19.12.08

Haleliwia



Mae tipyn o ddiddordeb wedi bod yn y fersiynau amrywiol o ‘Hallelujah’ gan Leonard Cohen yn ddiweddar.

Yn gyntaf, daeth y newyddion bod Brigyn wedi cyfieithu’r gân i’r Gymraeg am y tro cyntaf erioed ac wedi cael caniatâd y dyn ei hun i gael gwneud hynny. Stori allan o ddim byd ar gyfer Wedi 7, BBC Cymru’r Byd a’u tebyg. Beth sy’n fwy diddorol am fersiwn Brigyn, fasen i’n dweud, yw bod neges y gân a natur y geiriau wedi’u newid yn llwyr yn y trosiad i’r Gymraeg. Nid cyfieithiad sydd yma ond geiriau cwbl newydd heblaw am y byrdwn, ‘halelŵia’ (er, defnyddir haleliwia unwaith yn y gân).

MySpace Brigyn, lle gallwch wrando ar Haleliwia.

Roedd gan i gant o eiriau am sut mae’r gân yn fy ngyrru o’m cof, ond mae’n well i mi fodloni ar: nid ‘Welsh-language adaptation of Leonard Cohen’s global hit song, Hallelujah’ yw cân Brigyn ond cân bregethwrol sy’n anesmwyth o Efengylaidd.

Yna daeth y gân yn stori fawr iawn yn y gyfryngau Prydeinig gan mai Hallelujah sy’n debygol o fod yn Rhif Un dros y Nadolig ar ôl cael ei dewis i enillydd yr X Factor ei rhyddhau fel ei sengl gyntaf. Alexandra Burke enillodd y gystadleuaeth yn dilyn perfformiad ‘unbelievable’ (yn ôl Simon Cowell) o’r gân yn y rownd derfynol ddydd Sadwrn diwethaf.



Ers hynny, mae pob math o straeon wedi codi ynglŷn â geiriau helaeth y gân a’u hystyron, yr ymgyrch gan gefnogwyr Jeff Buckley i godi ei gynnig i frig siartiau’r senglau a trafod gwahanol fersiynau’r gân, o Rufus Wainwright a Bon Jovi i k.d. lang a Susanna and the Magical Orchestra (ddim ar gael ar youtube ond werth ei glywed!).

Mae John Cale wedi cael sylw gweddol yn y trafodaethau yma. Pe bai’r holl sylw i John Cale, yna fe fyddai’r sylw yn nesu at fod yn deilwng. Cafodd ei nodi mewn sawl lle dros y cyfnod diweddar mai canu fersiwn John Cale o’r gân mae pawb ddaeth ar ei ôl, nid y gwreiddiol – a dwi’n cydweld yn llwyr. Dwi’n arbennig o hoff o ailddehongliadau John Cale o ganeuon cerddorion eraill, boed yn ychwanegu adrodd dwfn a darn piano syml i Ready for Drowning gyda James Dean Bradfield (yn Camgymeriad Gwych / Beautiful Mistake), ail-ysgrifennu Ar Lan y Môr yn Dal:Yma/Nawr neu ychwanegu pedwarawd llinynnol hyfryd (gyda’r fiola yng nghanol y cyfan, wrth gwrs) i Hallelujah. Dyma’r fersiwn gorau un o’r gân yn y fy marn bitw i:

2 comments:

Linda said...

Dwn i ddim be 'dio am y gan yma , ond prin fedrai wrando arno fo heb deimlo'n reit depressed :( !!

Hen Goes said...

Hefo ti yn union, Seiriol, yn enwedig cyn-belled a mae fersiwn Brigyn yn y cwestiwn. Mae'r wreiddiol i mi am perthnasau, golli ffydd, natur cariad, hanes y Brenin Dafydd a can mil o elfennau arall.
Amser i drosiad o'r geiriau go iawn fallai.