1.5.06

Royston, Etholiadau Lleol a Chyfweliad

Roedd na gerdyn post bach piws a gwyn yn aros amdanai yn fy nhwll colomen pan ddes i 'nôl i'r coleg ddydd Gwener diwetha yn rhoi pleidlais i mi yn ward Newnham yn yr etholiadau lleol. Dwi wedi fy nghyffroi gyda democratiaeth!

Dwi mewn safle arbennig sy'n annhebygol iawn o godi eto yn ystod fy mywyd.

Does gen i ddim ots am unrhywbeth sy'n digwydd yn lleol - y coleg, gyda'i stadudau a'i reolau arbennig (gall y coleg neud beth bynnag mae am wneud, o fewn rheswm) sy'n dylanwadu ar fy mywyd i. Mae dewis Provost newydd i'r coleg, er enghraifft, can-mil gwaith mwy pwysig na pwy ydy fy nghynghorydd. Dydw i ddim yn gwybod lle mae fy ward yn dechrau na gorffen, na pwy ydy'r ymgeiswyr na dim o'u polisiau na dim byd arall am beth sy'n bwysig yn yr etholiad yma. Does na ddim etholiad yn ward Tirymynach adre i mi gael pleidleisio drwy'r post felly dwi mewn safle arbennig.

Mae gen i'r cyfle i roi pleidlais, neu beidio, i'r prif bleidiau ar sail egwyddorion sylfaenol y pleidiau hynny'n unig.

Dydy hi'n ddim syndod, felly, mod i wedi cyffroi gyda'r etholiad yma a fy nghyfle unigryw. Dwi ddim yn meddwl y gellir dweud yr un peth am drigolion maestrefi Caer-grawnt a pha bynnag bentrefi fyddai'n mynd trwyddyn nhw i gyrraedd pentref.

Roedd gen i gyfweliad ar gyfer mynd i edrych ar ôl plant Americanaidd drwy raglen Camp America yn ymyl Tower Bridge yn Llundain ddydd Sadwrn. Gan ei bod hi'n blydi gwyl banc, roedd na waith yn cael ei wneud ar y rheilffordd rhwng Caer-grawnt a Royston, felly roedd rhaid dal bys i fanno, wedyn tren mor bell â Finsbury Park (sy'n dymp) oherwydd bod King's Cross ar gau (oedd yn creu hyd yn oed mwy o drafferth o ran cyrraedd Tower Hill ar y tiwb).

Ar y daith fys o orsaf Caer-grawnt i Royston, tua ugain munud ar yr A10 a trwy ambell bentref, fe weles i unarddeg poster etholiadol (eisteddais i ar ddwy ochr y bys i gael golwg ar ddwy ochr y stryd - gwyddonol, dontchyanow). Roedd croesdoriad y posteri yn dipyn o sioc i mi, i ddweud y gwir. Dwi'n gwybod mod i yng Nghaer-grawnt, ond adre dwi wedi arfer gyda 50% "Plaid", 40% Lib Dem, 5% Llafur, 5% Ceidwadol (ish). Ar y daith ddydd Sadwrn fe weles i
0 "Plaid"
0 "Arall" (UKIP, BNP, Al Qaeda, Gwyrdd etc.)
2 Ceidwadwyr
9 Lib Dem
Roeddwn i'n disgwyl gweld mwy o bosteri, i ddweud y gwir, ond blydi hel, 9 Lib Dem a 2 i'r Ceidwadwyr - lle aeth y Blaid Lafur i guddio? Roedd sedd Caer-grawnt yn sedd Llafur tan yr etholiad cyffredinol diwethaf - ydy'r llanw wedi troi yn gyfangwbl ar y blaid?

Beth bynnag, aeth y cyfweliad yn iawn, diolch. Roedd rhaid i mi fynd i dŷ'r dyn, fflat ar lawr uchaf yr adeilad, gyda gardd concrit "city gardener" go iawn drwy'r drysau patio gwydr. Roedd y dyn tua 40 mlwydd oed, yn dew ond yn ddigon clen. Fe drodd yr holl beth braidd yn Little-Britain-League-of-Gentleman-aidd ar ôl mynd i mewn i brif stafell y fflat, oedd yn rhyw fath o gegin / stafell fyw. Roedd gan y boi ddwy gath, brawd a chwaer, un ddu a gwyn a'r llall yn ddu a brith. Ac roedd o'n hollol hollol obsessed, mewn ffordd "angen gweld rhywun proffesiynol" gyda'r ddwy gath. Dwi'n hoff iawn o gathod, fel ry'ch chi'n ymwybodol, mae'n siwr, felly dwi wedi arfer gyda tipyn o gariad afresymol at gathod, ond roedd y boi yma braidd yn unhinged yn y ffordd roedd yn gofalu ar ôl / siarad gyda'r ddwy gath. Roedd y ffordd edrychodd ar Prince (yr un ddu a gwyn) wrth ei ddal yn ei freichiau (mewn safle dal babi, bol i fyny) wedi iddo chwydu ar y carped tua deng munud i mewn i'r cyfweliad yn llawer mwy offputting na'r gath ei hun yn chwydu. Neidiodd Prince i fyny ar fy nglin tua canol y cyfweliad a roedd y dyn, druan, i weld yn eitha eiddigeddus mai fi oedd yn cael y sylw. Pan setlodd y gath i lawr ac eistedd ar fy nglin i'n ddigon bodlon, wel, doedd ganddo ddim i ddweud wrth y gath wedyn, druan.

Dwi'n eitha gobeithiol i gael lle munud olaf mewn Camp yn rhywle, ond mae'n fwy tebygol i mi gael lle "wrth gefn" - hynny yw yn gwybod mod i'n mynd i rywle yn America, ond ddim yn gwybod i ble - gan mod i wedi ei gadael hi mor hwyr (dwi ddim yn meindio hyn i ddweud y gwir - ma'n eitha cyffrous).

Hmm wedi bod yn trio meddwl am ffordd i glymu dechrau'r neges yma gyda'r diwedd ond allai ddim meddwl am ddim byd, felly

.

1 comment:

Unknown said...

Mae hyn er mwyn eich hysbysu ein bod yn cynnig cyfradd flynyddol Benthyciad (Busnes, Personol, Cydgrynhoi, Car, Buddsoddi, ac ati) @ 3%. A oes angen benthyciad arnoch ac wedi cael eich gwrthod gan eich banc oherwydd credyd gwael? Oes gennych chi filiau heb eu talu neu mewn dyled? Rydym yn gyflym ac yn ddibynadwy a gonestrwydd yw ein gair gwylio.

FFURFLEN CAIS LLENWI
Eich Enw yn llawn: Cyfeiriad: Rhyw: Swm Angenrheidiol: Hyd: Gwlad: Galwedigaeth: Rhif ffôn: Pwrpas y benthyciad:

Cofion cynnes,
E-bostiwch Ni: bryanstefanloanfirm@gmail.com neu whatsapp: +919654763221
Bryan Stefan (Prif Swyddog Gweithredol)
Cwmni Buddsoddi Bryan