Rhinwedd y Cyffredin yw Taclusrwydd
Rydw i'n berson sy'n hoffi nod trefnus a thaclus fel rhestr siopa manwl a rysait i'w ddilyn; neu Post-it Note o dasgau i'w cyflawni at fy nesg yn y gwaith.
Fel rhan o hynny, dwi'n hoffi dilyn cyfresi teledu a ffilm o'r naill ben i'r llall. Ar hyn o bryd, dwi'n gwylio'r gampwaith The West Wing am y pumed tro, The Sopranos am yr eildro a phumed cyfres Mad Men. Fe dreuliais i benwythnos cyfan yn y gwanwyn yn gwylio holl ffilmiau James Bond yn eu trefn, o Dr. No i Quantum of Solace.
Ond ar ôl teimlo mod i'n bod braidd yn ddigyfeiriad gyda darllen a gwylio ffilmiau'n ddiweddar, dwi wedi penderfynu mynd ati o ddifri i osod strwythur i'r hyn dwi'n ei ddarllen a'i wylio, fel bod gen i nod taclus i'w gyrraedd a chyfres i'w dilyn o un pen i'r llall.
Y nod llenyddol yw darllen holl (ish) weithiau Mihangel Morgan yn nhrefn eu cyhoeddi (ish). Yr eironi yw mai 'rhinwedd y cyffredin yw taclusrwydd' yn ôl Mr Cadwalader, prif gymeriad Dirgel Ddyn, reit ar ddechrau'r nofel gyntaf ar y rhestr gan gyfeirio at A Special Day (aka Una giornata particolare), hen ffilm Eidalaidd gyda Sophia Loren.
Sy'n ein harwain at hen ffilmiau tramor: dwi wedi penderfynu gwylio'r hanner cant o ffilmiau gorau erioed yn ôl rhestr 'Sight and Sound' y BFI, i ledaenu fy ngorwelion ac i ddysgu dipyn bach mwy am sinema'r byd. Dyma'r rhestr: http://www.bfi.org.uk/news/50-greatest-films-all-time
Fe benderfynais i bod rhaid i mi wylio'r ffilmiau i gyd, dim ots pa mor gyfarwydd oedd y ffilm na phryd oedd y tro diwethaf i mi ei gweld - rhaid gwylio eto.
Erbyn hyn, dwi wedi gwylio pedair ffilm ar ddeg o'r rhestr - hen ffilmiau'n bennaf a'r rhan fwyaf yn rhai tramor. Dwi wedi gwylio ffilmiau doeddwn i 'rioed wedi clywed amdanyn nhw, ffilmiau mud, ffilmiau arbrofiol, ffilmiau trist a llawen.
Dwi heb fwynhau bob ffilm hyd yn hyn (Pierrot le Fou yr isafbwynt hyd yma) a dwi ddim yn siwr pam bod ambell ffilm mor uchel ar y rhestr (La Regle de Jeu yn y pump uchaf?!) ond dwi'n mwynhau'r profiad.
Y thema gyffredinol ymysg y ffilmiau yw bod llawer ohnyn nhw'n torri tir newydd, fel un o'r rhai diwethaf i mi ei gwylio - Man with a Movie Camera, ffilm sy'n dangos bywyd bob dydd y 20au yn Rwsia trwy dorri cyflym sy'n troi'n hypnotaidd o rythmig erbyn y diwedd.
Heb os, y ffilm dwi wedi ei mwynhau fwyaf hyd yn hyn yw City Lights, ffilm Charlie Chaplin o 1931 sy'n gydradd olaf ar y rhestr o hanner cant ond ffilm wnaeth i mi chwerthin yn uchel yng nghanol pathos chwerwfelys stori garu'r ffilm.
Nesaf ar y rhestr mae Gertrud, ffilm o Ddenmarc o'r 60au doeddwn ni 'rioed di clywed amdani tan i'r DVD gyrraedd o Lovefilm.
Dwi'n dal i ddysgu (er, dwi ddim am droi'n snob dros nos - dwi di gwylio'r Amazing Spiderman a Ratatouille yn weddol ddiweddar... ac mae rheiny'n ffilmiau gwych hefyd!)