r adolygiadau hynny, gan David Hare yn G2 y tro hwn, fe ddes i ar draws gymal difyr iawn.
Tra bod y ddadl 'Mad Men yn berthnasol i fywyd go iawn G21 oherwydd y duwch seicolegol tu ôl i gyfalafiaeth' wedi ennill ei phlwyf, does neb (am wn i) wedi sôn am berthnasedd Mad Men i Gymru a'r iaith Gymraeg.
Neidiodd y cymal yma am y gyfres gan Hare oddi ar y dudalen:
it features aspirational characters who think they want to move up through society, but who are then haunted by the feeling that gain is loss.
Fe allai Hare fod wedi ysgrifennu'r union frawddeg am Yr Iaith!
Ac o feddwl yn ddyfnach am y gyfres, mae'r holl yn beth yn troi mewn i drosiad am y Gymraeg - Don Draper a'i hunaniaeth ansicr, dauwynebog; Peggy Olsen yn ceisio gadael hualau eu chefndir crefyddol a byw'n hyderus yn y ddinas ond yn gorfod talu'r pris am wneud; Roger Stirling yn byw'n llac cyn cael ei hanner lladd gan drawiad ac addo i ddychwelyd at ei deulu ond wedyn cefnu arnyn nhw eto fyth. Ac yn y blaen!
Sgwn i os mai gweledigaeth Matthew Weiner oedd cyfres Fawr Drosiadol am y Gymraeg...
seiriolhttp://www.blogger.com/profile/06840933971518397129noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-15306919.post-3636618571580551412010-09-02T22:00:00.003+01:002010-09-02T22:37:22.474+01:00Un peth bachGyda thaith i Gaerdydd, diwrnod hir a rhaglen fyw yfory, dwi wedi penderfynu rhoi cofnod atgyfodedig ar y blog hwn (am yr n-fed tro, ie dwi'n gwybod, sori) ar ddiwrnod y 'Pethau Bychain' i fyny ychydig bach yn gynnar.
Wel, beth dwi wedi bod yn gwneud ers mis Rhagfyr 2008? Dweud pethau anniddorol ar Twitter a gweithio, gan fwyaf. Ac mae hynny'n iawn. Felly pam ailddechrau'r blog? Ambell waith dwi'n teimlo bod fwy i'w ddweud na dwi'n gallu mynegi mewn 140 o lythrennau a dwi'n casau pan mae tweets pobl eraill yn gorlifo mewn i ddwy neu dair neges.
Ond nid dyna pam. Yn raddol, mae'r negeseuon dwi'n trydar wedi mynd o fod yn bennaf yn Gymraeg i fod yn ddwyieithog i fod yn bennaf yn Saesneg, fel mae'r nifer o bobl sy'n fy nilyn i'n cynyddu. Plesio fy nghynulleidfa? Trio dod o hyd i fwy o ddilynwyr? Neu jyst meddwl yn Saesneg? Cyfuniad o'r tri, dwi'n credu.
Felly dyma fi'n ailgydio mewn ysgrifennu rhywfaint ar y we yn Gymraeg. Pam? Dod i'r arfer o ysgrifennu. Cyfrannu 'rywbeth' at 'rywbeth'. Yn fwy na dim, ymyrraeth.
Dwi ddim yn addo bydd hyn yn para'n hir iawn nac yn ddiddorol mewn unrhyw ffordd. Plus ça change.
OK hwn, braidd yn sych. Sori! Hwyl ar y ffordd, onest, weyyyy pethaubychain!
Gwrando: Stevie Nicks - Edge of Seventeen.
Mae tipyn o ddiddordeb wedi bod yn y fersiynau amrywiol o ‘Hallelujah’ gan Leonard Cohen yn ddiweddar.
Yn gyntaf, daeth y newyddion bod Brigyn wedi cyfieithu’r gân i’r Gymraeg am y tro cyntaf erioed ac wedi cael caniatâd y dyn ei hun i gael gwneud hynny. Stori allan o ddim byd ar gyfer Wedi 7, BBC Cymru’r Byd a’u tebyg. Beth sy’n fwy diddorol am fersiwn Brigyn, fasen i’n dweud, yw bod neges y gân a natur y geiriau wedi’u newid yn llwyr yn y trosiad i’r Gymraeg. Nid cyfieithiad sydd yma ond geiriau cwbl newydd heblaw am y byrdwn, ‘halelŵia’ (er, defnyddir haleliwia unwaith yn y gân).
MySpace Brigyn, lle gallwch wrando ar Haleliwia.
Roedd gan i gant o eiriau am sut mae’r gân yn fy ngyrru o’m cof, ond mae’n well i mi fodloni ar: nid ‘Welsh-language adaptation of Leonard Cohen’s global hit song, Hallelujah’ yw cân Brigyn ond cân bregethwrol sy’n anesmwyth o Efengylaidd.
Yna daeth y gân yn stori fawr iawn yn y gyfryngau Prydeinig gan mai Hallelujah sy’n debygol o fod yn Rhif Un dros y Nadolig ar ôl cael ei dewis i enillydd yr X Factor ei rhyddhau fel ei sengl gyntaf. Alexandra Burke enillodd y gystadleuaeth yn dilyn perfformiad ‘unbelievable’ (yn ôl Simon Cowell) o’r gân yn y rownd derfynol ddydd Sadwrn diwethaf.
<object width="480" height="295"><param name="movie" value="http://www.youtube.com/v/xaWLsgxDzuw&hl=en&fs=1"></param><param name="allowFullScreen" value="true"></param><param name="allowscriptaccess" value="always"></param><embed src="http://www.youtube.com/v/xaWLsgxDzuw&hl=en&fs=1" type="application/x-shockwave-flash" allowscriptaccess="always" allowfullscreen="true" width="480" height="295"></embed></object>
Ers hynny, mae pob math o straeon wedi codi ynglŷn â geiriau helaeth y gân a’u hystyron, yr ymgyrch gan gefnogwyr Jeff Buckley i godi ei gynnig i frig siartiau’r senglau a trafod gwahanol fersiynau’r gân, o Rufus Wainwright a Bon Jovi i k.d. lang a Susanna and the Magical Orchestra (ddim ar gael ar youtube ond werth ei glywed!).
Mae John Cale wedi cael sylw gweddol yn y trafodaethau yma. Pe bai’r holl sylw i John Cale, yna fe fyddai’r sylw yn nesu at fod yn deilwng. Cafodd ei nodi mewn sawl lle dros y cyfnod diweddar mai canu fersiwn John Cale o’r gân mae pawb ddaeth ar ei ôl, nid y gwreiddiol – a dwi’n cydweld yn llwyr. Dwi’n arbennig o hoff o ailddehongliadau John Cale o ganeuon cerddorion eraill, boed yn ychwanegu adrodd dwfn a darn piano syml i Ready for Drowning gyda James Dean Bradfield (yn Camgymeriad Gwych / Beautiful Mistake), ail-ysgrifennu Ar Lan y Môr yn Dal:Yma/Nawr neu ychwanegu pedwarawd llinynnol hyfryd (gyda’r fiola yng nghanol y cyfan, wrth gwrs) i Hallelujah. Dyma’r fersiwn gorau un o’r gân yn y fy marn bitw i:
<object width="425" height="344"><param name="movie" value="http://www.youtube.com/v/ckbdLVX736U&hl=en&fs=1"></param><param name="allowFullScreen" value="true"></param><param name="allowscriptaccess" value="always"></param><embed src="http://www.youtube.com/v/ckbdLVX736U&hl=en&fs=1" type="application/x-shockwave-flash" allowscriptaccess="always" allowfullscreen="true" width="425" height="344"></embed></object>seiriolhttp://www.blogger.com/profile/06840933971518397129noreply@blogger.com2tag:blogger.com,1999:blog-15306919.post-21945975870160527512008-12-18T01:29:00.000+01:002008-12-18T01:30:45.295+01:00Dwy ddime<object width="480" height="295"><param name="movie" value="http://www.youtube.com/v/rkRIbUT6u7Q&hl=en&fs=1"></param><param name="allowFullScreen" value="true"></param><param name="allowscriptaccess" value="always"></param><embed src="http://www.youtube.com/v/rkRIbUT6u7Q&hl=en&fs=1" type="application/x-shockwave-flash" allowscriptaccess="always" allowfullscreen="true" width="480" height="295"></embed></object>
Ffilm wych ond nid un o fy hoff ganeuon ohoni.
Ond mae pwnc y gân yn weddol amlwg a dyna sydd gen i dan sylw.
Un o’r pynciau sy’n codi amlaf pan fydda i’n trafod Uwch Gynghrair Cymru gyda hwn a’r llall yw tâl y chwaraewyr. Hyd yn oed mewn cynghrair lled-broffesiynol gyda naws lled-deuluol, mae obsesiwn gydag arian caled, oer.
Dwi heb siarad gyda chwaraewyr ynglŷn â’u tâl – sen i’n gwrthod siarad am fy nghyflog i gyda nhw – ond o’r sïon, ymddengys bod rhaid yn cael digon i dalu eu costau teithio ond fawr mwy na hynny, tra bod rhai yn ennill cymaint â hanner can mil y flwyddyn.
Mae na lawer o straeon am yr arian mawr mae’r Rhyl yn talu i’w chwaraewyr – gwrthododd o leiaf dau o’r gwŷr ymunodd o Wrecsam dros yr haf gynigion gan glybiau o’r Gynghrair Bêl-Droed a phenderfynu symud i’r Belle Vue (Danny Williams a Neil Roberts, gyda llaw).
Ac mae stori’r miliwnydd Mike Harris a’i dîm proffesiynol personol, Y Seintiau Newydd (TNS), yn hen hanes erbyn hyn.
Mae ochr arall y geiniog (sori) i’w weld yn amlach o lawer, yn anffodus. Mae Caernarfon ar werth, amheuon ynglŷn ag ymlyniad tymor hir cwmni Gap Recruitment i glwb Cei Connah, ac mae Bangor mewn dyfroedd dyfnion – angen dod o hyd i gyfarwyddwyr a Chadeirydd newydd erbyn mis Ionawr.
Braf oedd clywed bod Castell-nedd wedi’i achub gan ‘gonsortiwm’ (ers i Pobol y Cwm ddefnyddio’r gair, dwi’n ei dderbyn fel rhan o’r iaith) heddiw, ond mae gen i deimlad mai un wennol yw’r stori honno a bod y gaeaf yn mynd i fod yn galed, oer a hir.
Mae darllen erthyglau fel hwn ("Crunch time - how Britain's 10 leading sports are coping with the economic crisis" - mae'n debyg bod 'Olympics' yn un 'sport' bellach...) yn y Guardian heddiw yn fy nghythruddo i. Yn yr un modd â gwraidd y problemau economaidd presennol oedd bancwyr yn meddwi ar fuddsoddiadau cwbl afreal ac anghynaladwy, mae’r problemau a ddaw, yn ddi-os, i chwaraeon proffesiynol yn codi o’r un syched.
Ac yn yr un modd mae’r benthyciadau anhygoel i achub y sector ariannol sy’n hawlio sylw’r gwleidyddion a’r wasg, trafferthion y clybiau anferth a chwaraeon sy’n ffynnu ar ormodedd fel rasio Fformiwla Un caiff y sylw, nid y bobl gyffredin sy’n colli eu pensiwn neu gweld gwerth eu tŷ yn disgyn a cost eu morgais yn codi na’r clybiau bach a dibynna ar haeloni oriau ac arian ambell berson lleol sy’n siwr o fynd i’r wal.seiriolhttp://www.blogger.com/profile/06840933971518397129noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-15306919.post-76977559007848319112008-02-18T13:31:00.004+01:002008-02-20T14:24:42.157+01:00Rowan Williams, y gyfraith a Chaer-grawntCefais supervision am briodi ac ysgaru'r wythnos hon, yn trafod 'when did the transformation from "authoritarian" to "companionate" marriage take place?' fel rhan o'r papur Politics of Gender 1790-1990. Un o'r cerrig milltir mwyaf pwysig wrth drafod yr hanes oedd Deddf Priodi ac Ysgaru 1857 pan gollodd y llysoedd crefyddol eu pwerau dros ysgariad i Dŷ'r Arglwyddi.
Wrth i'r supervision ddod at ei derfyn, fe soniais bod dau ŵr meddw dylai fod wedi gwybod yn well wedi gweiddi abiws arna i a'n ffrind tra'n cerdded yn ôl i'r Coleg dros y penwythnos. Ar ôl clywed yr hanes, fe ddywedodd fy supervisor na fyddai hynny wedi digwydd yn ystod y cyfnod roedden ni'n trafod oherwydd fe fyddai'r Proctors yn cerdded y strydoedd yn gofalu am fyfyrwyr y Brifysgol.
'Heddlu' y Brifysgol yw'r Proctors ac roedd ganddyn nhw bwerau hynod ddefnyddiol yn yr oes a fu, er enghraifft fe allen nhw anfon unrhyw ddynes i'r carchar am y nos petai hi'n cael ei dal yn cerdded strydoedd Caer-grawnt liw nos er budd diogelwch y bechgyn, druan, yn eu Colegau. Roedd gan y Proctors bwerau dros unrhywun oedd yn byw yng Nghaer-grawnt - yn aelod o'r Brifysgol neu beidio - tan 1904! Mae'n rhaid i'r Heddlu (go iawn) ofyn am ganiatâd arbennig i ddod i mewn i'r Coleg hyd yn oed heddiw oherwydd nid yw'r tir o dan eu gofal, yn hytrach yn gyfrifoldeb y Proctors hyd heddiw!
Proctor. Ac wrth gwrs, maen nhw'n dal i wisgo fel hyn
Roedd rhoi Deddf 1857 a 'cyfraith' y Brifysgol yng nghyd-destun yr hyn a ddywedodd Archesgob Caer-gaint am gyfraith Sharia ym Mhrydain yn gwneud i rhywun feddwl dwywaith am yr holl sylw negyddol am jurisdictions cymysg (dydi geiriadur cyfreithiol Robyn Lewis ddim wrth law, sori). Drwy feddwl ychydig ymhellach am y cynsail hanesyddol yn ogystal â'r cynsail cyfreithiol presennol (e.e llysoedd priodas Iddewig), mae'n gwneud rhywun feddwl mai rhywbeth ynglŷn â chyfraith Sharia ei hun, neu Islam ei hun, sy'n gwneud i bobl golli eu tymer gyda Rowan Williams. Roedd llawer o'r dadleuon cyhoeddus yn swnio'n debyg i "allwch chi ddim dewis pa gyfraith i'w ddilyn a pha gyfraith i'w anwybyddu - rhaid cael un system i bawb" ond dwi ddim yn credu mai dyna'r unig reswm i'r Archesgob gael amser drwg ohoni yn y cyfryngau. Dwi'n credu bod llawer o wrth-Foslemiaeth yn gudd yn y dadleuon dros yr wythnos ddiwethaf a dwi'n gweld hynny'n drist.
Gyda llaw, yn 1969 neu 1994 oedd fy ateb i.seiriolhttp://www.blogger.com/profile/06840933971518397129noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-15306919.post-85110670924525451832008-01-27T10:01:00.007+01:002008-02-20T14:22:40.364+01:00Codi'n fore i nos AwstraliaDwi'n gwylio ffeinal dynion yr Australian Open yn stafell deledu'r Coleg ar hyn o bryd, rhwng Novak Djokovic a Jo-Wilfried Tsonga.
Dwi'n hoff iawn o wylio chwaraeon ar y teledu boed yn bêl-droed (bûm yn gwylio Wigan 1 - 2 Chelsea ddoe), rygbi, tenis, dartiau neu unrhywbeth arall dan haul. Un o occupational hazards gwylio llawer o chwaraeon i'r fath raddau â dwi'n gwneud yw bod rhaid bod yn effro pan mae pawb arall yn cysgu. Dwi ddim fel arfer yn codi am 8 ar fore dydd Sul ond pan fydd gwylio 'digwyddiad' chwaraeon yn y fantol, fyddai allan o'r gwely ar amserau rhyfeddol.
Criced o Awstralia a Sri Lanka, bocsio o Las Vegas, a'r Gemau Olympaidd o bob cwr o'r byd. Mae na ryw atyniad tuag at y teimlad 'roeddwn i yno'-aidd ynof i a dwi'n siwr mai hynny sydd wrth wraidd yr arferiad rhyfedd yma sydd gen i.
Roeddwn i yno! Ar fy soffa! Pan enillodd Mayweather yn erbyn Hatton
Ydi hi'n gwneud gwahaniaeth i unrhywun heblaw amdana i os fues i'n gwylio rowndiau terfynol dynion yr US Open am y tair mlynedd diwethaf neu os fues i'n gwylio Shane Warne yn bowlio ei belawd olaf yn Awstralia? A fydd gan yr wyrion a'r wyresau unrhyw ddiddordeb mewn clywed straeon amdana i yn gwylio gem olaf Tim Henman erioed neu Awstralia yn adennill y Lludw gyda whitewash yn 2007?
Felly pam aros yn effro tra bod rhai eraill yn cysgu a pam ysgrifennu am y peth?
Y geek hanesyddol sy'n siarad, dwi'n meddwl. Dwi'n ddigon o geek i fod eisiau gwylio bob eiliad o ornest ac hefyd yn ddigon o hanesydd i fod eisiau cofio'r union ganlyniadau a'r union brofiadau mewn blynyddoedd i ddod. Beth bynnag fo'r rheswm, mae cyfres undydd Seland Newydd vs Lloegr ar y radio drwy'r nos cyn bo hir ...seiriolhttp://www.blogger.com/profile/06840933971518397129noreply@blogger.com1tag:blogger.com,1999:blog-15306919.post-15420726762202101562008-01-21T20:53:00.000+01:002008-01-21T21:27:57.901+01:00Gwaith / WorkMae gen i fwy o waith nac erioed eleni. Dwi wedi arfer gyda un traethawd yr wythnos - dim mwy, dim llai, rhythm arferol. Tymor yma - traethawd yr wythnos, ymarferion paragraffau bychain o ffynonellau (gobbets), darllen ar gyfer dosbarthiadau Historical Argument and Practice a dau draethawd hir i'w gwneud drwy'r cwbl.
Ac fel sydd wedi digwydd yn ddibynadwy drwy fodolaeth y blog hwn, dwi'n blogio pan dwi fwyaf prysur am mai bryd hynny mae gen i rhywbeth i'w ddweud! Pan mae gen i amser i ysgrifennu, does gen i ddim byd i'w ddweud! Beth bynnag, yn ôl at y gwaith.
Mae fy nhraethawd i'r wythnos hon yn wahanol i bob un arall dwi wedi eu cael ers dod i Gaer-grawnt. Traethawd yn cymharu A Room of One's Own a Three Guineas sydd gen i ac er nad nofelau yw'r ddwy ysgrif, maen nhw'n dra gwahanol i'r llyfrau hanesyddol academaidd, safonol arferol. Mae trin a thrafod polemics o ddechrau'r ganrif o'r testun ei hun yn brofiad cymharol newydd i fi, felly gobeithio bydd pethau'n troi allan yn olreit erbyn diwedd yr wythnos.
Math arall o waith dwi'n cael fy atgoffa amdano bron yn ddyddiol yw pa bynnag waith byddai'n gwneud ar ôl graddio. Dwi ddim yn gwybod sawl gwaith ges i'r sgwrs yma dros wyliau'r Nadolig: Nhw: "Ti dal yng Nghaer-grawnt yn dwyt?" Fi: "Ydw, ar fy mlwyddyn olaf." Nhw: "Beth wyt ti'n mynd i wneud y flwyddyn nesaf?" Fi: "Ymm..."
Llwyddais i gerdded ar draws 'digwyddiad' gyrfaoedd ar gyfer bargyfreithwyr yr wythnos ddiwethaf ac mae'r profiad hwnnw wedi gwneud i mi ailystyried yr opsiwn honno yn fanylach ... Mae'r opsiynau eraill yn amrywio rhwng gwneud gradd bellach mewn hanes neu gwleidyddiaeth a meddwl yn galetach am newyddiadura ayyb ... Duw a wyr ar hyn o bryd, ond dwi wedi penderfynu penderfynu erbyn diwedd yr wythnos yma unwaith ac am byth. Neu erbyn diwedd wythnos nesaf.
Y math olaf o waith dwi wedi bod yn meddwl amdano heddiw yw'r un isod. Er bod cynnwys y gân yn ffiaidd, mae'r cynhyrchu'n wych, yn enwedig yr ychwanegiadau at y gytgan. Wele gân Kelly Rowland wedi'i ailgymysgu gan y Freemasons - Work
<object width="425" height="355"><param name="movie" value="http://www.youtube.com/v/cfzjf0gzQYI&rel=1"></param><param name="wmode" value="transparent"></param><embed src="http://www.youtube.com/v/cfzjf0gzQYI&rel=1" type="application/x-shockwave-flash" wmode="transparent" width="425" height="355"></embed></object>seiriolhttp://www.blogger.com/profile/06840933971518397129noreply@blogger.com1tag:blogger.com,1999:blog-15306919.post-60136472422821059922007-06-28T23:32:00.000+01:002007-06-29T01:30:12.482+01:00Llenwi twllDwi wedi bod yn ysgrifennu cofnodion am y pythefnos ddiwethaf ond heb eu rhoi i fyny eto - dwi'n bwriadu gwneud sweep wythnos nesaf. Dwi'n teimlo bod y byd yn gwibio heibio i mi a cymaint gen i ddweud ond jyst yn syrthio oddi ar y ceffyl blogio yng nghanol y cwbl - Blair > Brown, Coch > Gwyrdd, Wimbledon ayyyyb. Ond dyna ni.
Ffwrdd i Sevilla am y penwythnos gyda RIH fory - gwyliau munud olaf go iawn.
Dwi'n addo bydd digon gen i ddweud pan ddai nol.
Hwyl am y troseiriolhttp://www.blogger.com/profile/06840933971518397129noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-15306919.post-48862515803434040122007-06-24T22:30:00.000+01:002008-11-13T18:34:18.485+01:00Post-arholiad 1: SFA yng NghaerdyddPwnc fy arholiad olaf oedd hanes America ers 1828 - y papur wnes i'r tymor diwethaf - ac fe aeth pethau'n olreit. Atebais i am progressivism, mewnfudo'n y 20au ac effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar hil. Y trydydd ateb oedd y gwanaf o bell ffordd - roeddwn i'n gwybod tipyn am effaith yr Ail Ryfel Byd ar densiynau hiliol ac am ethnigrwydd yn y 20au yn gyffredinol ond dim llawer am effaith uniongyrchol y rhyfel. O wel.
Roedd na rai eraill yn y neuadd arholiad oedd yn gorffen eu gradd gan gynnwys y person oedd yn cerdded allan o mlaen i. Gorchuddiwyd y bachgen mewn siampên a silly string. Doedd dim byd mor egsotic yn aros amdana i, dim ond twr o lyfrau llyfrgell yn aros i'w dychwelyd. Roedd fy hwyl a sbri i yn digwydd y diwrnod wedyn.
Ar ôl gweld yr edefyn yma ar maes-e, fe brynais i docyn i weld Super Furry Animals yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd. Er bod y siwrne yno yn para oriau, mae hi'n un eitha braf - Caer-grawnt i King's Cross, ar draws Llundain i Paddington ac ymalen i Gaerdydd. Mae fy annwyl chwaer yn byw lawr yn y mwg erbyn hyn ac fe fues gyda hi drwy'r prynhawn yn dysgu caneuon George Michael iddi ar y gitâr.
Craplun o Bunf - mae camera fy ffôn yn fuzzy
Mae'r mwyafrif llethol o fy ffrindiau ysgol yn mynd i'r Brifysgol yng Nghaerdydd ac roedd hi'n braf cael cwmni dau ohonyn nhw ac un sy'n rhannu tŷ gyda fy chwaer i'r gig. Doeddwn i rioed wedi gweld y Super Furry's yn y cnawd cyn y noson honno, sy'n gyfaddefiad eitha difrifol gan eu bod nhw wedi chwarae mor aml dros y blynyddoedd diwethaf a fy mod i'n ffan. Roedden ni'n sefyll yn yr ail res a roedden nhw'n wych - set dda o'r hen a'r newydd, chwarae tynn a carisma.
Er bod rhai pobl yn hoffi'r dyddiau cynnar, mae'n well gen i bethau mwyaf diweddar y band - y tair albym ddiweddaf - na'r pethau mwy egniol o'r cyfnod arall. Roedd y caneuon newydd yn swnio'n dda (cyn belled ag y gall dyn werthfawrogi cân newydd mewn gig bychan) a fy hoff gân SFA yn y set - Juxtaposed With U. Nes i fwynhau mas draw. Ac yn ôl i Gaer-grawnt ...seiriolhttp://www.blogger.com/profile/06840933971518397129noreply@blogger.com2tag:blogger.com,1999:blog-15306919.post-28136402523378275992007-06-23T15:07:00.000+01:002007-06-24T02:27:24.080+01:00Y cyfnod diweddarMae hi'n dros bythefnos ers i mi ysgrifennu yma ac mae tipyn wedi digwydd ers hynny - Palesteina yn ceisio curo'r Fatican a dod yn wlad leia'r byd, Bernard Manning yn marw a Tal Ben-Haim yn arwyddo i Chelsea. Mae digwyddiadau yr un mor bwysig ond llai cosmig wedi bod yn fy mywyd bach i.
Gorffenais fy arholiadau ddydd Mawrth diwethaf a dwi wedi bod yn mwynhau fy hun yn ddi-hid ers hynny yn diota a gor-fwyta. Fe wnai sôn mewn mwy o fanylder yn fy negeseuon nesaf.
Sut bynnag dwi wedi bod yn llenwi fy amser, mae'r ffaith trist yn aros bod y flwyddyn academaidd wedi dod i ben a byddai ddim yn gweld rhai ffrindiau am dri mis a falle ddim yn gweld rhai eraill am flynyddoedd neu fyth eto ...seiriolhttp://www.blogger.com/profile/06840933971518397129noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-15306919.post-17125218997506993552007-06-06T23:14:00.000+01:002007-06-07T00:10:14.692+01:00Tua'r HannerDwi yn fy ngwely yn barod ar ôl prynhawn a noson o ddiogi. Cefais i arholiad ar hanes gwleidyddol a chyfansoddiadol Prydain ers 1867 bore ma ac un ar hanes economaidd a chymdeithasol Prydain rhwng 1500 a 1750 ddoe. Chwe traethawd, chwe awr. Mae dau ar ôl gen i - boreau Llun a Mawrth. Fe aeth y ddau bapur diwethaf ganwaith gwell na'r cyntaf.
Bore ma oedd fy hoff bapur - dyma lle mae hanes agosaf at wleidyddiaeth pur yng Nghaer-grawnt. Fe atebais i gwestiynau ar "Has oratory declined as an effective means of political communication?", "To what extent was did the Conservative ascendancy in the 1920s depend on the party's adoption of the pre-1914 Liberal programme?" a "How consistent with 'New Labour' ideology has Tony Blair's foreign policy been?" Pynciau tra ddiddorol.
Roeddwn i'n benderfynol o ateb cwestiwn am Gymru - mae na un token am yr Alban a Chymru bob blwyddyn - ond yn anffodus roedd yn dipyn o fitsh ("Discuss the view that devolution owed more to Britain's invovlement in the process of European integration than to national revival in Scotland and Wales"). Does neb llawer, os o gwbl, yn ateb y cwestiwn Cymreig o flwyddyn i flwyddyn ond roedd gen i lawer mwy i'w ddweud am y pynciau eraill felly nes i benderfynu rhoi llwyddiant cymharol personol yn yr arholiad o flaen profi i'r arholwyr bod diddordeb gan rhywun yn hanes gwleidyddol Cymru.
Bûm yn gwylio'r Apprentice a dwy bennod o drydedd cyfres y West Wing fel rhan o fy ymlacio heno. Roedd y Prentis yn deledu gwych - y bennod orau'n y gyfres yma o bell ffordd a'r rhaglen deledu orau i mi weld ers oesoedd. Mae'r West Wing yn ddyfodiad gweddol newydd i mi. Dwi wedi gweld rhyw wyth neu ddeg bennod o'r drydedd gyfres ac yn mwynhau fel arfer, ond byth yn teimlo yn hollol gyfforddus - mae na rywbeth am y rhaglen sydd jyst ddim cweit yn gorwedd yn iawn, gormod o symud falle, gwthio ffiniau beth allai fod yn real, dwi ddim yn siwr iawn. Mae box set o'r holl gyfresi ar Amazon ... tasen i'n gyfoethog ...seiriolhttp://www.blogger.com/profile/06840933971518397129noreply@blogger.com1tag:blogger.com,1999:blog-15306919.post-80627482260280086492007-06-03T23:23:00.000+01:002008-11-13T18:34:18.783+01:00Tacluso rhyw dipynDyna fues i'n gwneud dros y penwythnos. Un stafell sydd gen i eleni ac mae hi'n eitha dymunol, er ychydig yn dywyll ac ymhell o fod yn anferth. Roedd fy ystafell wedi llithro mewn i stâd hollol gywilyddus yn yr wythnosau diwethaf. Dwi'n mynd i ddefnyddio fy arholiadau fel esgus, ond un hollol annigonol. Roedd na fôr o nodiadau a thraethodau dros y llawr i gyd - roeddwn i'n gwybod yn union lle'r oedd popeth, wir yr - a cherdded o un pen y stafell i'r llall (tua saith cam) yn golygu neidio o un ynys garped i'r llall.
Roedd rhaid i hynny newid y penwythnos yma gan i'r annwyl Rieni alw draw ar eu ffordd i faes awyr Stansted ar wyliau. Maen nhw'n mynd i Awstria, i ardal Salzburg, ac ymlaen i'r Almaen am rhyw bythefnos. Er nad yw Casa'r Traed fel pin mewn papur, mae safonau taclusrwydd a glanweithdra y Rhieni mewn cynghrair wahanol i fi a f'annwyl chwaer.
Mae fy stafell yn edrych tua teirgwaith yn fwy ers tacluso a dwi'n defnyddio fy mox files am y tro cyntaf ers rhyw fis. Dwi 'mond angen golchi'r dunnell o ddillad sy'n gorchuddio dwy o fy nghadeiriau a fydd popeth yn iawn ...
Nid fy stafell ... ddim cweit, beth bynnag. Llun gan SbecsPeledrX
Gyda phob ymweliad, mae fy Rhieni yn dod ag ambell beth yn bresantau i fi. Yn ddi-ffael, daw sawl carton o sudd Five Alive (mae'n amhosib cael gafael arno yng Nghaer-grawnt), ffrwythau (bananas a grawnwin y tro yma - trio gwneud yn siwr fy mod i'n cael rhywle'n agos at bump y dydd) a rhywbeth melys (i ddad-wneud gwaith da y ffrwythau). Roedd copi o rifyn diweddaraf y Tincer, sef papur bro Genau'r Glyn, Melindwr, Tirymynach, Trefeurig, a'r Borth, ganddyn nhw ac ynddo fy "erthygl" fel person ifanc yn ystod yr ymgyrch etholiadol ddiweddar. Drws nesaf at fy narn i mae darn cyfatebol gan Gwenno a gadwodd at y mwyafswm geiriau - ysgrifennais dros ddwywaith yn fwy na Gwenno a dweud dim mwy na hi!
Dwi'n gwrando ar "Golau Tan Gwmwl" gan Plethyn tra'n sgwennu'r neges hon - cân am Jac Glan-y-Gors a'r Chwyldro Ffrengig. Bues i'n ysgrifennu am y Chwyldro hwnnw mewn arholiad bnawn Gwener - fy arholiad cyntaf. Aeth pethau ddim yn dda iawn. Mae gen i ddau arholiad yr wythnos hon a dau ddechrau'r wythnos nesaf gan orffen ddydd Mawrth y 12fed. Mae tipyn o waith caled o 'mlaen ...seiriolhttp://www.blogger.com/profile/06840933971518397129noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-15306919.post-82916874676479152752007-05-30T11:17:00.000+01:002007-05-30T12:33:26.699+01:00"Gwneuthurwyr Newid"Atgoffodd gyfeiriad at araith Bill Clinton i Gynhadledd flynyddol y Blaid Lafur ar y neges gyntaf ar flog Amanwy y term gwleidyddol hynod hwnnw - change makers (neu wneuthurwyr newid). Mae'n derm sydd yn anesmwyth i 'nghlust i. Wrth astudio mwy a mwy o hanes, dwi'n gweld "actorion" mewn sefyllfaoedd yn hollol gaeth i'w hamgylchiadau ac yn methu ymddwyn ar unrhyw fath o egwyddor yn llawer amlach na'r hyn byddai rhywun yn ei ddisgwyl.
Mae ieithwedd newid yn daten boeth yng ngwleidyddiaeth Prydain ar hyn o bryd. Mae'r SNP yn addo newid yn yr Alban ac mae pawb ar bigau'r drain am y newid mawr yn Downing Street. Yn y discourse (oes na air Cymraeg da am discourse?) Prydeinig cyhoeddus presennol, mae na frwydr sylweddol dros newid.
Pan atebais fy nghwestiwn fy hun am beth fyddai argraff fwyaf parhaol degawd Tony Blair wrth y llyw tua pythefnos yn ôl, cynigais mai'r newid yn y ffordd mae'r Senedd (a'r Cabinet) yn ymwneud â llywodraethu oedd hynny. Beth oedd prif thema araith Gordon Brown wedi i John McDonnell a Michael Meacher fethu cael digon o bleidleisiau i gefnogi ymgyrch i arwain y Blaid Lafur ond ceisio newid y ffordd mae'r llywodraeth yn ymwneud â'r Senedd a'r boblogaeth yn lledaenach.
Mae hynny'n rhywbeth sydd yn codi'n aml yn y darn cyfoglyd yma'n y Guardian am Brown yn ogystal. Mae sefyllfa Brown yn un anodd - ar yr un llaw, mae'r Blaid Lafur wedi ennill tri etholiad cyffredinol yn olynol ac fe ddylai Brown, felly, fod ddigon parod i gymryd y clod am lwyddiannau'r llywodraeth. Ar y llaw arall, mae Llafur yn dra amhoblogaidd (er eu bod nhw'n dringo'r polau piniwn, maen nhw'n dal i fod ar ei hôl hi) ac os y clyma Brown ei hun yn rhy dynn at y gorffennol, fe allai'r gwrthbleidiau roi'r bai arno am yr hyn sydd wedi mynd o'i le. Yn symlach na hynny, hyd yn oed, fe allai'r gwrthbleidiau ddweud bod angen cael gwared ohonno jyst er mwyn cael gwared ohonno, h.y ei fod wedi mynd yn stêl.
Tacteg David Cameron yw ceisio lliwio'i hun fel gwir etifedd llwyddiannau Blair a gwneud i Brown ymddangos yn hen ffasiwn ac amharod i barhau gyda diwygiadau e.e yn y gwasanaethau cyhoeddus. Dyna oedd union ddadl George Osbourne y bore 'ma (Mercher) ar Today (gwrandewch eto yma) - disgrifio Llafur fel plaid sy'n llithro'n ôl i'r chwith ac hawlio'r tir canol yn ô'r i'r Blaid Geidwadol. Byddai dewis y Toriaid i greu'r llywodraeth newydd yn dod â'r newid sydd ei angen ar ôl deng mlynedd o Lafur, ond fe fyddai'r rhannau gorau o etifeddiaeth Tony Blair (fel rhoi mwy o bwer i ddoctoriaid ayb) yn aros - mae Osbourne wedi dadlau hyn ers tro, gweler e.e. Y ddwy hollt enfawr yn ei ddadl bore ma oedd dweud mai dod â dewis i'r gwasanaethau cyhoeddus oedd un o lwyddiannau Blair a hwythau wedi gollwng y Patients' Passport a rwdlan gwadu bod polisi newydd y blaid ar ysgolion gramadeg yn mynd yn erbyn yr egwyddor o ledu dewis ymhellach.
Dwi'n meddwl bod George Osbourne yn wleidydd da - mae'n amlwg yn ddyn clyfar iawn - ond wn i ddim pa mor llwyddiannus bydd rhoi'r cyd-destun yma i'r ddadl. Wedi dweud hynny, wn i ddim pa lwyddiant ddaw i Brown chwaith. Mae'r ddwy garfan yn trio defnyddio'r un ddadl i hudo'r cyhoedd. "Fe fydd y pethau sy'n gas gyda chi yn mynd - fyddai ddim yn sbinio fel Tony - ond fi oedd yn gyfrifiol am y pethau gorau i gyd yn ystod y degawd diwethaf." "Fe fydd y peth sy'n gas gyda chi yn mynd - y Blaid Lafur - a ni fydd yn cadw'r pethau gorau i gyd am y degawd diwethaf i fynd."
Does na ddim digon le i'r ddwy blaid ddadlau mor debyg i'w gilydd. Mae'r gair newid yn enwedig yn cael ei wasgu'n ddifrifol. Tair munud oedd cyfweliad Osbourne y bore ma, a hynny ar y rhaglen lle mae'n debygol o gael yr amser hwyaf i siarad. Fe fydd hi'n ddiddorol gweld sut bydd ieithwedd newid a pharhâd yn ffurfio discourse ymgyrch yr etholiad cyffredinol nesaf.
(Allen i ddim ysgrifennu neges am newid mewn cyd-destun Blair/Cameroonaidd heb sôn am y clip isod, er ei fod ychydig yn predictable)
<object width="425" height="350"><param name="movie" value="http://www.youtube.com/v/mYkGThMYmbk"></param><param name="wmode" value="transparent"></param><embed src="http://www.youtube.com/v/mYkGThMYmbk" type="application/x-shockwave-flash" wmode="transparent" width="425" height="350"></embed></object>seiriolhttp://www.blogger.com/profile/06840933971518397129noreply@blogger.com2tag:blogger.com,1999:blog-15306919.post-35010320718620052892007-05-25T23:41:00.000+01:002007-05-26T02:17:01.246+01:00Disgiau'r Ynys BellenigDechreuodd ffrind i mi grwp ar Facebook mewn "egwyl" o'i adolygu a gofyn i bawb bostio beth fydden nhw'n dweud wrth Kirsty Young ar Radio 4 tasen cyfle ni'n dod i oleuo'r genedl ar fore Gwener (sy'n gwneud i mi gofio mod i wedi anghofio gwrando bore ma!) ar Desert Island Discs.
Fe gymerais i "egwyl" ddoe a dewis rhain fel fy rhai i ...
1. Bach: Partita i'r ffidil yn d leiaf - V: Ciaccona (Arthur Grimaux)
2. It Ain't Me Babe - Bob Dylan
3. Absolute Beginners - David Bowie
4. Amelia - Joni Mitchell (fersiwn byw ar 'Shadows and Light')
5. Er Cof am Blant y Cwm - Meic Stevens (oddi ar 'Ysbryd Solva')
6. I Feel For You - Prince
7. Brahms: Sonata ar gyfer y ffidil a'r piano yn d leiaf - II: Adagio (Wolfgang Schneiderhan a Carl Seemann)
8. Mahler: Symffoni Rhif 2 'Yr Atgyfodiad' - V: Im tempo des scherzos (Simon Rattle, CBSO)
Llyfr: Cerddi - T. H. Parry Williams
Eitem Lwcswri: Bosendorfer grand piano 7"
Un record pe na bae'r lleill yn cael eu hachub - Bach: Partita i'r ffidil yn d leiaf - V: Ciaccona
Pan fyddai'n wleidydd pwerus ac yn dewis beth bynnag fydd Arctic Monkeys y dydd i ennill pleidleisiau'r ifainc, fe gewch chi ddod yn ôl at y neges hon a'i ddefnyddio yn fy erbyn i ...seiriolhttp://www.blogger.com/profile/06840933971518397129noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-15306919.post-48295031369346009782007-05-24T00:42:00.001+01:002008-11-13T18:34:18.993+01:00DifrifolDwi wedi dechrau ysgrifennu sawl darn "difrifol" am y trafodaethau clymbleidio yn ystod y dyddiau diwethaf, ond dwi ddim wedi cael digon o amser i'w gorffen. Erbyn i fi gael ychydig mwy o amser i fynd at y cofnod eto, mae'r sefyllfa wedi newid a'r hynny wnes i ysgrifennu yn hollol amherthnasol! Dylen i ddweud rhywbeth am gael eich gadael ar ôl wrth sefyll yn yr unfan.
Ymysg y pethau na fydd bellach yn cyrraedd golau dydd oedd ymosodiad ar y rhai hynny sy'n beirniadu Plaid Cymru am faeddio mynd i glymblaid gyda'r Ceidwadwyr. Efallai bod dadlau'r ffordd yna i weld yn rhyfedd gan mod i wedi mynd am bolemic o blaid cael Llafur yn y llywodraeth yr wythnos ddiwethaf, ond mae na gamddealltwriaeth sylfaenol o'r hyn ydyw Plaid Cymru yn cael ddatgan ar hyn o bryd (e.e yn yr edefyn yma ar maes-e).
Y means i end pob plaid wleidyddol yw cael grym. Dyma gyfle euraid i Blaid Cymru ddangos nad grwp pwyso yn ymladd brwydrau egwyddorol ymrannol mohonni ond plaid wleidyddol uchelgeisiol sydd am wneud y gorau i Gymru o fewn ei gallu. Does na ddim synnwyr yn y dadleuon sy'n lladd ar Blaid Cymru am gymryd eu cyfle i gael grym. Ers iddi gael ei sefydlu, dyw'r Blaid erioed wedi bod yn agos at gael grym a pan mae hi'n cyrraedd y fan honno am y tro cyntaf, mae pawb yn mynd yn ballistic yn eu herbyn am fod eisiau cymryd y cyfle! Rwtsh llwyr.
David "Pretty Boy" Howarth, AS Caer-grawnt
Hefyd, beth ar y ddaear sydd o'i le gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol?! Mae hi'n embaras llwyr i mi gael un yn fy nghynrychioli yn San Steffan (Mark Williams) ac un arall yng Caer-grawnt (David Howarth). Cynigwyd yr unig bolisi sydd i'w weld yn uno'r blaid iddyn nhw - sef pleidleisio cynrychioliadol mewn etholiadau lleol - ac maen nhw wedi gwrthod clymbleidio yn y ddau gyfeiriad. Beth maen nhw'n bwriadu ei wneud yn y Cynulliad am y bedair mlynedd nesaf? Gyda dim ond chwech aelod, does bosib y byddan nhw'n cael llawer o ddylanwad. Roedden nhw'n mynd i gael dau yn y Cabinet o dan yr Enfys a chynnig tebyg gan y Blaid Lafur ond mae'n ymddangos eu bod nhw'n fodlon cynhesu eu seddi am bedair mlynedd, hyd yn oed ar ôl cael cynnig datrys raison d'être presennol y blaid. Hollol amaturaidd, hollol ddigyfeiriad.
Beth bynnag, dwi ddim wedi medru gorffen unrhywbeth am y clymbleidio na dim byd arall o bwys gan fy mod i yn gweithio yn eitha caled ar hyn o bryd. Mae fy arholiadau'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf mis Mehefin ac yn parhau tan y deuddegfed. Dwi'n trio adolygu'n eitha caled, felly os aiff hi'n dawel yma, nid colli diddordeb mewn blogio (eto!) ydw i ond yn gwneud pethau eraill fel darllen a chysgu. Sôn am gysgu ...seiriolhttp://www.blogger.com/profile/06840933971518397129noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-15306919.post-11406950705725906412007-05-24T00:18:00.000+01:002008-11-13T18:34:19.230+01:00Clymbleidio? ClymPEIDIO!(maddeuwch i mi am y pennawd)
Mae'r wythnos ddiwethaf wedi bod yn hollol hynod mewn hanes gwleidyddol Cymreig. Mae ceisio dilyn helynt y trafod o bellter fel yma wedi bod yn anodd. Am unwaith, mae tempo newyddion gwleidyddiaeth yng Nghymru yn curo'n gyflymach na fy ngallu i i gadw i fyny gyda'r newyddion diweddaraf!
Dyma'r enghraifft orau posib o "ganlyn" gwleidyddol.
Aeth PC a'r BL i "gael coffi" nôl yn y fflat ym Mae Caerdydd. Gwrthododd PC fynd â phethau'n rhy gyflym gan bod posibiliad o ffling triawdol ar y gorwel. PC oedd y ferch ysgol "ddiniwed" gyda llygaid glas i'r bachgen o ochrau anghywir y traciau y C, yn ei wasgod tweed. Roedd y DRh jyst yn digwydd bod yn y lle iawn ar yr adeg iawn, ond braidd yn ansicr am ei rhywioldeb (creithiau o berthynas orffennodd yn anhaclus gyda'r BL) ac os oedd cael triawd yn mynd i fod yn embaras yn y dyfodol.
Dechreuodd bethau symud mlaen rhwng PC a'r C gyda'r C yn addo ei fod yn ddyn newydd a'i fod wedi newid y tro yma, wir yr. Yn raddol, roedd PC'n teimlo ei bod yn cael ei chymryd yn ganiataol gan y BL ac yn rhad a budr. Rhoddodd y BL un cynnig olaf i PC, ond doedd hynny ddim yn ddigon - gwelai PC fywyd gwell ar y gorwel gyda'i phartneriaid newydd.
Ond! Nid yw popeth mor hawdd â hynny mewn serch!
Yn sydyn, cafodd y DRh draed oer a thynnu'n ôl o'r triawd. Aeth i feddwl yn ddwys am ba gyfeiriad mae'n bwriadu siglo'n y dyfodol. Felly, roedd penderfyniad anodd gan PC i'w wneud. Mynd yn ôl at y BL ar ei gliniau (wotshit) a gofyn am faddeuant a chyfle arall neu aros gyda'r hen rebel a ffonio "escort" i gael help i gwblhau'r triawd.
Dewch nôl yr un pryd wythnos nesa i gael clywed gweddill yr hanes!seiriolhttp://www.blogger.com/profile/06840933971518397129noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-15306919.post-16538757127690618532007-05-20T23:42:00.000+01:002007-05-24T00:18:14.845+01:00Podcastio a Phêl DroedioRoedd y penwythnos diwetha'n un o'r rhai hynny pan mae niche yn meddiannu sylw'r "genedl" yn ei chyfanrwydd, fel y Grand National, angladd aelod o'r Teulu Brenhinol a rhaglen gyntaf Big Brother (sy'n fuan iawn!). Roedd hi'n cup final day ddoe, wrth gwrs.
Roedd y gem yn ardderchog. Dwi'n dweud hynny fel cefnogwr Chelsea - un brwd ac unllygeidiog. Dwi'n cofio'r tro diwethaf i Man Utd gwrdd â ni yn y rownd derfynol yn fyw iawn. Aeth Kharine y ffordd anghywir ddwywaith ac fe gollodd Dennis Wise ganpunt ... Ond oes wahanol oedd honno!
Mae hi'n galondid gweld dau flogiwr Cymraeg arall yn cefnogi Chelsea - Dogfael a Gwenno. Doeddwn i ddim yn adnabod yr un cefnogwr Chelsea arall tan yn ddiweddar. Ers i ni gael arian Abramovich, maen nhw i gyd yn dod allan o'r cysgodion. A da hynny.
Fy ail dîm yw Werder Bremen. Dwi'n trio dilyn eu hynt cyn belled â phosib, ond mae hi'n anodd iawn heb Sgorio yn Nghaer-grawnt. Yr unig le dwi'n cael newyddion a sylwadau diddorol ar bêl droed tu hwnt i'r ynys hon yw podlediad Football Weekly y Guardian. James Richardson, neu AC Jimmy, gynt o Football Italia sydd wrth y llyw ac mae newyddiadurwyr papur a we y Grauniad yn cadw cwmni iddo. Mae hi'n rhaglen wych ac yn piso ar raglen "gylchgrawn" chwaraeon newydd y BBC - Inside Sport gyda Gabby Logan.seiriolhttp://www.blogger.com/profile/06840933971518397129noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-15306919.post-48658307141569786642007-05-17T00:11:00.000+01:002008-11-13T18:34:19.867+01:00ClymbleidioMae gwleidyddiaeth Cymru mewn limbo ar hyn o bryd (fel Groundhog Day yn ôl Vaughan Roderick) gyda'r prif bleidiau yn trafod a bargeinio tu ôl i ddrysau caeedig ynglŷn â phwy bydd yn ffurfio llywodraeth yn y Cynulliad yn dilyn etholiad Mai y trydydd.
Diddorol gweld bod Glyn Davies yn defnyddio pob cyfle a gaiff i wthio'r syniad o gael Clymblaid Enfys yn rheoli. Dwi'n meddwl bod Clymblaid o'r pleidiau lleiafrifol yn y Cynulliad nid yn unig yn syniad drwg ond yn anghywir o ran egwyddor.
Llafur yw'r blaid fwyaf yn y Cynulliad, o bell ffordd. Efallai eu bod nhw wedi bod yn lwcus i beidio colli mwy o seddi ond does dim pwynt edrych ar beth allai wedi bod - nhw sydd â'r nifer fwyaf o seddi, cawson nhw 10% yn fwy na'r pleidiau eraill yn yr etholaethau ac 80,000 yn fwy o bleidleisiau rhanbarth.
Nid fy hoff wleidydd ond Prif Weinidog nesaf Cymru, plîs.
Yn fy marn i, mae'n rhaid i'r Blaid Lafur ffurfio rhan o'r llywodraeth.
Byddai cael y Glymblaid Enfys yn rheoli, llywodraeth a fyddai'n gynghrair anhapus o wahaniaethau sylweddol mewn syniadaeth a phersonoliaethau sydd wedi arfer ymaflyd â'i gilydd, a cael Llafur yn brif wrthblaid, y blaid gyda'r mandad democrataidd cryfaf i lywodraethu, yn groes i bob egwyddor o gael senedd wedi'i hethol i gynrychioli ewyllys y bobl. Doedd 'run o mhleidleisiau i eleni dros y Blaid Lafur, ond, o edrych ar bethau o safbwynt amhleidiol, mae'n rhaid gweld prif blaid y Cynulliad yn rhan o'r llywodraeth.
Dyna pam dwi'n meddwl bod y syniad yn anghywir o ran egwyddor. Fel dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, "what is important to me from a constitutional point of view is that we should get a government that reflects what the people voted for."
Haul ar fryn diolch i'r Enfys?
Dwi'n meddwl bod y Glymblaid Enfys yn syniad drwg oherwydd rhyfeddodau'r diwylliant gwleidyddol Prydeinig. I ddefnyddio geiriau Elis-Thomas eto, "our problem is I think we're still under the shadow of the Westminster two-party system. That is not the model of Welsh politics and we shouldn't be applying it." Mae etholiad Alex Salmond yn Brif Weinidog yr Alban a chynnwys ei araith gyntaf yn y swydd honno yn dangos bod rhai wedi dechrau meddwl mewn ffordd sy'n gymwys â'r system etholaeth gyfrannol.
Fe fydd hi'n ddiddorol iawn gweld os / sut bydd y diwylliant gwleidyddol Prydeinig yn newid i ddelio gyda'r clymbleidio sy'n debygol iawn o godi gyda phleidleisio cyfrannol. Fodd bynnag, fel saif pethau ar hyn o bryd, dwi ddim yn meddwl bod neidio i mewn i ben dyfn clymbleidio, h.y y Glymblaid Enfys, yn syniad da o ran datblygiad y ffenomenom newydd yma i Brydain. O anwybyddu'r Gynghrair rhwng yr SDP a'r Rhyddfrydwyr, yr unig glymblaid effeithiol alla i feddwl amdani mewn hanes gwleidyddol Prydeinig diweddar yw'r ddealltwriaeth rhwng yr Ulster Unionists a'r Ceidwadwyr tan iddi ddadfeilio ar ôl y Sunningdale Agreement. (dwi'n anwybyddu unrhywbeth cyn 1945 am resymau cymhleth a (chymharol) anniddorol - dwi am drio peidio ailadrodd fy adolygu yma!)
Mae'n rhaid datblygu diwylliant o gyfaddawdu a chlymbleidio yng Nghymru ac yn yr Alban, ac, ar ôl dim ond wyth mlynedd o bleidleisio cyfrannol, dwi'n ofni byddai cael Clymblaid Enfys i lywodraethu yn naid rhy bell i'r tywyllwch mewn gwlad sydd â'i gwleidyddion wedi arfer yn rhy dda â dadlau, nid cydweithio a phleidiau sydd yn rhy aml yn diffinio eu hunain yn erbyn eu gwrthwynebwyr, nid yn ôl yr hyn gallai gael ei gyflawni er budd y bobl.seiriolhttp://www.blogger.com/profile/06840933971518397129noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-15306919.post-76706645369444506722007-05-16T00:04:00.000+01:002007-05-16T01:45:47.370+01:00Rhod y RheolwyrAr ôl tymor gweddol dawel o hiring and firing yn y Premiership (heblaw am saga Charlton a West Ham, a pan gollodd Chris Coleman ei swydd yn Fulham - penderfyniad hollol dwp), mae 'na ffrwydriad wedi digwydd ers diwrnod ola'r tymor. Gadawodd Sam Allardyce Bolton cwpwl o gemau cyn diwedd y tymor ac erbyn hyn mae wedi cymryd drosodd gan Glenn Roeder yn Newcastle, wedi iddo neidio cyn iddo gael ei wthio. Mae Stuart Pearce wedi cael y sac gan Man City ond dydi Paul Jewell (adawodd Wigan ddiwrnod ar ôl i'r tymor orffen) ddim am gymryd drosodd. Yn ôl ei is-reolwr, Stuart McCall (nes i gwrdd ag ef yn ystod Cynhadledd Geltaidd yn Aberystwyth dau haf yn ôl. Roedd ar gwrs i gael trwydded A FIFA, un cam o dan y drwydded sydd arnoch chi i reoli ar y lefel uchaf erbyn hyn. Dyn neis iawn.) mae Neil Warnock wedi rheoli Sheffield United am y tro olaf - mae cyfarfod i'r wasg yn Bramall Lane yfory.
Warnock a Jewell ar ddiwrnod ola'r tymor - dau begwn
Am unwaith, nid yw'r penawdau am reolwyr yn gadael ei swydd am Jose Mourinho, a da hynny! Dwi'n siwr bydd rhai o'r newidiadau yma'n troi allan i fod yn rhai synhwyrol. Ond, yn amlach na pheidio, nid yw newid rheolwr yn delio gyda'r problemau sydd yn effeithio'r canlyniadau ar y cae. Mae Wigan, oedd yn ei chael hi'n anodd i ddenu chwaraewyr gydag "enwau mawr" yn barod, wedi penodi nobody llwyr - nid syniad gorau'r Cadeirydd. Ar y llaw arall, weithiau mae'n rhaid rhoi'r bai ar y rheolwr a neb arall - er bod Stuart Pearce yn cwyno am beidio cael digon o arian, doedd y chwaraewyr a brynodd gyda'r hyn oedd ar gael jyst ddim digon da - Samaras a Corradi unrhywun? Ac mewn newyddion arall, fe sbowtiodd Big Sam beth mae pob rheolwr newydd Newcastle yn gorfod gwneud, sef galw'r tim yn "massive / big / huge" club yna llyfu tin y cefnogwyr - dylyfu gen.
Mae rownd derfynol Cwpan yr FA penwythnos yma, gyda llaw, a'r newyddion da o safbwynt Chelsea yw bod tri chwarter y tim yn cael llawdriniaethiau heb ganiatâd Mourinho a bod Hilario, ein trydydd gôl-geidwad, yn "mynd i wneud Huth" ac arwain y llinell. Mae hi'n mynd i fod yn benwythnos hir, dwi'n meddwl ...seiriolhttp://www.blogger.com/profile/06840933971518397129noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-15306919.post-78100688260027551462007-05-13T20:20:00.000+01:002008-11-13T18:34:20.096+01:00EurovisionEs i 'barti Eurovision' neithiwr. Roedd na rhyw ddau ddwsin ohonon ni'n gwylio yn stafell gyffredin un o hosteli'r Coleg ac roedd gan bawb ddigon i'w ddweud felly nes i ddim clywed llawer o'r caneuon mewn gwirionedd. Es i â chwpwl o boteli o Amstel, o'r Iseldiroedd, a Staropramen, o'r Weriniaeth Siec gyda fi. Wrth gwrs, doedd 'run o'r rhieny wedi llwyddo i gyrraedd y rownd derfynol ...
Mae rhai o'n ffrindiau yn hoff iawn o'r Eurovision. Bron iddi fynd yn ffeit go iawn rhwng dau ffrind dros sawl gwaith mae'r Deyrnas Unedig wedi bod yn fuddugol (pump, gyda llaw). Roedd llawer o waith cynllunio wedi mynd mewn i'r noson. I gychwn, roedd pawb yn dewis baner fechan ar hap ac yn mabwysiadu'r wlad honno. Rwsia oedd fy ngwlad i - tair merch mewn siwtiau du yn canu geiriau dodgy iawn (e.e rho geiriosen ar ben fy nghacen - wyt ti am fwyta fy nharten geirios?) ar dôn eitha di-ddim, Anglo-Americanaidd. Roedd DS a RHR wedi trefnu gem yfed gymhleth oedd yn cynnwys pethau fel "yfed gwerth bys bob tro mae newid cyweirnod a thri bys os digwydd symudiad dramatig yr un pryd", "yfed gwerth dau fys pan fydd tân gwyllt", "gorffen eich diod erbyn diwedd cân eich gwlad" a "gorffen eich diod os bydd dilledyn yn cael ei dynnu."
Nes i ddim cymryd rhan blaenllaw yn y gem - dwi ddim yn un am feddwi'n systematig - ac fe aeth pethau'n fwy cymhleth gyda chyhoeddi'r canlyniadau. Bob tro i wlad roi 12 pwynt i wlad sy'n ei ffinio roedd rhaid yfed ac roedd gan gynrychiolydd y wlad i gael y mwyafswm pwyntiau yr hawl i enwebu rhywun arall i yfed tri bys. Cafodd NJ, cynrychiolydd Serbia, wy Kinder fel gwobr.
Gwaraidd iawn.
Hyd yn oed yng nghacoffani'r stafell gyffredin, roedd hi'n bosib "gwerthfawrogi" y gagendor rhwng diwylliant poblogaidd a diwylliant Eurovision. Dwi ddim yn deall pam bod hyn y bod. Dwi'n meddwl dylai Eurovision fod yn un gangen ar y goeden enfawr honno a elwir yn "ddiwylliant poblogaidd", nid blodyn sydd wedi miwtêtio ar goeden ym mhen draw'r ardd.
Dwi'n meddwl mai dyma effaith mwya'r Rhyfel Oer. Collodd trigolion yr Undeb Sofietaidd ar ddegawdau o canu pop a ffasiynau ac maen nhw'n araf ddal i fyny. Mewn pum mlynedd, bydd rhywun o Facedonia yn canu cân yn defnyddio geiriau Auld Lang Syne ar un o alawon siant y Presbyteriaid Cymreig, dwi'n siwr.seiriolhttp://www.blogger.com/profile/06840933971518397129noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-15306919.post-11238418667184625982007-05-11T18:21:00.000+01:002007-05-17T01:09:27.623+01:00Safle dyn yn y bydMae na lot fawr iawn o sôn am hanes yn y cyfryngau ar hyn o bryd. Am bob stori sydd na yn croniclo degawd Tony Blair wrth y llyw, mae na stori arall drws nesa iddi am "beth fydd lle Tony Blair mewn hanes" neu "sut bydd hanes yn edrych ar Tony Blair."
Er mor dda yw peth o'r ysgrifennu, dwi ddim yn rhy hoff o'r syniad o ddarogan "dyma sut bydd hanes yn gweld Blair". I gychwyn, mae canwaith mwy wedi'i sgwennu am Blair nac am unrhyw arweinydd Llafur arall - mae Blair wedi'i osod yn ei le gan haneswyr yn barod. Bydd safle Blair, a chi a fi a phawb arall, mewn "hanes" yn amlwg yn cael ei benderfynu gan bwy bynnag sy'n digwydd bod yn ysgrifennu hanes mewn degawd, hanner canrif neu mileniwm a'u hamgylchiadau nhw. Dyw safle un person mewn "hanes" byth yn aros yn llonydd.
Mae llawer o'r sylwebaeth yn tynnu sylw at fethiannau diweddar polisi tramor y llywodraeth. Mae'r ail erthygl uchod yn cymharu effaith Irac ar Lafur Newydd gydag effaith Vietnam ar raglen Great Society Lyndon Johnson. Dwi'n astudio hanes America ac mae rhyfel Vietnam yn cael ei gofio am nifer fawr o resymau ond mae'r Great Society yn cael ei gofio am waith un dyn: Lyndon Johnson. Yn yr un modd, dwi'n meddwl bydd rhyfel Irac a'r ymladd sy'n parhau i fynd mlaen yno yn cael ei roi mewn darlun lledaenach na "Tony Blair" ar ôl i'r gynnau dawelu.
Bydd y diwygiadau a'r llwyddiannau yn y Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael eu cofio ond mae rhoi blaenoriaeth i'r rheiny wedi troi yn rhaid gwleidyddol ym Mhrydain erbyn hyn, gyda cymaint o etholwyr y wlad yn gweithio iddyn nhw. Dwi'n siwr bydd "record investment" mewn addysg ac iechyd yn rhywbeth fydd yn self-perpetuating tan i'r chwyldro gyrraedd.
Dwi'n meddwl bydd Tony Blair yn cael ei gofio am y newidiadau hynny sydd wedi digwydd yn y ffordd mae'r llywodraeth yn ceisio rhedeg y wlad. Mae gan Blair y record bleidleisio waethaf yn Nhy'r Cyffredin gan unrhyw Brif Weinidog erioed ac mae aelodau'r Ty wedi arfer cymaint â mynd yn erbyn doethineb eu plaid erbyn hyn (a Ty'r Arglwyddi x 10) nes y bydd hi'n anodd iawn i rhywun redeg llywodraeth gyda mwyafrif bychan mewn blynyddoedd i ddod. Mae'r wythnos seneddol yn fyrach nac erioed ac mae llai o drafod mesurau ar y llawr na bu erioed o'r blaen.
Mae'r ymchwydd yn y galwadau i gael etholiad cyffredinol yn union wedi i Brown gymryd drosodd fel Prif Weinidog yn dangos pa mor bell ry'n ni wedi mynd o fod yn ddemocratiaeth seneddol i fod yn gymysgedd rhyfedd iawn o gael teulu Brenhinol ac Arlywydd ond bod pob etholaeth yn mynd yn debycach i is-etholiadau bychain.
Cawn weld sut bydd "hanes" yn edrych ar ei newidiadau cyfansoddiadol - yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban, yn Nhy'r Arglwyddi ac yng Nghymru - ynghŷd â'r modd mae'r cysylltiad rhwng y llywodraeth a'r senedd wedi newid yn sylfaenol ... Dyna dwi'n gweld fel newidiadau pwysicaf tymor Tony Blair.seiriolhttp://www.blogger.com/profile/06840933971518397129noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-15306919.post-39835960324387532512007-05-11T01:27:00.000+01:002008-11-13T18:34:20.357+01:00Bwrw BlogiauEr nad yw hi'n hollol amlwg o beth dwi'n sgwennu ar y blog, dwi'n hoffi meddwl am wleidyddiaeth. Yn fwy na hynny, dwi'n hoff iawn o etholiadau. Mae fy niddordeb hanesyddol yn bennaf ar yr hyn a elwir yn ‘high politics’, hynny yw, gwleidyddiaeth personoliaethau a hunan-ddiddordeb coridorau (cefn) pwer, ymhell o ‘fywyd go iawn.’ Rydw i’n gweld etholiadau’n ddiddorol gan mai dyma gyfle’r ‘byd go iawn’ i atgoffa’r gwleidyddion eu bod nhw’n gwrando ar yn gwylio.
Dwi wedi mwynhau dilyn Etholiadau'r Cynulliad yn fawr iawn. Roeddwn i'n aml yn teimlo dylwn i fod yn cyfrannu rhywbeth at yr ymddiddan blogiol ond mae hi'n anodd iawn i rywun oedd mor bell o realiti'r etholiad allu dweud unrhywbeth newydd na diddorol. Dwi wedi cael blas arbennig ar y rhai hynny o'r blogiau sydd wedi bod ar dân yn ystod y cyfnod diweddar (boed yn sylwadau crafog Vaughan Roderick ac Blamerbell, yn adroddiadau o faes y gad (aka Heol y Wig) gan Dogfael, yn aralleiriad o'r party line gan Rhys Llwyd ayyb) - mae gweld cymaint o action blogaidd wedi gwneud i fi eisiau bod yn rhan o'r holl beth eto.
Fues i'n sgwennu erthygl fer ar gyfer y Tincer am yr etholiad echddoe. Roeddwn i fod i roi sylwadau ar sut llwyddodd yr ymgeiswyr lleol gael eu neges ata i. Doedd hynny ddim yn hawdd iawn - dwi mond wedi bod adre ers pythefnos ers canol mis Ionawr! - felly nes i ledaenu'r neges rhyw ychydig. Dwi'n eitha bodlon gyda'r darn gorffenedig, er ei fod braidd yn frysiog.
Unig "neges" y darn oedd rhoi rhybudd bychan i'r rhai hynny oedd yn sôn am yr etholiad fel trobwynt hanesyddol yn y Blaid Lafur. Fues i'n darllen am etholaid cyffredinol 1983 ar ôl dod nôl o America dros yr haf. Ar rhaglen ganlyniadau'r etholiad hwnnw, pan fu gostyngiad tua 10% yn y bleidlais Lafurol ac enillodd y Toriaid y nifer mwyaf o seddi ers oesoedd, dywedodd JohnDaviesHanesCymru bod yr etholiad yn drobwynt maw - bod Cymru nawr yn rhan o'r darlun gwleidyddol Prydeinig, hegemoni'r Blaid Lafur a diwylliant gwleidyddol unigryw Cymreig wedi dod i ben. Yn ystod y rhaglen eleni, dywedodd Richard "Dicw" Wyn Jones bod hwn yn drobwynt mawr - bod hegemoni'r Blaid Lafur yn y de wedi dod i ben.
Roedd John Davies (aka Tony Benn) yn anghywir ddwywaith a dwi'n ofni bydd Dicw'n anghywir unwaith hefyd.seiriolhttp://www.blogger.com/profile/06840933971518397129noreply@blogger.com1tag:blogger.com,1999:blog-15306919.post-18208320132402039892007-05-11T00:25:00.000+01:002008-11-13T18:34:20.799+01:00McFly! Eto!Doedd y cyfnod yng Nghaer-grawnt rhwng dychwelyd o'r "Gogledd" a mynd adre am y Pasg ddim yn rhyw amser diddorol iawn. Fe ddechreuais i ar rywfaint o waith ond roedd tempo'r gwaith yn hamddenol iawn. Mae gen i fy stafell yn y coleg am 35 wythnos eleni, sy'n golygu fy mod i'n gallu aros ynddi drwy'r gwyliau os hoffen i. Does gan bawb mo'r cyfle na'r cymhelliad i aros yma tu allan i amser tymor.
Flash! Bang! McFly ar y llwyfan!
Fe alla i ddeall hynny'n hawdd. Mae Caer-grawnt yn le high pressure a weithiau mae dyn jyst eisiau dianc. O ymweld â fy annwyl chwaer am dair mlynedd cyn dod yma fy hun, dwi'n gyfarwydd gyda Chaer-grawnt o safbwynt gwahanol. I mi, mae Aberystwyth ar ei orau ym mis Medi - dim myfyrwyr, dim twristiaid - ac mae rhywbeth tebyg yn wir yma. Doedd dim cymaint â hynny o bobl o gwmpas yn ystod y gwyliau ond golygodd hynny bod pawb yn fwy parod i drefnu i wneud "pethau" o flaen llaw, fel coginio, gweld ffilm, gwylio'r teledu neu cael parti gin a chips.
Er mod bleserus oedd y digwyddiadau hynny, uchafbwytn diamau y gwyliau oedd mynd i'r Gyfnewidfa Rawn gyda DH i weld McFly. Fel gwydd darllenwyr rheolaidd y blog hwn, cefais fy mhrofiad cyntaf o gig arena yn yr NEC ym Mirmingham fis Medi 2005 yn gweld McFly. Mae'r Gyfnewidfa Rawn yn ddipyn llai ac roedd ymweliad y band gyda'r dref yn rhan o'u taith "Up Close and Personal" - taith i lefydd lle nad oes arena na neuadd gyngerdd anferth.
Agorwyd y noson gan Lil' Chris. Daeth i amlygrwydd ar raglen Rock School ar Channel 4 lle aeth Gene Simmonds o Kiss i ysgol uwchradd "arferol" a dysgu'r plant sut i rocio a rolio. Dwi'n amau bod Lil' Chris yn cymryd tabledi gwrth-hormon i wneud iddo aros yn "Lil'" am byth. Ar ôl rhywfaint o Ddj-io pseudo-gawsaidd-90au-canol, fe ddaeth McFly i'r llwyfan.
Dougie yn dechrau'r gân olaf
Roedden nhw'n dda iawn. Fe allech chi ddweud lot o bethau cas am McFly a pheidio bod yn bell iawn o'r gwirionedd (roedd eu hapêl i bawb decstio rhyw rif yn y fan a'r lle i dalu £1.50 i brynu eu sengl newydd yn eithaf isel), ond byddai ceisio ymosod ar eu dawn gerddorol yn gam gwag. Dwi ddim yn cofio'r set yn glir iawn erbyn hyn ond roedd na gyfuniad o'r dair albym, gyda mwy yn dod o'r un fwyaf diweddar, wrth gwrs. Daeth Anneka Rice ar y llwyfan hanner ffordd drwodd i ofyn i'r bechgyn recordio cân ar gyfer CD i blant mewn hospis. Fe wrthododd y band o flaen cannoedd o bobl, wrth gwrs.
<object width="425" height="350"><param name="movie" value="http://www.youtube.com/v/efdYgaA5RW0"></param><param name="wmode" value="transparent"></param><embed src="http://www.youtube.com/v/efdYgaA5RW0" type="application/x-shockwave-flash" wmode="transparent" width="425" height="350"></embed></object>
Noson dda. Hwyl, sbri, cerddoriaeth bop safonol, diod neu ddau - perffaith.seiriolhttp://www.blogger.com/profile/06840933971518397129noreply@blogger.com1tag:blogger.com,1999:blog-15306919.post-16749539477721798352007-04-07T01:33:00.000+01:002008-11-13T18:34:21.353+01:00AccessMae gan bob coleg rhai awdurdodau addysg i'w targedu i ddod â myfyrwyr o gefndir na fyddai fel arfer yn ystyried ymgeisio i Gaer-grawnt i'r Brifysgol. Gan fod disgwyliadau academaidd Caer-grawnt yn eitha uchel, mae codi ymwybyddiaeth gyffredinol o fudd Prifysgol yn rhan o raglenni colegau fel arfer hefyd. Mae Coleg y Brenin, fy ngholeg i, yn adnabyddus am gael y canran uchaf o fyfyrwyr o ysgolion y wladwriaeth ac yn un o'r colegau mwyaf egniol wrth geisio denu ymgeiswyr "not from traditional backgrounds." Dyw Coleg y Brenin ddim yn wag o fyfyrwyr ysgol bonedd ac mae canran eitha sylweddol yn dod o ysgolion gramadeg yr Home Counties, ond mae enw da (neu ddrwg, yn nhyb rhai) ganddon ni fel coleg sy'n trio'n galed i agor drws Caer-grawnt i bawb.
Eira! O ffenest y gwesty
Gyda hynny mewn golwg, aeth pedwar-ar-ddeg ohonon ni i Darlington, Hartlepool a Middlesbrough i siarad gyda phlant blwyddyn 10 a chweched dosbarth am bedwar diwrnod. Roedden ni'n aros yn y Bluebell Lodge yn Acklam, ar gyrion Middlesbrough - fel Travelodge ond yn sownd at dafarn ac yn teimlo fel gwesty moethus yn Dresden circa 1975. Roedden ni'n mynd i ddwy neu dair ysgol y dydd yn gweld grwpiau "gifted and talented" blwyddyn 10 neu faint bynnag o'r 6ed oedd yn boddran troi i fyny. Fe setlodd pawb i mewn i'w rôl ac ein rwtin i mewn ffurf ddisymud yn gyflym iawn. Heb drefnu sgript na dim byd o flaen llaw, roedden ni'n dweud bron iawn yn union yr un peth wrth bob grwp.
[ Diflas - Fformat arferol: gem sefyll i fyny os chi'n meddwl "ie" (e.e sefwch os y chi'n meddwl bod Caer-grawnt yn ddrytach na Phrifysgolion eraill, sefwch os y chi'n adnabod rhywun sy'n mynd i Brifysgol), gem dyfalu pwy yw'r person aeth i Gaer-grawnt ni'n ei ddisgrifio (e.e mae ganddo wyneb hir fel ceffyl ac mae ei enw yn swnio fel peth gwneud stwffin > Jeremy Paxman [Gwyliwch hwn]), gem Call My Bluff (ar yr un llinellau â'r gem arall), tynnu llun o fyfyriwr stereotypical Caer-grawnt, a gorffen gydag ateb cwestiynau am "pam dylen i fynd i Brifysgol" a "sut fywyd sydd gan fyfyiwr yng Nghaer-grawnt." ]
Dwi'n meddwl i ni gael effaith go iawn ar rai o'r plant. Gan ein bod ni mond mewn ysgol am awr neu ddwy, teimlai'r ysgolion y dylen ni weld y rhai oedd gyda'r mwyaf o obaith i gael mynd i'r Brifysgol h.y grwpiau "gifted and talented" sef 10% "gorau" yr ysgol. Doedd dim fath beth yn bodoli ym Mhenweddig felly roedd gen i ddiddordeb i gael gweld sut oedd y grwpiau yma'n cael eu rhoi at ei gilydd. Roedd na ddipyn o amrywiaeth rhwng yr ysgolion ond thema barhaol oedd "teacher recommendation." Dwi ddim yn gyfforddus o gwbl gyda'r syniad yma o rannu'r disgyblion a rhoi teitl mor erchyll â "gifted and talented" iddyn nhw. Wedi dweud hynny, doedd ein rhoi ni mewn setiau ddim yn effeithio ar ein harmoni cymdeithasol yn yr ysgol (ond falle mod i'n dweud hynny gan mod i'n top set bob pwnc).
JT, Jeremy Beadle ac AB. Roedd athro celf yr ysgol hon yn tynnu llun o westai arbennig dydd gwobrwyo'r ysgol bob blwyddyn. Bisâr.
Roedd effaith Llafur Newydd i'w weld ym mhob ysgol. Ysgolion crefyddol (Catholig) neu arbenigol (mewn chwareon, drama dawns etc, peirianneg) oedden nhw i gyd. Yn Middlesbrough, mae pob ysgol yn arbenigo mewn rhywbeth heblaw am ddwy ysgol. Mae dwy ysgol Babyddol yn y dref ac mae un yn derbyn miliynau yn fwy o bres bob blwyddyn oherwydd eu status "arbenigedd." Does bosib bod hyn yn deg ar y plant sy'n mynd yr ysgol "arferol." Tueddai'r athrawon i fynd yn eitha negyddol neu amddiffynol wrth geisio egluro'r system i ni - wn i ddim beth roedd hynny'n ei ddangos am yr ysgolion, chwaith.
Ac yn ôl i Gaer-grawnt am gwpwl o wythnosau i ymlacio ac i ddechrau gweithio cyn mynd adre am y Pasg. (dwi'n ymwybodol bod y darn yma'n hir ac yn dweud ychydig ond dwi wedi bod yn ei sgwennu ers cyhyd nes mod i'n teimlo bod rhaid ei anfon)seiriolhttp://www.blogger.com/profile/06840933971518397129noreply@blogger.com1