23.1.13

Rhinwedd y Cyffredin yw Taclusrwydd



Rydw i'n berson sy'n hoffi nod trefnus a thaclus fel rhestr siopa manwl a rysait i'w ddilyn; neu Post-it Note o dasgau i'w cyflawni at fy nesg yn y gwaith.


Fel rhan o hynny, dwi'n hoffi dilyn cyfresi teledu a ffilm o'r naill ben i'r llall. Ar hyn o bryd, dwi'n gwylio'r gampwaith The West Wing am y pumed tro, The Sopranos am yr eildro a phumed cyfres Mad Men. Fe dreuliais i benwythnos cyfan yn y gwanwyn yn gwylio holl ffilmiau James Bond yn eu trefn, o Dr. No Quantum of Solace.


Ond ar ôl teimlo mod i'n bod braidd yn ddigyfeiriad gyda darllen a gwylio ffilmiau'n ddiweddar, dwi wedi penderfynu mynd ati o ddifri i osod strwythur i'r hyn dwi'n ei ddarllen a'i wylio, fel bod gen i nod taclus i'w gyrraedd a chyfres i'w dilyn o un pen i'r llall.

Y nod llenyddol yw darllen holl (ish) weithiau Mihangel Morgan yn nhrefn eu cyhoeddi (ish). Yr eironi yw mai 'rhinwedd y cyffredin yw taclusrwydd' yn ôl Mr Cadwalader, prif gymeriad Dirgel Ddyn, reit ar ddechrau'r nofel gyntaf ar y rhestr gan gyfeirio at A Special Day (aka Una giornata particolare), hen ffilm Eidalaidd gyda Sophia Loren.

Sy'n ein harwain at hen ffilmiau tramor: dwi wedi penderfynu gwylio'r hanner cant o ffilmiau gorau erioed yn ôl rhestr 'Sight and Sound' y BFI, i ledaenu fy ngorwelion ac i ddysgu dipyn bach mwy am sinema'r byd. Dyma'r rhestr: http://www.bfi.org.uk/news/50-greatest-films-all-time

Fe benderfynais i bod rhaid i mi wylio'r ffilmiau i gyd, dim ots pa mor gyfarwydd oedd y ffilm na phryd oedd y tro diwethaf i mi ei gweld - rhaid gwylio eto.

Erbyn hyn, dwi wedi gwylio pedair ffilm ar ddeg o'r rhestr - hen ffilmiau'n bennaf a'r rhan fwyaf yn rhai tramor. Dwi wedi gwylio ffilmiau doeddwn i 'rioed wedi clywed amdanyn nhw, ffilmiau mud, ffilmiau arbrofiol, ffilmiau trist a llawen.

Dwi heb fwynhau bob ffilm hyd yn hyn (Pierrot le Fou yr isafbwynt hyd yma) a dwi ddim yn siwr pam bod ambell ffilm mor uchel ar y rhestr (La Regle de Jeu yn y pump uchaf?!) ond dwi'n mwynhau'r profiad.

Y thema gyffredinol ymysg y ffilmiau yw bod llawer ohnyn nhw'n torri tir newydd, fel un o'r rhai diwethaf i mi ei gwylio - Man with a Movie Camera, ffilm sy'n dangos bywyd bob dydd y 20au yn Rwsia trwy dorri cyflym sy'n troi'n hypnotaidd o rythmig erbyn y diwedd.

Heb os, y ffilm dwi wedi ei mwynhau fwyaf hyd yn hyn yw City Lights, ffilm Charlie Chaplin o 1931 sy'n gydradd olaf ar y rhestr o hanner cant ond ffilm wnaeth i mi chwerthin yn uchel yng nghanol pathos chwerwfelys stori garu'r ffilm.

Nesaf ar y rhestr mae Gertrud, ffilm o Ddenmarc o'r 60au doeddwn ni 'rioed di clywed amdani tan i'r DVD gyrraedd o Lovefilm.

Dwi'n dal i ddysgu (er, dwi ddim am droi'n snob dros nos - dwi di gwylio'r Amazing Spiderman a Ratatouille yn weddol ddiweddar... ac mae rheiny'n ffilmiau gwych hefyd!)

16.9.10

Mad Menyn

Dyna beth dwi'n galw pennod o Mad Men.

Does dim angen 200 o eiriau gen i ar ba mor wych yw'r gyfres yma - mae sawl un yn cynnwys Charlie Brooker wedi gweld hynny yn llawer mwy huawdl na mi.

I ddweud y gwir, mae erthyglau a blogs yn meddwi ar ba mor wych yw Mad Men yr un mor boblogaidd â'r rhaglen ei hun erbyn hyn ac wrth ddarllen un o'r adolygiadau hynny, gan David Hare yn G2 y tro hwn, fe ddes i ar draws gymal difyr iawn.

Tra bod y ddadl 'Mad Men yn berthnasol i fywyd go iawn G21 oherwydd y duwch seicolegol tu ôl i gyfalafiaeth' wedi ennill ei phlwyf, does neb (am wn i) wedi sôn am berthnasedd Mad Men i Gymru a'r iaith Gymraeg.

Neidiodd y cymal yma am y gyfres gan Hare oddi ar y dudalen:

it features aspirational characters who think they want to move up through society, but who are then haunted by the feeling that gain is loss.

Fe allai Hare fod wedi ysgrifennu'r union frawddeg am Yr Iaith!

Ac o feddwl yn ddyfnach am y gyfres, mae'r holl yn beth yn troi mewn i drosiad am y Gymraeg - Don Draper a'i hunaniaeth ansicr, dauwynebog; Peggy Olsen yn ceisio gadael hualau eu chefndir crefyddol a byw'n hyderus yn y ddinas ond yn gorfod talu'r pris am wneud; Roger Stirling yn byw'n llac cyn cael ei hanner lladd gan drawiad ac addo i ddychwelyd at ei deulu ond wedyn cefnu arnyn nhw eto fyth. Ac yn y blaen!

Sgwn i os mai gweledigaeth Matthew Weiner oedd cyfres Fawr Drosiadol am y Gymraeg...

2.9.10

Un peth bach

Gyda thaith i Gaerdydd, diwrnod hir a rhaglen fyw yfory, dwi wedi penderfynu rhoi cofnod atgyfodedig ar y blog hwn (am yr n-fed tro, ie dwi'n gwybod, sori) ar ddiwrnod y 'Pethau Bychain' i fyny ychydig bach yn gynnar.

Wel, beth dwi wedi bod yn gwneud ers mis Rhagfyr 2008? Dweud pethau anniddorol ar Twitter a gweithio, gan fwyaf. Ac mae hynny'n iawn. Felly pam ailddechrau'r blog? Ambell waith dwi'n teimlo bod fwy i'w ddweud na dwi'n gallu mynegi mewn 140 o lythrennau a dwi'n casau pan mae tweets pobl eraill yn gorlifo mewn i ddwy neu dair neges.

Ond nid dyna pam. Yn raddol, mae'r negeseuon dwi'n trydar wedi mynd o fod yn bennaf yn Gymraeg i fod yn ddwyieithog i fod yn bennaf yn Saesneg, fel mae'r nifer o bobl sy'n fy nilyn i'n cynyddu. Plesio fy nghynulleidfa? Trio dod o hyd i fwy o ddilynwyr? Neu jyst meddwl yn Saesneg? Cyfuniad o'r tri, dwi'n credu.

Felly dyma fi'n ailgydio mewn ysgrifennu rhywfaint ar y we yn Gymraeg. Pam? Dod i'r arfer o ysgrifennu. Cyfrannu 'rywbeth' at 'rywbeth'. Yn fwy na dim, ymyrraeth.

Dwi ddim yn addo bydd hyn yn para'n hir iawn nac yn ddiddorol mewn unrhyw ffordd. Plus ça change.

OK hwn, braidd yn sych. Sori! Hwyl ar y ffordd, onest, weyyyy pethaubychain!

Gwrando: Stevie Nicks - Edge of Seventeen.
Darllen: Adrian Mole: The Prostrate Years

19.12.08

Haleliwia



Mae tipyn o ddiddordeb wedi bod yn y fersiynau amrywiol o ‘Hallelujah’ gan Leonard Cohen yn ddiweddar.

Yn gyntaf, daeth y newyddion bod Brigyn wedi cyfieithu’r gân i’r Gymraeg am y tro cyntaf erioed ac wedi cael caniatâd y dyn ei hun i gael gwneud hynny. Stori allan o ddim byd ar gyfer Wedi 7, BBC Cymru’r Byd a’u tebyg. Beth sy’n fwy diddorol am fersiwn Brigyn, fasen i’n dweud, yw bod neges y gân a natur y geiriau wedi’u newid yn llwyr yn y trosiad i’r Gymraeg. Nid cyfieithiad sydd yma ond geiriau cwbl newydd heblaw am y byrdwn, ‘halelŵia’ (er, defnyddir haleliwia unwaith yn y gân).

MySpace Brigyn, lle gallwch wrando ar Haleliwia.

Roedd gan i gant o eiriau am sut mae’r gân yn fy ngyrru o’m cof, ond mae’n well i mi fodloni ar: nid ‘Welsh-language adaptation of Leonard Cohen’s global hit song, Hallelujah’ yw cân Brigyn ond cân bregethwrol sy’n anesmwyth o Efengylaidd.

Yna daeth y gân yn stori fawr iawn yn y gyfryngau Prydeinig gan mai Hallelujah sy’n debygol o fod yn Rhif Un dros y Nadolig ar ôl cael ei dewis i enillydd yr X Factor ei rhyddhau fel ei sengl gyntaf. Alexandra Burke enillodd y gystadleuaeth yn dilyn perfformiad ‘unbelievable’ (yn ôl Simon Cowell) o’r gân yn y rownd derfynol ddydd Sadwrn diwethaf.



Ers hynny, mae pob math o straeon wedi codi ynglŷn â geiriau helaeth y gân a’u hystyron, yr ymgyrch gan gefnogwyr Jeff Buckley i godi ei gynnig i frig siartiau’r senglau a trafod gwahanol fersiynau’r gân, o Rufus Wainwright a Bon Jovi i k.d. lang a Susanna and the Magical Orchestra (ddim ar gael ar youtube ond werth ei glywed!).

Mae John Cale wedi cael sylw gweddol yn y trafodaethau yma. Pe bai’r holl sylw i John Cale, yna fe fyddai’r sylw yn nesu at fod yn deilwng. Cafodd ei nodi mewn sawl lle dros y cyfnod diweddar mai canu fersiwn John Cale o’r gân mae pawb ddaeth ar ei ôl, nid y gwreiddiol – a dwi’n cydweld yn llwyr. Dwi’n arbennig o hoff o ailddehongliadau John Cale o ganeuon cerddorion eraill, boed yn ychwanegu adrodd dwfn a darn piano syml i Ready for Drowning gyda James Dean Bradfield (yn Camgymeriad Gwych / Beautiful Mistake), ail-ysgrifennu Ar Lan y Môr yn Dal:Yma/Nawr neu ychwanegu pedwarawd llinynnol hyfryd (gyda’r fiola yng nghanol y cyfan, wrth gwrs) i Hallelujah. Dyma’r fersiwn gorau un o’r gân yn y fy marn bitw i:

18.12.08

Dwy ddime



Ffilm wych ond nid un o fy hoff ganeuon ohoni.

Ond mae pwnc y gân yn weddol amlwg a dyna sydd gen i dan sylw.

Un o’r pynciau sy’n codi amlaf pan fydda i’n trafod Uwch Gynghrair Cymru gyda hwn a’r llall yw tâl y chwaraewyr. Hyd yn oed mewn cynghrair lled-broffesiynol gyda naws lled-deuluol, mae obsesiwn gydag arian caled, oer.

Dwi heb siarad gyda chwaraewyr ynglŷn â’u tâl – sen i’n gwrthod siarad am fy nghyflog i gyda nhw – ond o’r sïon, ymddengys bod rhaid yn cael digon i dalu eu costau teithio ond fawr mwy na hynny, tra bod rhai yn ennill cymaint â hanner can mil y flwyddyn.

Mae na lawer o straeon am yr arian mawr mae’r Rhyl yn talu i’w chwaraewyr – gwrthododd o leiaf dau o’r gwŷr ymunodd o Wrecsam dros yr haf gynigion gan glybiau o’r Gynghrair Bêl-Droed a phenderfynu symud i’r Belle Vue (Danny Williams a Neil Roberts, gyda llaw).

Ac mae stori’r miliwnydd Mike Harris a’i dîm proffesiynol personol, Y Seintiau Newydd (TNS), yn hen hanes erbyn hyn.

Mae ochr arall y geiniog (sori) i’w weld yn amlach o lawer, yn anffodus. Mae Caernarfon ar werth, amheuon ynglŷn ag ymlyniad tymor hir cwmni Gap Recruitment i glwb Cei Connah, ac mae Bangor mewn dyfroedd dyfnion – angen dod o hyd i gyfarwyddwyr a Chadeirydd newydd erbyn mis Ionawr.

Braf oedd clywed bod Castell-nedd wedi’i achub gan ‘gonsortiwm’ (ers i Pobol y Cwm ddefnyddio’r gair, dwi’n ei dderbyn fel rhan o’r iaith) heddiw, ond mae gen i deimlad mai un wennol yw’r stori honno a bod y gaeaf yn mynd i fod yn galed, oer a hir.

Mae darllen erthyglau fel hwn ("Crunch time - how Britain's 10 leading sports are coping with the economic crisis" - mae'n debyg bod 'Olympics' yn un 'sport' bellach...) yn y Guardian heddiw yn fy nghythruddo i. Yn yr un modd â gwraidd y problemau economaidd presennol oedd bancwyr yn meddwi ar fuddsoddiadau cwbl afreal ac anghynaladwy, mae’r problemau a ddaw, yn ddi-os, i chwaraeon proffesiynol yn codi o’r un syched.

Ac yn yr un modd mae’r benthyciadau anhygoel i achub y sector ariannol sy’n hawlio sylw’r gwleidyddion a’r wasg, trafferthion y clybiau anferth a chwaraeon sy’n ffynnu ar ormodedd fel rasio Fformiwla Un caiff y sylw, nid y bobl gyffredin sy’n colli eu pensiwn neu gweld gwerth eu tŷ yn disgyn a cost eu morgais yn codi na’r clybiau bach a dibynna ar haeloni oriau ac arian ambell berson lleol sy’n siwr o fynd i’r wal.

18.2.08

Rowan Williams, y gyfraith a Chaer-grawnt

Cefais supervision am briodi ac ysgaru'r wythnos hon, yn trafod 'when did the transformation from "authoritarian" to "companionate" marriage take place?' fel rhan o'r papur Politics of Gender 1790-1990. Un o'r cerrig milltir mwyaf pwysig wrth drafod yr hanes oedd Deddf Priodi ac Ysgaru 1857 pan gollodd y llysoedd crefyddol eu pwerau dros ysgariad i Dŷ'r Arglwyddi.

Wrth i'r supervision ddod at ei derfyn, fe soniais bod dau ŵr meddw dylai fod wedi gwybod yn well wedi gweiddi abiws arna i a'n ffrind tra'n cerdded yn ôl i'r Coleg dros y penwythnos. Ar ôl clywed yr hanes, fe ddywedodd fy supervisor na fyddai hynny wedi digwydd yn ystod y cyfnod roedden ni'n trafod oherwydd fe fyddai'r Proctors yn cerdded y strydoedd yn gofalu am fyfyrwyr y Brifysgol.

'Heddlu' y Brifysgol yw'r Proctors ac roedd ganddyn nhw bwerau hynod ddefnyddiol yn yr oes a fu, er enghraifft fe allen nhw anfon unrhyw ddynes i'r carchar am y nos petai hi'n cael ei dal yn cerdded strydoedd Caer-grawnt liw nos er budd diogelwch y bechgyn, druan, yn eu Colegau. Roedd gan y Proctors bwerau dros unrhywun oedd yn byw yng Nghaer-grawnt - yn aelod o'r Brifysgol neu beidio - tan 1904! Mae'n rhaid i'r Heddlu (go iawn) ofyn am ganiatâd arbennig i ddod i mewn i'r Coleg hyd yn oed heddiw oherwydd nid yw'r tir o dan eu gofal, yn hytrach yn gyfrifoldeb y Proctors hyd heddiw!


Proctor. Ac wrth gwrs, maen nhw'n dal i wisgo fel hyn

Roedd rhoi Deddf 1857 a 'cyfraith' y Brifysgol yng nghyd-destun yr hyn a ddywedodd Archesgob Caer-gaint am gyfraith Sharia ym Mhrydain yn gwneud i rhywun feddwl dwywaith am yr holl sylw negyddol am jurisdictions cymysg (dydi geiriadur cyfreithiol Robyn Lewis ddim wrth law, sori). Drwy feddwl ychydig ymhellach am y cynsail hanesyddol yn ogystal â'r cynsail cyfreithiol presennol (e.e llysoedd priodas Iddewig), mae'n gwneud rhywun feddwl mai rhywbeth ynglŷn â chyfraith Sharia ei hun, neu Islam ei hun, sy'n gwneud i bobl golli eu tymer gyda Rowan Williams. Roedd llawer o'r dadleuon cyhoeddus yn swnio'n debyg i "allwch chi ddim dewis pa gyfraith i'w ddilyn a pha gyfraith i'w anwybyddu - rhaid cael un system i bawb" ond dwi ddim yn credu mai dyna'r unig reswm i'r Archesgob gael amser drwg ohoni yn y cyfryngau. Dwi'n credu bod llawer o wrth-Foslemiaeth yn gudd yn y dadleuon dros yr wythnos ddiwethaf a dwi'n gweld hynny'n drist.

Gyda llaw, yn 1969 neu 1994 oedd fy ateb i.

27.1.08

Codi'n fore i nos Awstralia

Dwi'n gwylio ffeinal dynion yr Australian Open yn stafell deledu'r Coleg ar hyn o bryd, rhwng Novak Djokovic a Jo-Wilfried Tsonga.

Dwi'n hoff iawn o wylio chwaraeon ar y teledu boed yn bêl-droed (bûm yn gwylio Wigan 1 - 2 Chelsea ddoe), rygbi, tenis, dartiau neu unrhywbeth arall dan haul. Un o occupational hazards gwylio llawer o chwaraeon i'r fath raddau â dwi'n gwneud yw bod rhaid bod yn effro pan mae pawb arall yn cysgu. Dwi ddim fel arfer yn codi am 8 ar fore dydd Sul ond pan fydd gwylio 'digwyddiad' chwaraeon yn y fantol, fyddai allan o'r gwely ar amserau rhyfeddol.

Criced o Awstralia a Sri Lanka, bocsio o Las Vegas, a'r Gemau Olympaidd o bob cwr o'r byd. Mae na ryw atyniad tuag at y teimlad 'roeddwn i yno'-aidd ynof i a dwi'n siwr mai hynny sydd wrth wraidd yr arferiad rhyfedd yma sydd gen i.


Roeddwn i yno! Ar fy soffa! Pan enillodd Mayweather yn erbyn Hatton

Ydi hi'n gwneud gwahaniaeth i unrhywun heblaw amdana i os fues i'n gwylio rowndiau terfynol dynion yr US Open am y tair mlynedd diwethaf neu os fues i'n gwylio Shane Warne yn bowlio ei belawd olaf yn Awstralia? A fydd gan yr wyrion a'r wyresau unrhyw ddiddordeb mewn clywed straeon amdana i yn gwylio gem olaf Tim Henman erioed neu Awstralia yn adennill y Lludw gyda whitewash yn 2007?

Felly pam aros yn effro tra bod rhai eraill yn cysgu a pam ysgrifennu am y peth?

Y geek hanesyddol sy'n siarad, dwi'n meddwl. Dwi'n ddigon o geek i fod eisiau gwylio bob eiliad o ornest ac hefyd yn ddigon o hanesydd i fod eisiau cofio'r union ganlyniadau a'r union brofiadau mewn blynyddoedd i ddod. Beth bynnag fo'r rheswm, mae cyfres undydd Seland Newydd vs Lloegr ar y radio drwy'r nos cyn bo hir ...

21.1.08

Gwaith / Work

Mae gen i fwy o waith nac erioed eleni. Dwi wedi arfer gyda un traethawd yr wythnos - dim mwy, dim llai, rhythm arferol. Tymor yma - traethawd yr wythnos, ymarferion paragraffau bychain o ffynonellau (gobbets), darllen ar gyfer dosbarthiadau Historical Argument and Practice a dau draethawd hir i'w gwneud drwy'r cwbl.

Ac fel sydd wedi digwydd yn ddibynadwy drwy fodolaeth y blog hwn, dwi'n blogio pan dwi fwyaf prysur am mai bryd hynny mae gen i rhywbeth i'w ddweud! Pan mae gen i amser i ysgrifennu, does gen i ddim byd i'w ddweud! Beth bynnag, yn ôl at y gwaith.

Mae fy nhraethawd i'r wythnos hon yn wahanol i bob un arall dwi wedi eu cael ers dod i Gaer-grawnt. Traethawd yn cymharu A Room of One's Own a Three Guineas sydd gen i ac er nad nofelau yw'r ddwy ysgrif, maen nhw'n dra gwahanol i'r llyfrau hanesyddol academaidd, safonol arferol. Mae trin a thrafod polemics o ddechrau'r ganrif o'r testun ei hun yn brofiad cymharol newydd i fi, felly gobeithio bydd pethau'n troi allan yn olreit erbyn diwedd yr wythnos.

Math arall o waith dwi'n cael fy atgoffa amdano bron yn ddyddiol yw pa bynnag waith byddai'n gwneud ar ôl graddio. Dwi ddim yn gwybod sawl gwaith ges i'r sgwrs yma dros wyliau'r Nadolig: Nhw: "Ti dal yng Nghaer-grawnt yn dwyt?" Fi: "Ydw, ar fy mlwyddyn olaf." Nhw: "Beth wyt ti'n mynd i wneud y flwyddyn nesaf?" Fi: "Ymm..."

Llwyddais i gerdded ar draws 'digwyddiad' gyrfaoedd ar gyfer bargyfreithwyr yr wythnos ddiwethaf ac mae'r profiad hwnnw wedi gwneud i mi ailystyried yr opsiwn honno yn fanylach ... Mae'r opsiynau eraill yn amrywio rhwng gwneud gradd bellach mewn hanes neu gwleidyddiaeth a meddwl yn galetach am newyddiadura ayyb ... Duw a wyr ar hyn o bryd, ond dwi wedi penderfynu penderfynu erbyn diwedd yr wythnos yma unwaith ac am byth. Neu erbyn diwedd wythnos nesaf.

Y math olaf o waith dwi wedi bod yn meddwl amdano heddiw yw'r un isod. Er bod cynnwys y gân yn ffiaidd, mae'r cynhyrchu'n wych, yn enwedig yr ychwanegiadau at y gytgan. Wele gân Kelly Rowland wedi'i ailgymysgu gan y Freemasons - Work

28.6.07

Llenwi twll

Dwi wedi bod yn ysgrifennu cofnodion am y pythefnos ddiwethaf ond heb eu rhoi i fyny eto - dwi'n bwriadu gwneud sweep wythnos nesaf. Dwi'n teimlo bod y byd yn gwibio heibio i mi a cymaint gen i ddweud ond jyst yn syrthio oddi ar y ceffyl blogio yng nghanol y cwbl - Blair > Brown, Coch > Gwyrdd, Wimbledon ayyyyb. Ond dyna ni.

Ffwrdd i Sevilla am y penwythnos gyda RIH fory - gwyliau munud olaf go iawn.

Dwi'n addo bydd digon gen i ddweud pan ddai nol.

Hwyl am y tro

24.6.07

Post-arholiad 1: SFA yng Nghaerdydd

Pwnc fy arholiad olaf oedd hanes America ers 1828 - y papur wnes i'r tymor diwethaf - ac fe aeth pethau'n olreit. Atebais i am progressivism, mewnfudo'n y 20au ac effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar hil. Y trydydd ateb oedd y gwanaf o bell ffordd - roeddwn i'n gwybod tipyn am effaith yr Ail Ryfel Byd ar densiynau hiliol ac am ethnigrwydd yn y 20au yn gyffredinol ond dim llawer am effaith uniongyrchol y rhyfel. O wel.

Roedd na rai eraill yn y neuadd arholiad oedd yn gorffen eu gradd gan gynnwys y person oedd yn cerdded allan o mlaen i. Gorchuddiwyd y bachgen mewn siampên a silly string. Doedd dim byd mor egsotic yn aros amdana i, dim ond twr o lyfrau llyfrgell yn aros i'w dychwelyd. Roedd fy hwyl a sbri i yn digwydd y diwrnod wedyn.

Ar ôl gweld yr edefyn yma ar maes-e, fe brynais i docyn i weld Super Furry Animals yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd. Er bod y siwrne yno yn para oriau, mae hi'n un eitha braf - Caer-grawnt i King's Cross, ar draws Llundain i Paddington ac ymalen i Gaerdydd. Mae fy annwyl chwaer yn byw lawr yn y mwg erbyn hyn ac fe fues gyda hi drwy'r prynhawn yn dysgu caneuon George Michael iddi ar y gitâr.


Craplun o Bunf - mae camera fy ffôn yn fuzzy

Mae'r mwyafrif llethol o fy ffrindiau ysgol yn mynd i'r Brifysgol yng Nghaerdydd ac roedd hi'n braf cael cwmni dau ohonyn nhw ac un sy'n rhannu tŷ gyda fy chwaer i'r gig. Doeddwn i rioed wedi gweld y Super Furry's yn y cnawd cyn y noson honno, sy'n gyfaddefiad eitha difrifol gan eu bod nhw wedi chwarae mor aml dros y blynyddoedd diwethaf a fy mod i'n ffan. Roedden ni'n sefyll yn yr ail res a roedden nhw'n wych - set dda o'r hen a'r newydd, chwarae tynn a carisma.

Er bod rhai pobl yn hoffi'r dyddiau cynnar, mae'n well gen i bethau mwyaf diweddar y band - y tair albym ddiweddaf - na'r pethau mwy egniol o'r cyfnod arall. Roedd y caneuon newydd yn swnio'n dda (cyn belled ag y gall dyn werthfawrogi cân newydd mewn gig bychan) a fy hoff gân SFA yn y set - Juxtaposed With U. Nes i fwynhau mas draw. Ac yn ôl i Gaer-grawnt ...