Clymbleidio
Mae gwleidyddiaeth Cymru mewn limbo ar hyn o bryd (fel Groundhog Day yn ôl Vaughan Roderick) gyda'r prif bleidiau yn trafod a bargeinio tu ôl i ddrysau caeedig ynglŷn â phwy bydd yn ffurfio llywodraeth yn y Cynulliad yn dilyn etholiad Mai y trydydd.
Diddorol gweld bod Glyn Davies yn defnyddio pob cyfle a gaiff i wthio'r syniad o gael Clymblaid Enfys yn rheoli. Dwi'n meddwl bod Clymblaid o'r pleidiau lleiafrifol yn y Cynulliad nid yn unig yn syniad drwg ond yn anghywir o ran egwyddor.
Llafur yw'r blaid fwyaf yn y Cynulliad, o bell ffordd. Efallai eu bod nhw wedi bod yn lwcus i beidio colli mwy o seddi ond does dim pwynt edrych ar beth allai wedi bod - nhw sydd â'r nifer fwyaf o seddi, cawson nhw 10% yn fwy na'r pleidiau eraill yn yr etholaethau ac 80,000 yn fwy o bleidleisiau rhanbarth.
Nid fy hoff wleidydd ond Prif Weinidog nesaf Cymru, plîs.
Yn fy marn i, mae'n rhaid i'r Blaid Lafur ffurfio rhan o'r llywodraeth.
Byddai cael y Glymblaid Enfys yn rheoli, llywodraeth a fyddai'n gynghrair anhapus o wahaniaethau sylweddol mewn syniadaeth a phersonoliaethau sydd wedi arfer ymaflyd â'i gilydd, a cael Llafur yn brif wrthblaid, y blaid gyda'r mandad democrataidd cryfaf i lywodraethu, yn groes i bob egwyddor o gael senedd wedi'i hethol i gynrychioli ewyllys y bobl. Doedd 'run o mhleidleisiau i eleni dros y Blaid Lafur, ond, o edrych ar bethau o safbwynt amhleidiol, mae'n rhaid gweld prif blaid y Cynulliad yn rhan o'r llywodraeth.
Dyna pam dwi'n meddwl bod y syniad yn anghywir o ran egwyddor. Fel dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, "what is important to me from a constitutional point of view is that we should get a government that reflects what the people voted for."
Haul ar fryn diolch i'r Enfys?
Dwi'n meddwl bod y Glymblaid Enfys yn syniad drwg oherwydd rhyfeddodau'r diwylliant gwleidyddol Prydeinig. I ddefnyddio geiriau Elis-Thomas eto, "our problem is I think we're still under the shadow of the Westminster two-party system. That is not the model of Welsh politics and we shouldn't be applying it." Mae etholiad Alex Salmond yn Brif Weinidog yr Alban a chynnwys ei araith gyntaf yn y swydd honno yn dangos bod rhai wedi dechrau meddwl mewn ffordd sy'n gymwys â'r system etholaeth gyfrannol.
Fe fydd hi'n ddiddorol iawn gweld os / sut bydd y diwylliant gwleidyddol Prydeinig yn newid i ddelio gyda'r clymbleidio sy'n debygol iawn o godi gyda phleidleisio cyfrannol. Fodd bynnag, fel saif pethau ar hyn o bryd, dwi ddim yn meddwl bod neidio i mewn i ben dyfn clymbleidio, h.y y Glymblaid Enfys, yn syniad da o ran datblygiad y ffenomenom newydd yma i Brydain. O anwybyddu'r Gynghrair rhwng yr SDP a'r Rhyddfrydwyr, yr unig glymblaid effeithiol alla i feddwl amdani mewn hanes gwleidyddol Prydeinig diweddar yw'r ddealltwriaeth rhwng yr Ulster Unionists a'r Ceidwadwyr tan iddi ddadfeilio ar ôl y Sunningdale Agreement. (dwi'n anwybyddu unrhywbeth cyn 1945 am resymau cymhleth a (chymharol) anniddorol - dwi am drio peidio ailadrodd fy adolygu yma!)
Mae'n rhaid datblygu diwylliant o gyfaddawdu a chlymbleidio yng Nghymru ac yn yr Alban, ac, ar ôl dim ond wyth mlynedd o bleidleisio cyfrannol, dwi'n ofni byddai cael Clymblaid Enfys i lywodraethu yn naid rhy bell i'r tywyllwch mewn gwlad sydd â'i gwleidyddion wedi arfer yn rhy dda â dadlau, nid cydweithio a phleidiau sydd yn rhy aml yn diffinio eu hunain yn erbyn eu gwrthwynebwyr, nid yn ôl yr hyn gallai gael ei gyflawni er budd y bobl.
No comments:
Post a Comment