7.4.07

Access

Mae gan bob coleg rhai awdurdodau addysg i'w targedu i ddod â myfyrwyr o gefndir na fyddai fel arfer yn ystyried ymgeisio i Gaer-grawnt i'r Brifysgol. Gan fod disgwyliadau academaidd Caer-grawnt yn eitha uchel, mae codi ymwybyddiaeth gyffredinol o fudd Prifysgol yn rhan o raglenni colegau fel arfer hefyd. Mae Coleg y Brenin, fy ngholeg i, yn adnabyddus am gael y canran uchaf o fyfyrwyr o ysgolion y wladwriaeth ac yn un o'r colegau mwyaf egniol wrth geisio denu ymgeiswyr "not from traditional backgrounds." Dyw Coleg y Brenin ddim yn wag o fyfyrwyr ysgol bonedd ac mae canran eitha sylweddol yn dod o ysgolion gramadeg yr Home Counties, ond mae enw da (neu ddrwg, yn nhyb rhai) ganddon ni fel coleg sy'n trio'n galed i agor drws Caer-grawnt i bawb.


Eira! O ffenest y gwesty

Gyda hynny mewn golwg, aeth pedwar-ar-ddeg ohonon ni i Darlington, Hartlepool a Middlesbrough i siarad gyda phlant blwyddyn 10 a chweched dosbarth am bedwar diwrnod. Roedden ni'n aros yn y Bluebell Lodge yn Acklam, ar gyrion Middlesbrough - fel Travelodge ond yn sownd at dafarn ac yn teimlo fel gwesty moethus yn Dresden circa 1975. Roedden ni'n mynd i ddwy neu dair ysgol y dydd yn gweld grwpiau "gifted and talented" blwyddyn 10 neu faint bynnag o'r 6ed oedd yn boddran troi i fyny. Fe setlodd pawb i mewn i'w rôl ac ein rwtin i mewn ffurf ddisymud yn gyflym iawn. Heb drefnu sgript na dim byd o flaen llaw, roedden ni'n dweud bron iawn yn union yr un peth wrth bob grwp.

[ Diflas - Fformat arferol: gem sefyll i fyny os chi'n meddwl "ie" (e.e sefwch os y chi'n meddwl bod Caer-grawnt yn ddrytach na Phrifysgolion eraill, sefwch os y chi'n adnabod rhywun sy'n mynd i Brifysgol), gem dyfalu pwy yw'r person aeth i Gaer-grawnt ni'n ei ddisgrifio (e.e mae ganddo wyneb hir fel ceffyl ac mae ei enw yn swnio fel peth gwneud stwffin > Jeremy Paxman [Gwyliwch hwn]), gem Call My Bluff (ar yr un llinellau â'r gem arall), tynnu llun o fyfyriwr stereotypical Caer-grawnt, a gorffen gydag ateb cwestiynau am "pam dylen i fynd i Brifysgol" a "sut fywyd sydd gan fyfyiwr yng Nghaer-grawnt." ]

Dwi'n meddwl i ni gael effaith go iawn ar rai o'r plant. Gan ein bod ni mond mewn ysgol am awr neu ddwy, teimlai'r ysgolion y dylen ni weld y rhai oedd gyda'r mwyaf o obaith i gael mynd i'r Brifysgol h.y grwpiau "gifted and talented" sef 10% "gorau" yr ysgol. Doedd dim fath beth yn bodoli ym Mhenweddig felly roedd gen i ddiddordeb i gael gweld sut oedd y grwpiau yma'n cael eu rhoi at ei gilydd. Roedd na ddipyn o amrywiaeth rhwng yr ysgolion ond thema barhaol oedd "teacher recommendation." Dwi ddim yn gyfforddus o gwbl gyda'r syniad yma o rannu'r disgyblion a rhoi teitl mor erchyll â "gifted and talented" iddyn nhw. Wedi dweud hynny, doedd ein rhoi ni mewn setiau ddim yn effeithio ar ein harmoni cymdeithasol yn yr ysgol (ond falle mod i'n dweud hynny gan mod i'n top set bob pwnc).


JT, Jeremy Beadle ac AB. Roedd athro celf yr ysgol hon yn tynnu llun o westai arbennig dydd gwobrwyo'r ysgol bob blwyddyn. Bisâr.

Roedd effaith Llafur Newydd i'w weld ym mhob ysgol. Ysgolion crefyddol (Catholig) neu arbenigol (mewn chwareon, drama dawns etc, peirianneg) oedden nhw i gyd. Yn Middlesbrough, mae pob ysgol yn arbenigo mewn rhywbeth heblaw am ddwy ysgol. Mae dwy ysgol Babyddol yn y dref ac mae un yn derbyn miliynau yn fwy o bres bob blwyddyn oherwydd eu status "arbenigedd." Does bosib bod hyn yn deg ar y plant sy'n mynd yr ysgol "arferol." Tueddai'r athrawon i fynd yn eitha negyddol neu amddiffynol wrth geisio egluro'r system i ni - wn i ddim beth roedd hynny'n ei ddangos am yr ysgolion, chwaith.

Ac yn ôl i Gaer-grawnt am gwpwl o wythnosau i ymlacio ac i ddechrau gweithio cyn mynd adre am y Pasg. (dwi'n ymwybodol bod y darn yma'n hir ac yn dweud ychydig ond dwi wedi bod yn ei sgwennu ers cyhyd nes mod i'n teimlo bod rhaid ei anfon)

1 comment:

Anonymous said...

Tami!!