Ni All Terfysgoedd Daear Byth Gyffroi ...
Ie, dyma fi'n Dychwelyd.
Mae hi'n wythnos a diwrnod erbyn hyn ers i mi gario dau grât llwyd, un bag mawr llwyd o ddillad, un bag bach o ddillad a'r cyfrifiadur yn ei focs i fyny i fy ystafell ar y trydydd llawr yma yn Keynes. Mae hi wedi bod yn wythnos brysur iawn. Prif nodwedd yr wythnos ydy Y Pedwar Cwestiwn sef beth ydy dy enw di, o le wyt ti'n dod, pa bwnc wyt ti'n ei astudio (cwestiwn sy'n cael ei ateb mewn ffordd od - nid astudio hanes ydw i ond hanesydd. Dwi'n anghytuno efo hyn - dwi ddim yn hanesydd o unrhyw ddisgrifiad ac mae gan y 'meddygon' 7 mlynedd cyn fyddai'n eu galw nhw'n feddygon) a lle wyt ti'n byw o fewn y coleg. Gydag enw fel Seiriol, mae'r cwestiwn cynta yn cymryd yn dipyn o eglurhâd (allai ychwanegu 'Ceyreole' fel sillafiad posibl i fy enw erbyn hyn).
Mae byw yn y coleg yn cyfleustra dwi'n falch iawn ohonno. Mae'r bar i lawr y grisiau sydd reit yn ymyl y neuadd lle fyddai'n cael fy mwyd i gyd, bar y seler yn fanno hefyd, y llyfrgell jyst tu allan i fy ffenest ond mae'n ddigon tawel yma i allu byw bywyd yn hawdd a chysgu'r nos. Mantais arall o gael byw yn y coleg ydy cerdded allan o'r adeilad peth cyntaf yn y bore a gweld yr haul ar ochr y Capel ac ar draws y ffynnon a'r glaswellt sydd yn olygfa gyfareddol. Dwi'n dal i deimlo'n od wrth gerdded trwy'r giât flaen ar ôl bod yn y dre, gweld y bensaerniaeth a'r olygfa o fy mlaen a gwybod mai dyma ydy adre am y dair mlynedd nesaf. Mae'r un mor od i fwyta fry-up neu blât o chips yn y Neuadd gyda lluniau o Syr Robert Walpole a George Canning yn edrych i lawr arnaf i.
Beth ddigwyddodd pryd:
Gwener 30 - cyrraedd, cwrdd â Tiwtor, bwyd ffurfiol yn y Neuadd. Tiwtor yn foi neis. Cyflwynodd ei hun i fi gan ddweud "I don't think we've met have we?" cwpwl o ddiwrnodau yn ddiweddarach.
Sadwrn 1 - matricwleiddio. Ystyr hyn ydy mod i wedi mynd i'r Capel, arwyddo darn o bapur yn fy nghlymu i lwythi o hen reolau'r Coleg a, trwy hynny, yn dod yn aelod o'r Coleg a'r Brifysgol. Anti-climax braidd. Llun matricwleiddio - pawb yn y flwyddyn, graddedigion ac is-raddedigion mewn un llun mawr wedi'i dynnu o flaen y Capel. Roedd Martin, mathematgydd o'r Almaen, y bachgen talaf gyda'r gwallt lletaf a mwyaf bushy yn sefyll o mlaen i. Swper matricwleiddio gyda'r DoS (y dyn sy'n llywio fy astudiaethau) - mae Dr Sonenscher yn ddyn neis iawn, rhyfeddol o glyfar ond ychydig yn swil wrth ei gyfarfod am y tro cyntaf.
Sul 2 - Pyntio - roedden ni i fod i byntio am chwarter awr ond gan fod ein pyntiwr wedi bod yn yfed ers tipyn ac yn yfed yn ddi-stop ar hyd y daith, fe fuon ni'n pynio am awr a chwarter. Profiad pleserus iawn, fodd bynnag.
Llun 3 - Ffair y Glas. Fel rhywun sy'n casau hysbysebu 'yn eich gwyneb' fel galwadau ffôn neu rywun yn cerdded i fyny atoch chi ar y stryd â chas perffaith, roedd Ffair y Glas fel rhyw fath o uffern i fi. Nes i ddim roi fy enw ar bopeth yno, ond mae gen i fag yn llawn darnau papur a beiros yn barod i mi fynd trwyddyn nhw i benderfynu pa gymdeithasau sy'n haeddu fy wyth bunt neu beth bynnag am aelodaeth oes.
Mawrth 4 - Gweld llyfrgell y Coleg. Llyfrgell ardderchog ac un sydd â golwg henffasiwn iawn arni. Fe fuon ni'n crwydro tafarndai'r dre yn yr hwyr - profiad eitha diddorol.
Mercher 5 - Cwrdd â Boyd Hilton, fy supervisor, yng Ngholeg y Drindod. Dyn hyfryd. Gosod traethawd erbyn dydd Gwener am effaith y Chwyldro Ffrengig ar wleidyddiaeth a diwylliant gwleidyddol Prydain. PARTI hanes yn yr hwyr (fe adawodd fy NoS y caps lock ymlaen yn ei bedwar ebost yn fy hysbysebu am y parti) - llawer o win, dim llawer o bobl = llawer o win yn diflannu a'r adran yn llithro ymhellach ac ymhellach i mewn i ddyled.
Iau 6 - Darlithoedd yn cychwyn a mynd am daith ar do'r Capel - dydy twristiaid ddim yn cael gwneud hyn. Anhygoel. Lluniau i'w gweld yma
Ers dydd Iau, dwi wedi bod yn trio neud cymaint o ddarllen â dwi'n medru am y Chwyldro Ffrengig ayyb achos dwi rioed wedi'i astudio o'r blaen felly does gen i ddim clem beth dwi'n mynd i'w roi yn y traethawd.
Erbyn hyn, mae grwpiau yn dechrau dod at ei gilydd. Y prif wahaniaeth rhwng y grwpiau ydy pa mor ddiddorol ydy'r bobl. Mae'r rhan fwyaf o bobl yma yn llithro i mewn i ddwy golofn yn eitha gyfleus - diddorol ac anniddorol. Mae na rai pobl yn pontio'r ddwy golofn yma, ond yn gyffredinol, mae'n gweithio'n daclus.
Mae na dwristiaid yma, yn y Coleg, *drwy'r* amser. Beth dwi'n gweld yn od amdanyn nhw ydy eu bod nhw'i gyd, yn gwbl ddieithriad, yn tynnu lluniau neu fideo o'r eiliad maen nhw'n croesi'r trothwy tan iddyn nhw adael. Does na neb i weld yn mwynhau'r olygfa - edrych ar beth sydd o'u blaenau a'i werthfawrogi yn hytrach na jyst gwneud cofnod ohonno. Y peth gwaethaf ydy mod i'n union yr un peth pan fyddai dramor.
Beth bynnag, mae'n ddrwg gen i am y llith yma, mae amser mor dynn yma, mae'n rhaid jyst derbyn beth sy'n dod oddi ar top y pen. Dwi'n gobeithio cael mwy o luniau i wthio'r hanes ymlaen o rwan ymlaen, ond dwi ddim am roi ofn i unrhywun gyda fy arferiad o gario camera o amgylch gyda mi drwy'r amser.
3 comments:
Dymuna i lwyddiant i ti. Oes Cymry eraill fan na?
Yn rhyfeddol, mae na bedwar ohonon ni'n siarad Cymraeg yn fy mlwyddyn i yn King's yn unig! Mae na rai eraill yn y blynyddoedd nes mlaen a dwi'n nabod sawl un arall mewn ambell goleg arall, felly'r ateb ydy oes, lot!
Swnio'n hyfryd Seiriol - ti'n hala fi i hiraethu am y lle arall. Pob lwc gyda'r traethawd.
Post a Comment