11.5.07

McFly! Eto!

Doedd y cyfnod yng Nghaer-grawnt rhwng dychwelyd o'r "Gogledd" a mynd adre am y Pasg ddim yn rhyw amser diddorol iawn. Fe ddechreuais i ar rywfaint o waith ond roedd tempo'r gwaith yn hamddenol iawn. Mae gen i fy stafell yn y coleg am 35 wythnos eleni, sy'n golygu fy mod i'n gallu aros ynddi drwy'r gwyliau os hoffen i. Does gan bawb mo'r cyfle na'r cymhelliad i aros yma tu allan i amser tymor.


Flash! Bang! McFly ar y llwyfan!

Fe alla i ddeall hynny'n hawdd. Mae Caer-grawnt yn le high pressure a weithiau mae dyn jyst eisiau dianc. O ymweld â fy annwyl chwaer am dair mlynedd cyn dod yma fy hun, dwi'n gyfarwydd gyda Chaer-grawnt o safbwynt gwahanol. I mi, mae Aberystwyth ar ei orau ym mis Medi - dim myfyrwyr, dim twristiaid - ac mae rhywbeth tebyg yn wir yma. Doedd dim cymaint â hynny o bobl o gwmpas yn ystod y gwyliau ond golygodd hynny bod pawb yn fwy parod i drefnu i wneud "pethau" o flaen llaw, fel coginio, gweld ffilm, gwylio'r teledu neu cael parti gin a chips.

Er mod bleserus oedd y digwyddiadau hynny, uchafbwytn diamau y gwyliau oedd mynd i'r Gyfnewidfa Rawn gyda DH i weld McFly. Fel gwydd darllenwyr rheolaidd y blog hwn, cefais fy mhrofiad cyntaf o gig arena yn yr NEC ym Mirmingham fis Medi 2005 yn gweld McFly. Mae'r Gyfnewidfa Rawn yn ddipyn llai ac roedd ymweliad y band gyda'r dref yn rhan o'u taith "Up Close and Personal" - taith i lefydd lle nad oes arena na neuadd gyngerdd anferth.

Agorwyd y noson gan Lil' Chris. Daeth i amlygrwydd ar raglen Rock School ar Channel 4 lle aeth Gene Simmonds o Kiss i ysgol uwchradd "arferol" a dysgu'r plant sut i rocio a rolio. Dwi'n amau bod Lil' Chris yn cymryd tabledi gwrth-hormon i wneud iddo aros yn "Lil'" am byth. Ar ôl rhywfaint o Ddj-io pseudo-gawsaidd-90au-canol, fe ddaeth McFly i'r llwyfan.


Dougie yn dechrau'r gân olaf

Roedden nhw'n dda iawn. Fe allech chi ddweud lot o bethau cas am McFly a pheidio bod yn bell iawn o'r gwirionedd (roedd eu hapêl i bawb decstio rhyw rif yn y fan a'r lle i dalu £1.50 i brynu eu sengl newydd yn eithaf isel), ond byddai ceisio ymosod ar eu dawn gerddorol yn gam gwag. Dwi ddim yn cofio'r set yn glir iawn erbyn hyn ond roedd na gyfuniad o'r dair albym, gyda mwy yn dod o'r un fwyaf diweddar, wrth gwrs. Daeth Anneka Rice ar y llwyfan hanner ffordd drwodd i ofyn i'r bechgyn recordio cân ar gyfer CD i blant mewn hospis. Fe wrthododd y band o flaen cannoedd o bobl, wrth gwrs.


Noson dda. Hwyl, sbri, cerddoriaeth bop safonol, diod neu ddau - perffaith.

1 comment:

Soph' said...

I love McFLY
http://mcflyleblog.blogspot.com