Post-arholiad 1: SFA yng Nghaerdydd
Pwnc fy arholiad olaf oedd hanes America ers 1828 - y papur wnes i'r tymor diwethaf - ac fe aeth pethau'n olreit. Atebais i am progressivism, mewnfudo'n y 20au ac effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar hil. Y trydydd ateb oedd y gwanaf o bell ffordd - roeddwn i'n gwybod tipyn am effaith yr Ail Ryfel Byd ar densiynau hiliol ac am ethnigrwydd yn y 20au yn gyffredinol ond dim llawer am effaith uniongyrchol y rhyfel. O wel.
Roedd na rai eraill yn y neuadd arholiad oedd yn gorffen eu gradd gan gynnwys y person oedd yn cerdded allan o mlaen i. Gorchuddiwyd y bachgen mewn siampên a silly string. Doedd dim byd mor egsotic yn aros amdana i, dim ond twr o lyfrau llyfrgell yn aros i'w dychwelyd. Roedd fy hwyl a sbri i yn digwydd y diwrnod wedyn.
Ar ôl gweld yr edefyn yma ar maes-e, fe brynais i docyn i weld Super Furry Animals yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd. Er bod y siwrne yno yn para oriau, mae hi'n un eitha braf - Caer-grawnt i King's Cross, ar draws Llundain i Paddington ac ymalen i Gaerdydd. Mae fy annwyl chwaer yn byw lawr yn y mwg erbyn hyn ac fe fues gyda hi drwy'r prynhawn yn dysgu caneuon George Michael iddi ar y gitâr.
Craplun o Bunf - mae camera fy ffôn yn fuzzy
Mae'r mwyafrif llethol o fy ffrindiau ysgol yn mynd i'r Brifysgol yng Nghaerdydd ac roedd hi'n braf cael cwmni dau ohonyn nhw ac un sy'n rhannu tŷ gyda fy chwaer i'r gig. Doeddwn i rioed wedi gweld y Super Furry's yn y cnawd cyn y noson honno, sy'n gyfaddefiad eitha difrifol gan eu bod nhw wedi chwarae mor aml dros y blynyddoedd diwethaf a fy mod i'n ffan. Roedden ni'n sefyll yn yr ail res a roedden nhw'n wych - set dda o'r hen a'r newydd, chwarae tynn a carisma.
Er bod rhai pobl yn hoffi'r dyddiau cynnar, mae'n well gen i bethau mwyaf diweddar y band - y tair albym ddiweddaf - na'r pethau mwy egniol o'r cyfnod arall. Roedd y caneuon newydd yn swnio'n dda (cyn belled ag y gall dyn werthfawrogi cân newydd mewn gig bychan) a fy hoff gân SFA yn y set - Juxtaposed With U. Nes i fwynhau mas draw. Ac yn ôl i Gaer-grawnt ...