18.5.06

Nid Dante

Fe fues i'n y Junction am y tro cyntaf neithiwr i weld y Divine Comedy. Dwi wastad wedi bod yn hoff o'r Divine Comedy ond dydw i ddim mor gyfarwydd â hynny gyda'u gwaith nhw. Dwi'n mynd i wneud yn siwr mod i'n dod i nabod eu stwff nhw'n lot gwell ar ôl y gig neithiwr.

Glywson ni ddiwedd y support, boi Gwyddelig gyda gitar, eitha inoffensive, ac yna daeth y band ymlaen am naw o'r gloch a chwarae awr a hanner o set. Roedd Neil Hannon, y prif ganwr, yn wych i wylio, carismatig ond heb drio. Roedd jyst ganddo 'rywbeth' oedd yn gwneud i chi wrando ar gwylio. Llais da hefyd ac, am unwaith, roedd hi'n bosib clywed y geiriau oedd yn cael eu canu, sef un o gryfderau pennaf y band.

Gan mod i'n y gig, fe golles i ffeinal Cynghrair y Pencampwyr, ond dwi ddim wir yn poeni, gan fod y gem yn rhan o'r ymwybyddiaeth cyffredinol mae hi'n eitha hawdd cael jist beth ddigwyddodd heb fod wedi eistedd ar stôl mewn tafarn am ddwy awr.

Roeddwn i'n disgwyl cael sioe dda gan y Divine Comedy - maen nhw'n enwog am hynny, a'r banter rhwng Hannon a'r gynulleidfa - ond fe ges i syndod i weld pa mor dda oedden nhw. Roedd y caneuon oddi ar yr albym newydd (allan yn fuan) yn swnio'n dda. Noson dda iawn.

2 comments:

Ray Diota said...

Wy di bod ar y piss da Neil Hannon. Odd e'n whare yn Clwb Ifor ac odd e'n aros ar ol tra bo pobol yn paco lan 'i stwff e - on i di aros ar ol achos bo fi di cwmpo i gysgu ar y bog - wy'n meddwl bod e'n meddwl bo fi'n un o'r roadies a gynigodd e ddrinc i fi ym mar 'i hotel... joio.

Anonymous said...

That's a great story. Waiting for more. » »