2.9.10

Un peth bach

Gyda thaith i Gaerdydd, diwrnod hir a rhaglen fyw yfory, dwi wedi penderfynu rhoi cofnod atgyfodedig ar y blog hwn (am yr n-fed tro, ie dwi'n gwybod, sori) ar ddiwrnod y 'Pethau Bychain' i fyny ychydig bach yn gynnar.

Wel, beth dwi wedi bod yn gwneud ers mis Rhagfyr 2008? Dweud pethau anniddorol ar Twitter a gweithio, gan fwyaf. Ac mae hynny'n iawn. Felly pam ailddechrau'r blog? Ambell waith dwi'n teimlo bod fwy i'w ddweud na dwi'n gallu mynegi mewn 140 o lythrennau a dwi'n casau pan mae tweets pobl eraill yn gorlifo mewn i ddwy neu dair neges.

Ond nid dyna pam. Yn raddol, mae'r negeseuon dwi'n trydar wedi mynd o fod yn bennaf yn Gymraeg i fod yn ddwyieithog i fod yn bennaf yn Saesneg, fel mae'r nifer o bobl sy'n fy nilyn i'n cynyddu. Plesio fy nghynulleidfa? Trio dod o hyd i fwy o ddilynwyr? Neu jyst meddwl yn Saesneg? Cyfuniad o'r tri, dwi'n credu.

Felly dyma fi'n ailgydio mewn ysgrifennu rhywfaint ar y we yn Gymraeg. Pam? Dod i'r arfer o ysgrifennu. Cyfrannu 'rywbeth' at 'rywbeth'. Yn fwy na dim, ymyrraeth.

Dwi ddim yn addo bydd hyn yn para'n hir iawn nac yn ddiddorol mewn unrhyw ffordd. Plus ça change.

OK hwn, braidd yn sych. Sori! Hwyl ar y ffordd, onest, weyyyy pethaubychain!

Gwrando: Stevie Nicks - Edge of Seventeen.
Darllen: Adrian Mole: The Prostrate Years

1 comment:

Carl Morris said...

"Yn raddol, mae'r negeseuon dwi'n trydar wedi mynd o fod yn bennaf yn Gymraeg i fod yn ddwyieithog i fod yn bennaf yn Saesneg, fel mae'r nifer o bobl sy'n fy nilyn i'n cynyddu. Plesio fy nghynulleidfa? Trio dod o hyd i fwy o ddilynwyr? Neu jyst meddwl yn Saesneg? Cyfuniad o'r tri, dwi'n credu."

Cwestiynau da. Mae'r gynulleidfa yn gallu trefnu eu hun. Dw i'n postio i gynulleidfa botensial Cymraeg!