6.6.07

Tua'r Hanner

Dwi yn fy ngwely yn barod ar ôl prynhawn a noson o ddiogi. Cefais i arholiad ar hanes gwleidyddol a chyfansoddiadol Prydain ers 1867 bore ma ac un ar hanes economaidd a chymdeithasol Prydain rhwng 1500 a 1750 ddoe. Chwe traethawd, chwe awr. Mae dau ar ôl gen i - boreau Llun a Mawrth. Fe aeth y ddau bapur diwethaf ganwaith gwell na'r cyntaf.

Bore ma oedd fy hoff bapur - dyma lle mae hanes agosaf at wleidyddiaeth pur yng Nghaer-grawnt. Fe atebais i gwestiynau ar "Has oratory declined as an effective means of political communication?", "To what extent was did the Conservative ascendancy in the 1920s depend on the party's adoption of the pre-1914 Liberal programme?" a "How consistent with 'New Labour' ideology has Tony Blair's foreign policy been?" Pynciau tra ddiddorol.

Roeddwn i'n benderfynol o ateb cwestiwn am Gymru - mae na un token am yr Alban a Chymru bob blwyddyn - ond yn anffodus roedd yn dipyn o fitsh ("Discuss the view that devolution owed more to Britain's invovlement in the process of European integration than to national revival in Scotland and Wales"). Does neb llawer, os o gwbl, yn ateb y cwestiwn Cymreig o flwyddyn i flwyddyn ond roedd gen i lawer mwy i'w ddweud am y pynciau eraill felly nes i benderfynu rhoi llwyddiant cymharol personol yn yr arholiad o flaen profi i'r arholwyr bod diddordeb gan rhywun yn hanes gwleidyddol Cymru.

Bûm yn gwylio'r Apprentice a dwy bennod o drydedd cyfres y West Wing fel rhan o fy ymlacio heno. Roedd y Prentis yn deledu gwych - y bennod orau'n y gyfres yma o bell ffordd a'r rhaglen deledu orau i mi weld ers oesoedd. Mae'r West Wing yn ddyfodiad gweddol newydd i mi. Dwi wedi gweld rhyw wyth neu ddeg bennod o'r drydedd gyfres ac yn mwynhau fel arfer, ond byth yn teimlo yn hollol gyfforddus - mae na rywbeth am y rhaglen sydd jyst ddim cweit yn gorwedd yn iawn, gormod o symud falle, gwthio ffiniau beth allai fod yn real, dwi ddim yn siwr iawn. Mae box set o'r holl gyfresi ar Amazon ... tasen i'n gyfoethog ...

1 comment:

Anonymous said...

Oes gen ti syniadau ar gyfer y Welsh Blog Awards 2007?