19.8.05

Canlyniadau

Fe ddaeth yr awr ac fe ddaeth y canlyniadau!

Fe fues i’n slei iawn ac edrych ar wasanaeth UCAS Track cyn mynd i’r ysgol, felly cefais i mo’r profiad canlyniadol go iawn mae’n debyg. Edrych allan o ymyrraeth yn fwy na dim wnes i, ond roeddwn i’n hapus iawn i weld fod y geiriau ‘Conditional Offer’ gyferbyn â Phrifysgol Caer-grawnt wedi newid i ‘Accepted’. Roedd yr holl broses UCAS drwy gyfrwng i Saesneg i mi gan fy mod wedi ceisio am o leiaf un Prifysgol tu allan i Gymru, gyda llaw. Mae eu gwasanaeth ar-lein yn Saesneg i bawb. Beth bynnag am hynny, roeddwn i wedi gwneud digon i gael mynd am Gaer-grawnt! Gwych!

Roedd derbyn fy nghanlyniadau yn yr ysgol yn ychydig o anti-climacs yn sgil cael syniad o’r hyn roeddwn i’n mynd i’w dderbyn adre. O wybod fy mod wedi cael o leiaf tair A, roeddwn i’n eithaf ffyddiog y byddwn yn cael pedair, ond yn anffodus, roeddwn i wedi gwneud yn affwysol o wael yn yr arholiad Almaeneg, GR6, a boddodd fy Deutsch ddau farc oddi ar lan y radd A. Mae’n rhaid i mi gyfaddef mod i’n eithaf siomedig, er nad yw’n gwneud gwahaniaeth i safon fy Almaeneg nac i ba Brifysgol y byddaf yn mynd iddi, ond am fy mod yn gallu bod yn berffeithydd, ac am fod y ddau farc yna’n mynd i aros gyda mi.

Yn anffodus, roedd rhaid i mi fynd yn syth o’r ysgol i’r gwaith, yn yr adran ddigido yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’r gwaith yn rhy ddiflas i roi arlliw ohono yma, hyd yn oed, ond mae’n talu’n dda ac roedd angen gwneud amser i fyny ar y ‘cloc’ (darn o bapur - dwi ddim digon pwysig i gael cerdyn clocio’i fewn) ar ôl cymryd diwrnod yn hwy na’r hyn roedd gen i’n wyliau ar ôl bod yn Nulyn. Doedd dim egni na chwant gen i fynd allan i ddathlu nos Iau (cabledd!) felly cefais noson dawel o flaen y teli bocs ac yn chwarae Football Manager 2005.

Felly 273 diwrnod ar ôl i’r broses ddechrau gyda fy ffurflen UCAS yn cael ei hanfon, mae’r ‘freuddwyd’ wedi ei gwireddu - dwi’n mynd i Goleg y Brenin - mae'r llythyr derbyn wedi ei anfon. Mae’r tymor yn dechrau ar y trydydd o Hydref a dwi’n methu aros. Nawr mod i’n gwybod lle fyddai’n mynd, mae’r cynnwrf yng ngwaelodion y bol wedi cychwyn go iawn.

4 comments:

Dafydd Tomos said...

Llongyfarchiadau i ti a phob lwc yn y coleg (mae hyn yn profi fod rhywun yn darllen dy flog :)

seiriol said...

Diolch, dafydd. Mae'n braf bod nôl yn blogio. Dwi'n mwynhau dy flog yn fawr iawn, gyda llaw, yn enwedig yr electropop. Lle wyt ti'n hostio'r ffeiliau?

Dogfael said...

Llongyfarchiadau iti. Pob hwyl yn y coleg. Paid ag anghofio amdanom yng Nghymru fach gyda'r holl snobs 'na!

Dafydd Tomos said...

Seiriol, dwi'n storio'r ffeiliau ar fy nghweinydd fy hun ond dwi'n hapus i roi lle i unrhyw gerddoriaeth Cymraeg da..