13.5.07

Eurovision

Es i 'barti Eurovision' neithiwr. Roedd na rhyw ddau ddwsin ohonon ni'n gwylio yn stafell gyffredin un o hosteli'r Coleg ac roedd gan bawb ddigon i'w ddweud felly nes i ddim clywed llawer o'r caneuon mewn gwirionedd. Es i â chwpwl o boteli o Amstel, o'r Iseldiroedd, a Staropramen, o'r Weriniaeth Siec gyda fi. Wrth gwrs, doedd 'run o'r rhieny wedi llwyddo i gyrraedd y rownd derfynol ...

Mae rhai o'n ffrindiau yn hoff iawn o'r Eurovision. Bron iddi fynd yn ffeit go iawn rhwng dau ffrind dros sawl gwaith mae'r Deyrnas Unedig wedi bod yn fuddugol (pump, gyda llaw). Roedd llawer o waith cynllunio wedi mynd mewn i'r noson. I gychwn, roedd pawb yn dewis baner fechan ar hap ac yn mabwysiadu'r wlad honno. Rwsia oedd fy ngwlad i - tair merch mewn siwtiau du yn canu geiriau dodgy iawn (e.e rho geiriosen ar ben fy nghacen - wyt ti am fwyta fy nharten geirios?) ar dôn eitha di-ddim, Anglo-Americanaidd. Roedd DS a RHR wedi trefnu gem yfed gymhleth oedd yn cynnwys pethau fel "yfed gwerth bys bob tro mae newid cyweirnod a thri bys os digwydd symudiad dramatig yr un pryd", "yfed gwerth dau fys pan fydd tân gwyllt", "gorffen eich diod erbyn diwedd cân eich gwlad" a "gorffen eich diod os bydd dilledyn yn cael ei dynnu."



Nes i ddim cymryd rhan blaenllaw yn y gem - dwi ddim yn un am feddwi'n systematig - ac fe aeth pethau'n fwy cymhleth gyda chyhoeddi'r canlyniadau. Bob tro i wlad roi 12 pwynt i wlad sy'n ei ffinio roedd rhaid yfed ac roedd gan gynrychiolydd y wlad i gael y mwyafswm pwyntiau yr hawl i enwebu rhywun arall i yfed tri bys. Cafodd NJ, cynrychiolydd Serbia, wy Kinder fel gwobr.

Gwaraidd iawn.

Hyd yn oed yng nghacoffani'r stafell gyffredin, roedd hi'n bosib "gwerthfawrogi" y gagendor rhwng diwylliant poblogaidd a diwylliant Eurovision. Dwi ddim yn deall pam bod hyn y bod. Dwi'n meddwl dylai Eurovision fod yn un gangen ar y goeden enfawr honno a elwir yn "ddiwylliant poblogaidd", nid blodyn sydd wedi miwtêtio ar goeden ym mhen draw'r ardd.

Dwi'n meddwl mai dyma effaith mwya'r Rhyfel Oer. Collodd trigolion yr Undeb Sofietaidd ar ddegawdau o canu pop a ffasiynau ac maen nhw'n araf ddal i fyny. Mewn pum mlynedd, bydd rhywun o Facedonia yn canu cân yn defnyddio geiriau Auld Lang Syne ar un o alawon siant y Presbyteriaid Cymreig, dwi'n siwr.

No comments: