30.5.07

"Gwneuthurwyr Newid"

Atgoffodd gyfeiriad at araith Bill Clinton i Gynhadledd flynyddol y Blaid Lafur ar y neges gyntaf ar flog Amanwy y term gwleidyddol hynod hwnnw - change makers (neu wneuthurwyr newid). Mae'n derm sydd yn anesmwyth i 'nghlust i. Wrth astudio mwy a mwy o hanes, dwi'n gweld "actorion" mewn sefyllfaoedd yn hollol gaeth i'w hamgylchiadau ac yn methu ymddwyn ar unrhyw fath o egwyddor yn llawer amlach na'r hyn byddai rhywun yn ei ddisgwyl.

Mae ieithwedd newid yn daten boeth yng ngwleidyddiaeth Prydain ar hyn o bryd. Mae'r SNP yn addo newid yn yr Alban ac mae pawb ar bigau'r drain am y newid mawr yn Downing Street. Yn y discourse (oes na air Cymraeg da am discourse?) Prydeinig cyhoeddus presennol, mae na frwydr sylweddol dros newid.

Pan atebais fy nghwestiwn fy hun am beth fyddai argraff fwyaf parhaol degawd Tony Blair wrth y llyw tua pythefnos yn ôl, cynigais mai'r newid yn y ffordd mae'r Senedd (a'r Cabinet) yn ymwneud â llywodraethu oedd hynny. Beth oedd prif thema araith Gordon Brown wedi i John McDonnell a Michael Meacher fethu cael digon o bleidleisiau i gefnogi ymgyrch i arwain y Blaid Lafur ond ceisio newid y ffordd mae'r llywodraeth yn ymwneud â'r Senedd a'r boblogaeth yn lledaenach.

Mae hynny'n rhywbeth sydd yn codi'n aml yn y darn cyfoglyd yma'n y Guardian am Brown yn ogystal. Mae sefyllfa Brown yn un anodd - ar yr un llaw, mae'r Blaid Lafur wedi ennill tri etholiad cyffredinol yn olynol ac fe ddylai Brown, felly, fod ddigon parod i gymryd y clod am lwyddiannau'r llywodraeth. Ar y llaw arall, mae Llafur yn dra amhoblogaidd (er eu bod nhw'n dringo'r polau piniwn, maen nhw'n dal i fod ar ei hôl hi) ac os y clyma Brown ei hun yn rhy dynn at y gorffennol, fe allai'r gwrthbleidiau roi'r bai arno am yr hyn sydd wedi mynd o'i le. Yn symlach na hynny, hyd yn oed, fe allai'r gwrthbleidiau ddweud bod angen cael gwared ohonno jyst er mwyn cael gwared ohonno, h.y ei fod wedi mynd yn stêl.

Tacteg David Cameron yw ceisio lliwio'i hun fel gwir etifedd llwyddiannau Blair a gwneud i Brown ymddangos yn hen ffasiwn ac amharod i barhau gyda diwygiadau e.e yn y gwasanaethau cyhoeddus. Dyna oedd union ddadl George Osbourne y bore 'ma (Mercher) ar Today (gwrandewch eto yma) - disgrifio Llafur fel plaid sy'n llithro'n ôl i'r chwith ac hawlio'r tir canol yn ô'r i'r Blaid Geidwadol. Byddai dewis y Toriaid i greu'r llywodraeth newydd yn dod â'r newid sydd ei angen ar ôl deng mlynedd o Lafur, ond fe fyddai'r rhannau gorau o etifeddiaeth Tony Blair (fel rhoi mwy o bwer i ddoctoriaid ayb) yn aros - mae Osbourne wedi dadlau hyn ers tro, gweler e.e. Y ddwy hollt enfawr yn ei ddadl bore ma oedd dweud mai dod â dewis i'r gwasanaethau cyhoeddus oedd un o lwyddiannau Blair a hwythau wedi gollwng y Patients' Passport a rwdlan gwadu bod polisi newydd y blaid ar ysgolion gramadeg yn mynd yn erbyn yr egwyddor o ledu dewis ymhellach.

Dwi'n meddwl bod George Osbourne yn wleidydd da - mae'n amlwg yn ddyn clyfar iawn - ond wn i ddim pa mor llwyddiannus bydd rhoi'r cyd-destun yma i'r ddadl. Wedi dweud hynny, wn i ddim pa lwyddiant ddaw i Brown chwaith. Mae'r ddwy garfan yn trio defnyddio'r un ddadl i hudo'r cyhoedd. "Fe fydd y pethau sy'n gas gyda chi yn mynd - fyddai ddim yn sbinio fel Tony - ond fi oedd yn gyfrifiol am y pethau gorau i gyd yn ystod y degawd diwethaf." "Fe fydd y peth sy'n gas gyda chi yn mynd - y Blaid Lafur - a ni fydd yn cadw'r pethau gorau i gyd am y degawd diwethaf i fynd."

Does na ddim digon le i'r ddwy blaid ddadlau mor debyg i'w gilydd. Mae'r gair newid yn enwedig yn cael ei wasgu'n ddifrifol. Tair munud oedd cyfweliad Osbourne y bore ma, a hynny ar y rhaglen lle mae'n debygol o gael yr amser hwyaf i siarad. Fe fydd hi'n ddiddorol gweld sut bydd ieithwedd newid a pharhâd yn ffurfio discourse ymgyrch yr etholiad cyffredinol nesaf.

(Allen i ddim ysgrifennu neges am newid mewn cyd-destun Blair/Cameroonaidd heb sôn am y clip isod, er ei fod ychydig yn predictable)

2 comments:

dros said...

sgen ti'm adolygu i'w wneud co bach? x

Anonymous said...

ditto