Clymbleidio? ClymPEIDIO!
(maddeuwch i mi am y pennawd)
Mae'r wythnos ddiwethaf wedi bod yn hollol hynod mewn hanes gwleidyddol Cymreig. Mae ceisio dilyn helynt y trafod o bellter fel yma wedi bod yn anodd. Am unwaith, mae tempo newyddion gwleidyddiaeth yng Nghymru yn curo'n gyflymach na fy ngallu i i gadw i fyny gyda'r newyddion diweddaraf!
Dyma'r enghraifft orau posib o "ganlyn" gwleidyddol.
Aeth PC a'r BL i "gael coffi" nôl yn y fflat ym Mae Caerdydd. Gwrthododd PC fynd â phethau'n rhy gyflym gan bod posibiliad o ffling triawdol ar y gorwel. PC oedd y ferch ysgol "ddiniwed" gyda llygaid glas i'r bachgen o ochrau anghywir y traciau y C, yn ei wasgod tweed. Roedd y DRh jyst yn digwydd bod yn y lle iawn ar yr adeg iawn, ond braidd yn ansicr am ei rhywioldeb (creithiau o berthynas orffennodd yn anhaclus gyda'r BL) ac os oedd cael triawd yn mynd i fod yn embaras yn y dyfodol.
Dechreuodd bethau symud mlaen rhwng PC a'r C gyda'r C yn addo ei fod yn ddyn newydd a'i fod wedi newid y tro yma, wir yr. Yn raddol, roedd PC'n teimlo ei bod yn cael ei chymryd yn ganiataol gan y BL ac yn rhad a budr. Rhoddodd y BL un cynnig olaf i PC, ond doedd hynny ddim yn ddigon - gwelai PC fywyd gwell ar y gorwel gyda'i phartneriaid newydd.
Ond! Nid yw popeth mor hawdd â hynny mewn serch!
Yn sydyn, cafodd y DRh draed oer a thynnu'n ôl o'r triawd. Aeth i feddwl yn ddwys am ba gyfeiriad mae'n bwriadu siglo'n y dyfodol. Felly, roedd penderfyniad anodd gan PC i'w wneud. Mynd yn ôl at y BL ar ei gliniau (wotshit) a gofyn am faddeuant a chyfle arall neu aros gyda'r hen rebel a ffonio "escort" i gael help i gwblhau'r triawd.
Dewch nôl yr un pryd wythnos nesa i gael clywed gweddill yr hanes!
No comments:
Post a Comment