20.5.07

Podcastio a Phêl Droedio

Roedd y penwythnos diwetha'n un o'r rhai hynny pan mae niche yn meddiannu sylw'r "genedl" yn ei chyfanrwydd, fel y Grand National, angladd aelod o'r Teulu Brenhinol a rhaglen gyntaf Big Brother (sy'n fuan iawn!). Roedd hi'n cup final day ddoe, wrth gwrs.

Roedd y gem yn ardderchog. Dwi'n dweud hynny fel cefnogwr Chelsea - un brwd ac unllygeidiog. Dwi'n cofio'r tro diwethaf i Man Utd gwrdd â ni yn y rownd derfynol yn fyw iawn. Aeth Kharine y ffordd anghywir ddwywaith ac fe gollodd Dennis Wise ganpunt ... Ond oes wahanol oedd honno!

Mae hi'n galondid gweld dau flogiwr Cymraeg arall yn cefnogi Chelsea - Dogfael a Gwenno. Doeddwn i ddim yn adnabod yr un cefnogwr Chelsea arall tan yn ddiweddar. Ers i ni gael arian Abramovich, maen nhw i gyd yn dod allan o'r cysgodion. A da hynny.

Fy ail dîm yw Werder Bremen. Dwi'n trio dilyn eu hynt cyn belled â phosib, ond mae hi'n anodd iawn heb Sgorio yn Nghaer-grawnt. Yr unig le dwi'n cael newyddion a sylwadau diddorol ar bêl droed tu hwnt i'r ynys hon yw podlediad Football Weekly y Guardian. James Richardson, neu AC Jimmy, gynt o Football Italia sydd wrth y llyw ac mae newyddiadurwyr papur a we y Grauniad yn cadw cwmni iddo. Mae hi'n rhaglen wych ac yn piso ar raglen "gylchgrawn" chwaraeon newydd y BBC - Inside Sport gyda Gabby Logan.