11.5.07

Bwrw Blogiau

Er nad yw hi'n hollol amlwg o beth dwi'n sgwennu ar y blog, dwi'n hoffi meddwl am wleidyddiaeth. Yn fwy na hynny, dwi'n hoff iawn o etholiadau. Mae fy niddordeb hanesyddol yn bennaf ar yr hyn a elwir yn ‘high politics’, hynny yw, gwleidyddiaeth personoliaethau a hunan-ddiddordeb coridorau (cefn) pwer, ymhell o ‘fywyd go iawn.’ Rydw i’n gweld etholiadau’n ddiddorol gan mai dyma gyfle’r ‘byd go iawn’ i atgoffa’r gwleidyddion eu bod nhw’n gwrando ar yn gwylio.

Dwi wedi mwynhau dilyn Etholiadau'r Cynulliad yn fawr iawn. Roeddwn i'n aml yn teimlo dylwn i fod yn cyfrannu rhywbeth at yr ymddiddan blogiol ond mae hi'n anodd iawn i rywun oedd mor bell o realiti'r etholiad allu dweud unrhywbeth newydd na diddorol. Dwi wedi cael blas arbennig ar y rhai hynny o'r blogiau sydd wedi bod ar dân yn ystod y cyfnod diweddar (boed yn sylwadau crafog Vaughan Roderick ac Blamerbell, yn adroddiadau o faes y gad (aka Heol y Wig) gan Dogfael, yn aralleiriad o'r party line gan Rhys Llwyd ayyb) - mae gweld cymaint o action blogaidd wedi gwneud i fi eisiau bod yn rhan o'r holl beth eto.

Fues i'n sgwennu erthygl fer ar gyfer y Tincer am yr etholiad echddoe. Roeddwn i fod i roi sylwadau ar sut llwyddodd yr ymgeiswyr lleol gael eu neges ata i. Doedd hynny ddim yn hawdd iawn - dwi mond wedi bod adre ers pythefnos ers canol mis Ionawr! - felly nes i ledaenu'r neges rhyw ychydig. Dwi'n eitha bodlon gyda'r darn gorffenedig, er ei fod braidd yn frysiog.

Unig "neges" y darn oedd rhoi rhybudd bychan i'r rhai hynny oedd yn sôn am yr etholiad fel trobwynt hanesyddol yn y Blaid Lafur. Fues i'n darllen am etholaid cyffredinol 1983 ar ôl dod nôl o America dros yr haf. Ar rhaglen ganlyniadau'r etholiad hwnnw, pan fu gostyngiad tua 10% yn y bleidlais Lafurol ac enillodd y Toriaid y nifer mwyaf o seddi ers oesoedd, dywedodd JohnDaviesHanesCymru bod yr etholiad yn drobwynt maw - bod Cymru nawr yn rhan o'r darlun gwleidyddol Prydeinig, hegemoni'r Blaid Lafur a diwylliant gwleidyddol unigryw Cymreig wedi dod i ben. Yn ystod y rhaglen eleni, dywedodd Richard "Dicw" Wyn Jones bod hwn yn drobwynt mawr - bod hegemoni'r Blaid Lafur yn y de wedi dod i ben.



Cododd y Blaid Lafur yn ddigon buan ar ôl 1983. Dwi'n ymwybodol bod llawer wedi newid ers hynny. Ond dwi'n meddwl bod llawer o'r sylwebyddion wedi bod yn rhy barod i ladd ar gyfleoedd Llafur. O ystyried eu bod yng nghanol slymp canol tymor y Senedd Brydeinig a'u bod mewn grym ers 8 mlynedd yng Nghymru, fe allen nhw wedi gwneud yn waeth. Ac mae'r ffactor sylweddol hwnnw a stopiodd Llafur rhag cael noson drychinebus - yr Annibyns - yn beth cwbl unigryw Gymreig yn niwylliant gwleidyddol Prydain ar hyn o bryd. Os oes unrhyw synnwyr cyffredin gan Lafur yng Nghymru, fe fydd yr etholiad yma'n rhoi cic yn eu tinau - agos at wneud yn wael, dyma lle mae'r gwaith caled yn dechrau ayyb.

Roedd John Davies (aka Tony Benn) yn anghywir ddwywaith a dwi'n ofni bydd Dicw'n anghywir unwaith hefyd.

1 comment:

Gwenno said...

Felly, bydd dy erthygl di, a fy 'erthygl' i'n mynd head-to-head yn y Tincer! Smo'r papur 'na erioed wedi bod mor gyffrous, wel, heblaw am wedi corwynt mawr Bow Street!