5.4.07

Cymru v Lloegr - 17/03/07


Trwy rhyw ryfedd wyrth, nes i lwyddo i gael dau docyn i gem ola'r Chwe Gwlad eleni rhwng Cymru a Lloegr diwrnod cyn y gem. Atebais i gwestiwn rhyfeddol o hawdd (pwy sgoriodd unig gais y gem pan drechwyd Lloegr yn ystod Camp Lawn 2005?) ar wefan chwaraeon BBC Cymru'r Byd ac, yn wyrthiol, fy enw i ddaeth allan o'r het!

Roeddwn i wedi gwylio holl gemau'r bencampwriaeth eleni gyda ffrind o Crawley, DJS, felly roedd rhaid cynnig y tocyn sbâr iddo. Sais i'r carn yw DJS - roedd yn Stadiwm Telstra, Sydney, pan enillodd Lloegr yn 2003 - ond penderfynodd wisgo crys y Llewod i'r gem i "ymddangos yn goch o bell" rhag ofn i bethau droi'n gas. Aethon ni ar y tren o Gaer-grawnt i King's Cross yna tiwb i Paddington, ymlaen i Gaerdydd ac yn syth i'r Mochyn Du i gasglu'r tocynnau gan SEH.

Dwi rioed wedi gweld canol Caerdydd mor brysur. Roedd na giwiau o ddwsinau a channoedd o bobl tu allan i dafarndai am ddau o'r gloch y pnawn a'r gem mond yn dechrau am hanner awr wedi pump! Doedd na ddim modfedd yn rhydd yn y Mochyn Du - fe gymerodd hi oesoedd i gael sylw wrth y bar a rhoi i DJS ei brofiad cyntaf o Brains - felly ar ôl casglu'r tocynnau gan fy chwaer, aethon ni i'r Stadiwm yn eitha cynnar. On i'n eitha balch o gael bod yno yn gynnar yn y diwedd gan bod rhan fwyaf tyngedfenol Codi Canu, rhaglen ddiweddaraf "byd go iawn" S4/C, yn digwydd cyn y gic gyntaf.



Dwi'n gwylio ambell raglen ar wefan S4/C, ond, yn amlach na pheidio, mae'r rhaglenni'n llwytho'n eitha patchy sy'n golygu bod pethau sy'n dibynnu mwy ar sain nac ar lun yn well i'w gwylio. Pan fydd edefyn yn codi am raglen S4/C ar maes-e, dwi'n cymryd diddordeb a doedd dim llawer o glod i'r rhaglen yn y fan honno. Nes i fwynhau'r rhaglen - syniad da, gwreiddiol, cymeriadau da (h.y yr arweinyddion) a gwobr dda iawn ar ddiwedd y rhaglen. Beth bynnag, er ei bod hi braidd yn anodd clywed y corau yn y Stadiwm ei hun, nes i fwynhau clywed "I Bob Un Sy'n Ffyddlon" a chaneuon eraill y corau yn atseinio o gwmpas, gyda'r to ar gau.

Beth bynnag, yn ôl at y gem! Dyma'r ail waith i mi fynd i weld rygbi yn Stadiwm y Mileniwm - dwi wedi bod i weld Cymru'n chwarae pêl droed ddwsinau o weithiau - y tro cyntaf oedd Cymru'n erbyn Japan ar benwythnos agoriadol Canolfan y Mileniwm. Roedd y gem honno braidd yn ddiflas, er bod rhai o'r symudiadau yn y cefnwyr yn ddel iawn, doedd dim awyrglych. Gallai gem Lloegr ddim bod yn fwy gwahanol gyda'r Stadiwm yn berwi o'r cychwyn cyntaf.



Roedd y gem yn hollol wych - alla i ddim dechrau disgrifio pa mor hapus oeddwn i ar ôl y cais cyntaf ac ar ôl y chwiban olaf. Fe gymerodd DJS y fuddugoliaeth yn rhyfeddol o dda - tasen ni heb haeddu'r fuddugoliaeth gymaint wedyn fe allai hi wedi bod yn wahanol ond dyna ni. Mae DJS yn dipyn o wleidydd a trwy cyd-ddigwyddiad cymhleth (pan areithiodd DJS yn lle GG MP), mae'n adnabod AP MP a threfnodd i ni fynd am ddiod gyda fe ar ôl y gem. Cefais i noson wych yn siarad wast am wleidyddiaeth Cymru a gossipio am San Steffan. Ychydig bach yn bisâr, ond yn llawer o hwyl.

Adre peth cynta'r bore canlynol ac yn syth am Ogledd Lloegr ...

No comments: