Showing posts with label pêl droed. Show all posts
Showing posts with label pêl droed. Show all posts

18.12.08

Dwy ddime



Ffilm wych ond nid un o fy hoff ganeuon ohoni.

Ond mae pwnc y gân yn weddol amlwg a dyna sydd gen i dan sylw.

Un o’r pynciau sy’n codi amlaf pan fydda i’n trafod Uwch Gynghrair Cymru gyda hwn a’r llall yw tâl y chwaraewyr. Hyd yn oed mewn cynghrair lled-broffesiynol gyda naws lled-deuluol, mae obsesiwn gydag arian caled, oer.

Dwi heb siarad gyda chwaraewyr ynglŷn â’u tâl – sen i’n gwrthod siarad am fy nghyflog i gyda nhw – ond o’r sïon, ymddengys bod rhaid yn cael digon i dalu eu costau teithio ond fawr mwy na hynny, tra bod rhai yn ennill cymaint â hanner can mil y flwyddyn.

Mae na lawer o straeon am yr arian mawr mae’r Rhyl yn talu i’w chwaraewyr – gwrthododd o leiaf dau o’r gwŷr ymunodd o Wrecsam dros yr haf gynigion gan glybiau o’r Gynghrair Bêl-Droed a phenderfynu symud i’r Belle Vue (Danny Williams a Neil Roberts, gyda llaw).

Ac mae stori’r miliwnydd Mike Harris a’i dîm proffesiynol personol, Y Seintiau Newydd (TNS), yn hen hanes erbyn hyn.

Mae ochr arall y geiniog (sori) i’w weld yn amlach o lawer, yn anffodus. Mae Caernarfon ar werth, amheuon ynglŷn ag ymlyniad tymor hir cwmni Gap Recruitment i glwb Cei Connah, ac mae Bangor mewn dyfroedd dyfnion – angen dod o hyd i gyfarwyddwyr a Chadeirydd newydd erbyn mis Ionawr.

Braf oedd clywed bod Castell-nedd wedi’i achub gan ‘gonsortiwm’ (ers i Pobol y Cwm ddefnyddio’r gair, dwi’n ei dderbyn fel rhan o’r iaith) heddiw, ond mae gen i deimlad mai un wennol yw’r stori honno a bod y gaeaf yn mynd i fod yn galed, oer a hir.

Mae darllen erthyglau fel hwn ("Crunch time - how Britain's 10 leading sports are coping with the economic crisis" - mae'n debyg bod 'Olympics' yn un 'sport' bellach...) yn y Guardian heddiw yn fy nghythruddo i. Yn yr un modd â gwraidd y problemau economaidd presennol oedd bancwyr yn meddwi ar fuddsoddiadau cwbl afreal ac anghynaladwy, mae’r problemau a ddaw, yn ddi-os, i chwaraeon proffesiynol yn codi o’r un syched.

Ac yn yr un modd mae’r benthyciadau anhygoel i achub y sector ariannol sy’n hawlio sylw’r gwleidyddion a’r wasg, trafferthion y clybiau anferth a chwaraeon sy’n ffynnu ar ormodedd fel rasio Fformiwla Un caiff y sylw, nid y bobl gyffredin sy’n colli eu pensiwn neu gweld gwerth eu tŷ yn disgyn a cost eu morgais yn codi na’r clybiau bach a dibynna ar haeloni oriau ac arian ambell berson lleol sy’n siwr o fynd i’r wal.

20.5.07

Podcastio a Phêl Droedio

Roedd y penwythnos diwetha'n un o'r rhai hynny pan mae niche yn meddiannu sylw'r "genedl" yn ei chyfanrwydd, fel y Grand National, angladd aelod o'r Teulu Brenhinol a rhaglen gyntaf Big Brother (sy'n fuan iawn!). Roedd hi'n cup final day ddoe, wrth gwrs.

Roedd y gem yn ardderchog. Dwi'n dweud hynny fel cefnogwr Chelsea - un brwd ac unllygeidiog. Dwi'n cofio'r tro diwethaf i Man Utd gwrdd â ni yn y rownd derfynol yn fyw iawn. Aeth Kharine y ffordd anghywir ddwywaith ac fe gollodd Dennis Wise ganpunt ... Ond oes wahanol oedd honno!

Mae hi'n galondid gweld dau flogiwr Cymraeg arall yn cefnogi Chelsea - Dogfael a Gwenno. Doeddwn i ddim yn adnabod yr un cefnogwr Chelsea arall tan yn ddiweddar. Ers i ni gael arian Abramovich, maen nhw i gyd yn dod allan o'r cysgodion. A da hynny.

Fy ail dîm yw Werder Bremen. Dwi'n trio dilyn eu hynt cyn belled â phosib, ond mae hi'n anodd iawn heb Sgorio yn Nghaer-grawnt. Yr unig le dwi'n cael newyddion a sylwadau diddorol ar bêl droed tu hwnt i'r ynys hon yw podlediad Football Weekly y Guardian. James Richardson, neu AC Jimmy, gynt o Football Italia sydd wrth y llyw ac mae newyddiadurwyr papur a we y Grauniad yn cadw cwmni iddo. Mae hi'n rhaglen wych ac yn piso ar raglen "gylchgrawn" chwaraeon newydd y BBC - Inside Sport gyda Gabby Logan.

16.5.07

Rhod y Rheolwyr

Ar ôl tymor gweddol dawel o hiring and firing yn y Premiership (heblaw am saga Charlton a West Ham, a pan gollodd Chris Coleman ei swydd yn Fulham - penderfyniad hollol dwp), mae 'na ffrwydriad wedi digwydd ers diwrnod ola'r tymor. Gadawodd Sam Allardyce Bolton cwpwl o gemau cyn diwedd y tymor ac erbyn hyn mae wedi cymryd drosodd gan Glenn Roeder yn Newcastle, wedi iddo neidio cyn iddo gael ei wthio. Mae Stuart Pearce wedi cael y sac gan Man City ond dydi Paul Jewell (adawodd Wigan ddiwrnod ar ôl i'r tymor orffen) ddim am gymryd drosodd. Yn ôl ei is-reolwr, Stuart McCall (nes i gwrdd ag ef yn ystod Cynhadledd Geltaidd yn Aberystwyth dau haf yn ôl. Roedd ar gwrs i gael trwydded A FIFA, un cam o dan y drwydded sydd arnoch chi i reoli ar y lefel uchaf erbyn hyn. Dyn neis iawn.) mae Neil Warnock wedi rheoli Sheffield United am y tro olaf - mae cyfarfod i'r wasg yn Bramall Lane yfory.


Warnock a Jewell ar ddiwrnod ola'r tymor - dau begwn

Am unwaith, nid yw'r penawdau am reolwyr yn gadael ei swydd am Jose Mourinho, a da hynny! Dwi'n siwr bydd rhai o'r newidiadau yma'n troi allan i fod yn rhai synhwyrol. Ond, yn amlach na pheidio, nid yw newid rheolwr yn delio gyda'r problemau sydd yn effeithio'r canlyniadau ar y cae. Mae Wigan, oedd yn ei chael hi'n anodd i ddenu chwaraewyr gydag "enwau mawr" yn barod, wedi penodi nobody llwyr - nid syniad gorau'r Cadeirydd. Ar y llaw arall, weithiau mae'n rhaid rhoi'r bai ar y rheolwr a neb arall - er bod Stuart Pearce yn cwyno am beidio cael digon o arian, doedd y chwaraewyr a brynodd gyda'r hyn oedd ar gael jyst ddim digon da - Samaras a Corradi unrhywun? Ac mewn newyddion arall, fe sbowtiodd Big Sam beth mae pob rheolwr newydd Newcastle yn gorfod gwneud, sef galw'r tim yn "massive / big / huge" club yna llyfu tin y cefnogwyr - dylyfu gen.

Mae rownd derfynol Cwpan yr FA penwythnos yma, gyda llaw, a'r newyddion da o safbwynt Chelsea yw bod tri chwarter y tim yn cael llawdriniaethiau heb ganiatâd Mourinho a bod Hilario, ein trydydd gôl-geidwad, yn "mynd i wneud Huth" ac arwain y llinell. Mae hi'n mynd i fod yn benwythnos hir, dwi'n meddwl ...