24.5.07

Difrifol

Dwi wedi dechrau ysgrifennu sawl darn "difrifol" am y trafodaethau clymbleidio yn ystod y dyddiau diwethaf, ond dwi ddim wedi cael digon o amser i'w gorffen. Erbyn i fi gael ychydig mwy o amser i fynd at y cofnod eto, mae'r sefyllfa wedi newid a'r hynny wnes i ysgrifennu yn hollol amherthnasol! Dylen i ddweud rhywbeth am gael eich gadael ar ôl wrth sefyll yn yr unfan.

Ymysg y pethau na fydd bellach yn cyrraedd golau dydd oedd ymosodiad ar y rhai hynny sy'n beirniadu Plaid Cymru am faeddio mynd i glymblaid gyda'r Ceidwadwyr. Efallai bod dadlau'r ffordd yna i weld yn rhyfedd gan mod i wedi mynd am bolemic o blaid cael Llafur yn y llywodraeth yr wythnos ddiwethaf, ond mae na gamddealltwriaeth sylfaenol o'r hyn ydyw Plaid Cymru yn cael ddatgan ar hyn o bryd (e.e yn yr edefyn yma ar maes-e).

Y means i end pob plaid wleidyddol yw cael grym. Dyma gyfle euraid i Blaid Cymru ddangos nad grwp pwyso yn ymladd brwydrau egwyddorol ymrannol mohonni ond plaid wleidyddol uchelgeisiol sydd am wneud y gorau i Gymru o fewn ei gallu. Does na ddim synnwyr yn y dadleuon sy'n lladd ar Blaid Cymru am gymryd eu cyfle i gael grym. Ers iddi gael ei sefydlu, dyw'r Blaid erioed wedi bod yn agos at gael grym a pan mae hi'n cyrraedd y fan honno am y tro cyntaf, mae pawb yn mynd yn ballistic yn eu herbyn am fod eisiau cymryd y cyfle! Rwtsh llwyr.


David "Pretty Boy" Howarth, AS Caer-grawnt

Hefyd, beth ar y ddaear sydd o'i le gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol?! Mae hi'n embaras llwyr i mi gael un yn fy nghynrychioli yn San Steffan (Mark Williams) ac un arall yng Caer-grawnt (David Howarth). Cynigwyd yr unig bolisi sydd i'w weld yn uno'r blaid iddyn nhw - sef pleidleisio cynrychioliadol mewn etholiadau lleol - ac maen nhw wedi gwrthod clymbleidio yn y ddau gyfeiriad. Beth maen nhw'n bwriadu ei wneud yn y Cynulliad am y bedair mlynedd nesaf? Gyda dim ond chwech aelod, does bosib y byddan nhw'n cael llawer o ddylanwad. Roedden nhw'n mynd i gael dau yn y Cabinet o dan yr Enfys a chynnig tebyg gan y Blaid Lafur ond mae'n ymddangos eu bod nhw'n fodlon cynhesu eu seddi am bedair mlynedd, hyd yn oed ar ôl cael cynnig datrys raison d'être presennol y blaid. Hollol amaturaidd, hollol ddigyfeiriad.

Beth bynnag, dwi ddim wedi medru gorffen unrhywbeth am y clymbleidio na dim byd arall o bwys gan fy mod i yn gweithio yn eitha caled ar hyn o bryd. Mae fy arholiadau'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf mis Mehefin ac yn parhau tan y deuddegfed. Dwi'n trio adolygu'n eitha caled, felly os aiff hi'n dawel yma, nid colli diddordeb mewn blogio (eto!) ydw i ond yn gwneud pethau eraill fel darllen a chysgu. Sôn am gysgu ...

No comments: