4.5.06

Pleidleisio a Traethawd

Wel, fe rois fy nghroes yn y bocs bach ar y darn papur. Effeithiodd cwpwl o bethau yn y dyddiau diwethaf ar fy mhenderfyniad, i ddweud y gwir. Y prif beth a lywiodd fy newis oedd cael clywed oddi wrth y cynghorydd presennol sef ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd hi'n hollol amlwg fod hwn ben ac ysgwydd uwchben y lleill o ran dawn a dibynadwyedd, ac er mod i'n trio dweud wrth fy hun nad oeddwn i'n poeni am safon yr ymgeiswyr, fe fyddai hi'n drueni i'r ward pe na bai'r gŵr yma'n cael ei ethol. Roeddwn i wedi bod yn meddwl yn eitha dwys am roi pleidlais i'r Blaid Lafur, oherwydd er popeth sydd o'i le gyda'r blaid, dwi'n gweld mwy o dda sylfaenol a mwy o gyfle i'r da hwnnw gael ei fynegi yn ymarferol a dod â chyfiawnder i'r wlad na yn yr un o'r pleidiau eraill. Ond dwi jyst wedi clywed gormod o falu cachu am / gan y blaid dros yr wythnos/au diwethaf, felly dwi'n meddwl eu bod nhw'n haeddu eu bloody nose go iawn.

Mae traethawd cyntaf y tymor i mewn erbyn 9 o'r gloch bore fory. Dwi wedi gweithio'n reit galed yr wythnos hon, i ddweud y gwir. Mae'r tywydd wedi bod yn *odidog* felly mae hi wedi bod yn reit anodd i ganolbwyntio ar adegau ond dwi'n eitha hapus gyda faint o ddarllen dwi wedi'i wneud, yn y diwedd. Fe fues i'n darllen ar y gwair yn Bodley's (dwi'n cael mynd ar y gwair fanno) [hmm nai dynnu lluniau sy'n well na'r dim sydd i'w weld ar y wefan - jyst trystiwch fi ei fod yn idyllic, wrth yr afon, haul braf, gwair perffaith gwyrdd ayyb] ond dwi ddim yn dda iawn am weithio tu allan, felly fe fues i yn Llyfrgell Hanesyddol Seeley. Mae'r adran hanes yn "gampwaith" bensaerniol, a'r llyfrgell yn arbennig. Mae'r to ac un ochr yn ffenestri i gyd, sy'n golygu ei bod hi'n olau yn y dydd ac yn dywyll iawn yn y nos, yn boeth iawn yn yr haf ac yn oer iawn yn y gaeaf. Clyfar. Gan ei bod hi mor braf heddiw, roeddwn i'n teimlo fel mod i'n cael fy nghoginio yn araf yno.

Academic self-flagellation. Hunan-fflangellu academaidd, hyd yn oed.

Beth bynnag, dwi'n gwybod ychydig bach am i ba raddau y dylanwadodd cael mantais dynastic yn hytrach na masnach ac eiddo colonial (trefedigaethol?) ar gysylltiadau rhyngwladol yn ystod y ddeunawfed ganrif. Hynny yw, pam fod na lot o ryfel yn y ddeunawfed ganrif ond lot llai yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae fy supervisor (y person sy'n gofalu ar ôl fy astudiaethau) yn arbenigwr ar y meddylfryd tu ôl y bethau yn y cyfnod yma (y syniadau tu ôl i'r Chwyldro Ffrengig yn enwedig) felly dwi wedi cael llawer i'w ddarllen am theoriau am fasnach, jealous of trade, cydbwysedd grym ayyb. Diddorol iawn, i ddweud y gwir. Neud i mi feddwl efallai bydden i'n hoffi astudio SPS (Social and Political Sciences) ond wedyn dwi'n taro un golwg ar Hobbes neu rywun a dwi'n gwybod mod i'n y lle iawn.

Supervision am ddau fory - dwi'n edrych ymlaen i weld sut fydd fy supervisor yn ymddwyn. Efe ydy fy NoS (Director of Studies) felly dwi'n ei adnabod yn eithaf da, yn adnabod ei steil yn barod mewn sefyllfaoedd cymdeithasol (chwithig iawn) a mewn dosbarthiadau yn trafod syniadau hanesyddol mwy haniaethol mewn ffordd eitha cyffredinol, ond dwi am weld sut mae'n trin pwnc ei arbenigedd.

Beth bynnag, mae angen ychydig o lawdriniaeth ar y traethawd cyn bore fory, felly gwely a codi'n ddigon cynnar. Nos da.