Ry'n ni i gyd yn mynd ar wyliau haf ...
Rydw i ar fin cychwyn i Borthmadog i fynd i Wyl Ddeuddydd Miri Madog yng nghanol cawodydd erchyll o law. Mae’r daith yma i’r gogledd dod ar ddechrau cyfnod o fwynhau diamod ac afradus. Dwi’n aros ym Mhorthmadog heno mewn pabell, dod adre ddydd Sul ac yn cychwyn am wyliau am dridau yn Nulyn ben bore Llun. Fe fyddai’n cyrraedd yn ôl ddydd Mercher ar gyfer sobri ac yna casglu fy nghanlyniadau lefel A. Mae hi’n mynd i fod yn wythnos ddrud ond dwi’n siwr fydd yr hwyl yn werth bob ceiniog.
Nid y daith i Ddulyn fydd fy ngwyliau cyntaf eleni, gan mod i wedi bod yng Ngwlad Pwyl gyda Cherddorfa’r Tair Sir eisoes yr haf yma. Mae na luniau o’r daith ar fy flickr i ac hefyd ar gyfrif flickr Tair Sir a gan Rhodri. Roedd hi’n daith lwyddiannus iawn ym mhob ffordd. Roedd yr ochr ‘gerddorfaol’ yn hynod o dda, yn ôl ei arfer, er bod rhaid i ni chwarae pedwerydd symffoni Tchaikovsky heb dimpani yn un o’r cyngherddau. Roedd y gynulleidfa ar eu traed yn ein tri chyngerdd.
Roedd yr ochr gymdeithasol yn iach iawn eleni eto er fod y gerddorfa wedi’i rhannu’n ddwy oherwydd lle ar yr awyrennau i fynd â ni i Krakow. Un o’r uchafbwyntiau i bawb dwi’n meddwl, os allwch chi ei alw’n uchafbwynt, oedd mynd i wersyll Auschwitz yn Oswecim ac i wersyll Auschwitz-Birkenau i lawr y ffordd. Er fod na rai lluniau i fyny ar y we, wnes i ddim tynnu llawer yno o’i gymharu gyda rhai aelodau eraill o’r gerddorfa a fynnai dynnu lluniau o bopeth - o’r siambrau nwy i eiddo’r rhai a gafwyd eu llofruddio yno. Doeddwn i ddim eisiau lluniau o le bu farw miloedd o bobl ar fy nghyfrifiadur nac yn fy meddiant. Roeddwn i wedi ymweld a gwersyll tebyg yn Saschenhausen ac wedi darllen llyfr ardderchog Sybille Steinbacher, Auschwitz: A History felly roeddwn wedi paratoi fy hun yn llawn ac yn barod i elwa’n llawn o’r profiad.
Ar ôl diwrnod neu ddau yn Krakow, aethon ni i lawr i ganol mynyddoedd y Tatras i dref Zakopane. Roedd y dref yn llawer mwy bywiog na Krakow ac roedd naws ieuengach yno rywsut. Un o uchafbwyntiau’r daith i mi oedd rhoi ein cyngerdd olaf yn Eglwys y Groes Sanctaidd yn y dref. Roedd pensaernïaeth yr Eglwys yn gyfoes iawn ac yn eitha mentrus - roedd yr organ yn ffantastig - a roedd y bobl yr un mor fodern yn eu diwinyddiaeth gan eu bod yn cynnal cartref i blant amddifad yn y seler. Fe gyflwynwyd ail symudiad y symffoni, yr Andantino in mode di Canzone (mae modd gwrando ar glip yma ond dydw i ddim yn meddwl llawer o’r recordiad), fel teyrnged i’r rhai a fu farw ar Fehefin y 7fed yn Llundain.
Daeth y daith i ben ar ôl taith ar hyd afon ym Mharc Cenedlaethol Pieninsky (dwi ddim yn hollol siwr o hyn - dydy fy Mhwyleg i ddim yn dda iawn), sy’n ffinio gyda Slovakia. Fe ges i amser gwych ar y daith - roedd y Pwyliaid yn groesawgar, eu wodka yn blasu o rywbeth heblaw am anti-freeze a’r bryniau’n wyrdd. Ewch yno cyn iddyn nhw ymuno â’r Ewro a tra bod y bwyd a’r ddiod yn rhad!
No comments:
Post a Comment