17.8.05

Dulyn

Ychydig dros ddeuddeg awr ar ôl ysgrifennu’r neges ddiwethaf ar y blog, roedd hi’n amser dal y tacsi a mynd am Ddulyn. Roedden ni, fel criw o ffrindiau, wedi hanner bwriadu mynd ar wyliau tramor i ddathlu ar ôl gorffen ein harholiadau lefel A ond doedd neb digon brwdfrydig i fynd â’r maen i’r wal, felly yma, yn Aberystwyth, y bu’r dathlu bryd hynny. Wedi dweud hynny, roedd na ddigon o draed yn anesmwyth i ni benderfynu mynd dramor ychydig ymhellach ymlaen yn ystod y gwyliau haf. Dewiswyd Dulyn fel pen y daith yn weddol gynnar yn y trefnu a daeth y criw dethol at ei gilydd yn yr un modd. Roedden ni am fynd am y pris rhataf posib, felly penderfynwyd mynd o ddydd Llun tan ddydd Mercher. Fel y daeth hi’n agosach at y gwyliau, fe ddaeth hi’n amlwg ein bod wedi dewis gwyliau a fyddai’n gorffen y diwrnod cyn i ni dderbyn ein canlyniadau felly daeth y gwyliau yn ddathliad o flaen llaw yn y diwedd.

Roedd y siwrne i lawr i Gaerdydd yn braf - dwi’n hoff iawn o deithio ar ffyrdd gwag gyda’r tarth yn codi fel amdo dros y caeau. Yr hediad o Gaerdydd i Ddulyn oedd y byrraf i mi fod arni erioed, yn rhyw gwta ddeugain munud. Roedd gwasaneth Ryanair yn un hysbyseb hir ond roedd y pris yn dda. Ar ôl cyrraedd y gwesty, yr Harcourt Hotel, doeddwn i ddim yn credu ein lwc. Doeddem ni ddim wedi talu llawer amdano, rhyw £30 y noson, ond roedd y stafelloedd yn helaeth a’r lleoliad yn berffaith, jyst oddi ar St Stephen’s Green.

Fe aeth pnawn dydd Llun a’r nos heibio mewn gwahanol fwytai, bariau, tafarndai a chlybiau nos. Yn anffodus, anghofiais fy nghamera felly mae’r noson wedi dengid i bwll angof cwrw am byth. Ceisiais wneud yn iawn am fy nghamwedd a gweld ychydig o’r ddinas ben bore dydd Mawrth (ddim wir ben bore ond ben bore am fachgen 18 oed ar daith piss-up). Cofiais fy nghamera nos Fawrth, ond does dim byd syfrdanol ar gof a chadw, dim ond lluniau dirifedig o fi a’n ffrindiau yn mynd yn raddol fwy meddw mewn nifer esgynnol o dafarndai.

Er mor wael fy nisgrifiad o’r daith (gan gofio fod fy rhieni yn debygol o ddarllen hwn), gallaf eich sicrhau ein bod wedi joio mas draw. Mae Dulyn yn brifddinas Ewropeaidd fyw gyda thrigolion hyfryd a thafarndai heb eu hail. Ry’n ni wedi addo mynd yn ôl eisoes.

No comments: