Showing posts with label may week. Show all posts
Showing posts with label may week. Show all posts

24.6.07

Post-arholiad 1: SFA yng Nghaerdydd

Pwnc fy arholiad olaf oedd hanes America ers 1828 - y papur wnes i'r tymor diwethaf - ac fe aeth pethau'n olreit. Atebais i am progressivism, mewnfudo'n y 20au ac effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar hil. Y trydydd ateb oedd y gwanaf o bell ffordd - roeddwn i'n gwybod tipyn am effaith yr Ail Ryfel Byd ar densiynau hiliol ac am ethnigrwydd yn y 20au yn gyffredinol ond dim llawer am effaith uniongyrchol y rhyfel. O wel.

Roedd na rai eraill yn y neuadd arholiad oedd yn gorffen eu gradd gan gynnwys y person oedd yn cerdded allan o mlaen i. Gorchuddiwyd y bachgen mewn siampên a silly string. Doedd dim byd mor egsotic yn aros amdana i, dim ond twr o lyfrau llyfrgell yn aros i'w dychwelyd. Roedd fy hwyl a sbri i yn digwydd y diwrnod wedyn.

Ar ôl gweld yr edefyn yma ar maes-e, fe brynais i docyn i weld Super Furry Animals yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd. Er bod y siwrne yno yn para oriau, mae hi'n un eitha braf - Caer-grawnt i King's Cross, ar draws Llundain i Paddington ac ymalen i Gaerdydd. Mae fy annwyl chwaer yn byw lawr yn y mwg erbyn hyn ac fe fues gyda hi drwy'r prynhawn yn dysgu caneuon George Michael iddi ar y gitâr.


Craplun o Bunf - mae camera fy ffôn yn fuzzy

Mae'r mwyafrif llethol o fy ffrindiau ysgol yn mynd i'r Brifysgol yng Nghaerdydd ac roedd hi'n braf cael cwmni dau ohonyn nhw ac un sy'n rhannu tŷ gyda fy chwaer i'r gig. Doeddwn i rioed wedi gweld y Super Furry's yn y cnawd cyn y noson honno, sy'n gyfaddefiad eitha difrifol gan eu bod nhw wedi chwarae mor aml dros y blynyddoedd diwethaf a fy mod i'n ffan. Roedden ni'n sefyll yn yr ail res a roedden nhw'n wych - set dda o'r hen a'r newydd, chwarae tynn a carisma.

Er bod rhai pobl yn hoffi'r dyddiau cynnar, mae'n well gen i bethau mwyaf diweddar y band - y tair albym ddiweddaf - na'r pethau mwy egniol o'r cyfnod arall. Roedd y caneuon newydd yn swnio'n dda (cyn belled ag y gall dyn werthfawrogi cân newydd mewn gig bychan) a fy hoff gân SFA yn y set - Juxtaposed With U. Nes i fwynhau mas draw. Ac yn ôl i Gaer-grawnt ...

23.6.07

Y cyfnod diweddar

Mae hi'n dros bythefnos ers i mi ysgrifennu yma ac mae tipyn wedi digwydd ers hynny - Palesteina yn ceisio curo'r Fatican a dod yn wlad leia'r byd, Bernard Manning yn marw a Tal Ben-Haim yn arwyddo i Chelsea. Mae digwyddiadau yr un mor bwysig ond llai cosmig wedi bod yn fy mywyd bach i.

Gorffenais fy arholiadau ddydd Mawrth diwethaf a dwi wedi bod yn mwynhau fy hun yn ddi-hid ers hynny yn diota a gor-fwyta. Fe wnai sôn mewn mwy o fanylder yn fy negeseuon nesaf.

Sut bynnag dwi wedi bod yn llenwi fy amser, mae'r ffaith trist yn aros bod y flwyddyn academaidd wedi dod i ben a byddai ddim yn gweld rhai ffrindiau am dri mis a falle ddim yn gweld rhai eraill am flynyddoedd neu fyth eto ...