21.1.08

Gwaith / Work

Mae gen i fwy o waith nac erioed eleni. Dwi wedi arfer gyda un traethawd yr wythnos - dim mwy, dim llai, rhythm arferol. Tymor yma - traethawd yr wythnos, ymarferion paragraffau bychain o ffynonellau (gobbets), darllen ar gyfer dosbarthiadau Historical Argument and Practice a dau draethawd hir i'w gwneud drwy'r cwbl.

Ac fel sydd wedi digwydd yn ddibynadwy drwy fodolaeth y blog hwn, dwi'n blogio pan dwi fwyaf prysur am mai bryd hynny mae gen i rhywbeth i'w ddweud! Pan mae gen i amser i ysgrifennu, does gen i ddim byd i'w ddweud! Beth bynnag, yn ôl at y gwaith.

Mae fy nhraethawd i'r wythnos hon yn wahanol i bob un arall dwi wedi eu cael ers dod i Gaer-grawnt. Traethawd yn cymharu A Room of One's Own a Three Guineas sydd gen i ac er nad nofelau yw'r ddwy ysgrif, maen nhw'n dra gwahanol i'r llyfrau hanesyddol academaidd, safonol arferol. Mae trin a thrafod polemics o ddechrau'r ganrif o'r testun ei hun yn brofiad cymharol newydd i fi, felly gobeithio bydd pethau'n troi allan yn olreit erbyn diwedd yr wythnos.

Math arall o waith dwi'n cael fy atgoffa amdano bron yn ddyddiol yw pa bynnag waith byddai'n gwneud ar ôl graddio. Dwi ddim yn gwybod sawl gwaith ges i'r sgwrs yma dros wyliau'r Nadolig: Nhw: "Ti dal yng Nghaer-grawnt yn dwyt?" Fi: "Ydw, ar fy mlwyddyn olaf." Nhw: "Beth wyt ti'n mynd i wneud y flwyddyn nesaf?" Fi: "Ymm..."

Llwyddais i gerdded ar draws 'digwyddiad' gyrfaoedd ar gyfer bargyfreithwyr yr wythnos ddiwethaf ac mae'r profiad hwnnw wedi gwneud i mi ailystyried yr opsiwn honno yn fanylach ... Mae'r opsiynau eraill yn amrywio rhwng gwneud gradd bellach mewn hanes neu gwleidyddiaeth a meddwl yn galetach am newyddiadura ayyb ... Duw a wyr ar hyn o bryd, ond dwi wedi penderfynu penderfynu erbyn diwedd yr wythnos yma unwaith ac am byth. Neu erbyn diwedd wythnos nesaf.

Y math olaf o waith dwi wedi bod yn meddwl amdano heddiw yw'r un isod. Er bod cynnwys y gân yn ffiaidd, mae'r cynhyrchu'n wych, yn enwedig yr ychwanegiadau at y gytgan. Wele gân Kelly Rowland wedi'i ailgymysgu gan y Freemasons - Work

1 comment:

dros said...

"Duw a wyr ar hyn o bryd, ond dwi wedi penderfynu penderfynu erbyn diwedd yr wythnos yma unwaith ac am byth. Neu erbyn diwedd wythnos nesaf."

dwi'n gobeithio i dduw bo ti'n jocian. chin up! (on mae cynnwys can kelly rownland yn brill *a* chlasi)