3.6.07

Tacluso rhyw dipyn

Dyna fues i'n gwneud dros y penwythnos. Un stafell sydd gen i eleni ac mae hi'n eitha dymunol, er ychydig yn dywyll ac ymhell o fod yn anferth. Roedd fy ystafell wedi llithro mewn i stâd hollol gywilyddus yn yr wythnosau diwethaf. Dwi'n mynd i ddefnyddio fy arholiadau fel esgus, ond un hollol annigonol. Roedd na fôr o nodiadau a thraethodau dros y llawr i gyd - roeddwn i'n gwybod yn union lle'r oedd popeth, wir yr - a cherdded o un pen y stafell i'r llall (tua saith cam) yn golygu neidio o un ynys garped i'r llall.

Roedd rhaid i hynny newid y penwythnos yma gan i'r annwyl Rieni alw draw ar eu ffordd i faes awyr Stansted ar wyliau. Maen nhw'n mynd i Awstria, i ardal Salzburg, ac ymlaen i'r Almaen am rhyw bythefnos. Er nad yw Casa'r Traed fel pin mewn papur, mae safonau taclusrwydd a glanweithdra y Rhieni mewn cynghrair wahanol i fi a f'annwyl chwaer.

Mae fy stafell yn edrych tua teirgwaith yn fwy ers tacluso a dwi'n defnyddio fy mox files am y tro cyntaf ers rhyw fis. Dwi 'mond angen golchi'r dunnell o ddillad sy'n gorchuddio dwy o fy nghadeiriau a fydd popeth yn iawn ...


Nid fy stafell ... ddim cweit, beth bynnag. Llun gan SbecsPeledrX

Gyda phob ymweliad, mae fy Rhieni yn dod ag ambell beth yn bresantau i fi. Yn ddi-ffael, daw sawl carton o sudd Five Alive (mae'n amhosib cael gafael arno yng Nghaer-grawnt), ffrwythau (bananas a grawnwin y tro yma - trio gwneud yn siwr fy mod i'n cael rhywle'n agos at bump y dydd) a rhywbeth melys (i ddad-wneud gwaith da y ffrwythau). Roedd copi o rifyn diweddaraf y Tincer, sef papur bro Genau'r Glyn, Melindwr, Tirymynach, Trefeurig, a'r Borth, ganddyn nhw ac ynddo fy "erthygl" fel person ifanc yn ystod yr ymgyrch etholiadol ddiweddar. Drws nesaf at fy narn i mae darn cyfatebol gan Gwenno a gadwodd at y mwyafswm geiriau - ysgrifennais dros ddwywaith yn fwy na Gwenno a dweud dim mwy na hi!

Dwi'n gwrando ar "Golau Tan Gwmwl" gan Plethyn tra'n sgwennu'r neges hon - cân am Jac Glan-y-Gors a'r Chwyldro Ffrengig. Bues i'n ysgrifennu am y Chwyldro hwnnw mewn arholiad bnawn Gwener - fy arholiad cyntaf. Aeth pethau ddim yn dda iawn. Mae gen i ddau arholiad yr wythnos hon a dau ddechrau'r wythnos nesaf gan orffen ddydd Mawrth y 12fed. Mae tipyn o waith caled o 'mlaen ...

No comments: