11.5.07

Safle dyn yn y byd

Mae na lot fawr iawn o sôn am hanes yn y cyfryngau ar hyn o bryd. Am bob stori sydd na yn croniclo degawd Tony Blair wrth y llyw, mae na stori arall drws nesa iddi am "beth fydd lle Tony Blair mewn hanes" neu "sut bydd hanes yn edrych ar Tony Blair."

Er mor dda yw peth o'r ysgrifennu, dwi ddim yn rhy hoff o'r syniad o ddarogan "dyma sut bydd hanes yn gweld Blair". I gychwyn, mae canwaith mwy wedi'i sgwennu am Blair nac am unrhyw arweinydd Llafur arall - mae Blair wedi'i osod yn ei le gan haneswyr yn barod. Bydd safle Blair, a chi a fi a phawb arall, mewn "hanes" yn amlwg yn cael ei benderfynu gan bwy bynnag sy'n digwydd bod yn ysgrifennu hanes mewn degawd, hanner canrif neu mileniwm a'u hamgylchiadau nhw. Dyw safle un person mewn "hanes" byth yn aros yn llonydd.

Mae llawer o'r sylwebaeth yn tynnu sylw at fethiannau diweddar polisi tramor y llywodraeth. Mae'r ail erthygl uchod yn cymharu effaith Irac ar Lafur Newydd gydag effaith Vietnam ar raglen Great Society Lyndon Johnson. Dwi'n astudio hanes America ac mae rhyfel Vietnam yn cael ei gofio am nifer fawr o resymau ond mae'r Great Society yn cael ei gofio am waith un dyn: Lyndon Johnson. Yn yr un modd, dwi'n meddwl bydd rhyfel Irac a'r ymladd sy'n parhau i fynd mlaen yno yn cael ei roi mewn darlun lledaenach na "Tony Blair" ar ôl i'r gynnau dawelu.

Bydd y diwygiadau a'r llwyddiannau yn y Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael eu cofio ond mae rhoi blaenoriaeth i'r rheiny wedi troi yn rhaid gwleidyddol ym Mhrydain erbyn hyn, gyda cymaint o etholwyr y wlad yn gweithio iddyn nhw. Dwi'n siwr bydd "record investment" mewn addysg ac iechyd yn rhywbeth fydd yn self-perpetuating tan i'r chwyldro gyrraedd.

Dwi'n meddwl bydd Tony Blair yn cael ei gofio am y newidiadau hynny sydd wedi digwydd yn y ffordd mae'r llywodraeth yn ceisio rhedeg y wlad. Mae gan Blair y record bleidleisio waethaf yn Nhy'r Cyffredin gan unrhyw Brif Weinidog erioed ac mae aelodau'r Ty wedi arfer cymaint â mynd yn erbyn doethineb eu plaid erbyn hyn (a Ty'r Arglwyddi x 10) nes y bydd hi'n anodd iawn i rhywun redeg llywodraeth gyda mwyafrif bychan mewn blynyddoedd i ddod. Mae'r wythnos seneddol yn fyrach nac erioed ac mae llai o drafod mesurau ar y llawr na bu erioed o'r blaen.

Mae'r ymchwydd yn y galwadau i gael etholiad cyffredinol yn union wedi i Brown gymryd drosodd fel Prif Weinidog yn dangos pa mor bell ry'n ni wedi mynd o fod yn ddemocratiaeth seneddol i fod yn gymysgedd rhyfedd iawn o gael teulu Brenhinol ac Arlywydd ond bod pob etholaeth yn mynd yn debycach i is-etholiadau bychain.

Cawn weld sut bydd "hanes" yn edrych ar ei newidiadau cyfansoddiadol - yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban, yn Nhy'r Arglwyddi ac yng Nghymru - ynghŷd â'r modd mae'r cysylltiad rhwng y llywodraeth a'r senedd wedi newid yn sylfaenol ... Dyna dwi'n gweld fel newidiadau pwysicaf tymor Tony Blair.

No comments: