31.8.05

Dyn o Hamdden

Daeth fy stint yn y Llyfrgell Genedlaethol i ben heddiw, ar ddiwrnod ola’r mis, felly mae gen i fis cyfan ‘gwag’ o fy mlaen i baratoi cyn mynd am y Brifysgol. Dwi ddim yn meddwl y bydd Medi’n fis arbennig o brysur, ond mae cwpwl o bethau pwysig iawn ar droed. Mae’r gem fawr ddydd Sadwrn, ar y trydydd, ac fe fydda’i yno ar daith gyda’r ysgol, yna dydd Mawrth y chweched, mae cyngerdd ‘cartref’ Cerddorfa’r Tair Sir er mwyn rhoi cyfle i’r rhieni glywed y rhaglen o’r daith i Wlad Pwyl. Dwi’n bwriadu gwneud defnydd da o fy amser ‘rhydd’ a gwylio’r prawf olaf Cyfres y Lludw i gyd, y tro cyntaf i mi allu gwylio prawf cyfan yr haf yma, a gwneud rhywfaint o waith darllen cyn mynd am y Brifysgol, wrth gwrs.

Mae na ddau ddiwrnod pwysig iawn ym mis Medi yn Maes y Garn, sef pen blwydd Mam, ynghanol y mis, ac fy mhen blwydd i ar ddiwedd y mis. Dwi hefyd yn mynd i weld fy gig cyntaf mewn arena, i weld McFly yn Birmingham ar yr 17eg. Mae cyffro mwyaf y mis yn debygol o ddod reit ar y terfyn, gan mod i’n gwybod erbyn fod rhaid i mi fod yn y coleg ‘comfortably by 3pm’ (ar gadair esmwyth neu rywbeth) ar ddiwrnod olaf y mis.

Yr Hybysebydd Misol

Dywedodd rhywun mai ond dau beth sy'n sicr mewn bywyd - trethi a marwolaeth. Tra bod squatters ac Al Capone yn llwyddo i osgoi un a'r Rolling Stones yn llwyddo i osgoi'r llall, mae dau beth sy'n amhosib cuddio rhagddynt o fyw yn Bow Street (neu Geredigion).

Bob mis, yn ddi-ffael, mae'r Cambrian Trader a'r Monthly Advertiser yn gorwedd ar y mat. Mae'r ddau gyfnodolyn yma'n cynrychioli llawer i mi - brwydr y busnesau bach yn erbyn y cwmniau rhyngwladol mawr, brwydr crefftwyr i gadw'i ffordd o fwy i fynd a brwydr rhai dynion a merched busnes i gadw busnesau hollol ddi-bwynt a hollol anymarferol o safbwynt ariannol i fynd.

Mae dyfodiad rhain hefyd yn cynrychioli cyfle i godi gwên wrth weld eitemau od ar y naw yn cael eu gwerthu (a rhif ffôn wedi'i brintio yn hytrach na chuddio tu ôl i ffugenw fel eBay) ac i chwerthin ar ddiniweidrwydd gramadegol rhai hysbysebwyr.

Gadewch i mi roi ambell enghraifft o'r Hysbysebydd Misol a gyrhaeddodd heddiw.

We can turn your pig into valuable dry cured bacon & sausage. Sliced & packed to your requirements.

Milking Ewe - suitable for handmilking. Very quiet temperament. Ideal alternative source of milk for dairy intolerant.

All day Childcare Mes Bach Nursery, Aberystwyth.

Er mor ddoniol yw'r tri uchod, roedd na un hysbyseb yn sefyll allan yn y Monthly Advertise y mis yma ...
Two Soay Rams for sale.
Pedigree, ideal for breeding

I'm a genie in a bottle baby

Newydd weld y dudalen yma ar wefan y BBC. Mae'r stori am ddyn sy'n bwriadu gwerthu aer wedi'i roi mewn potel o Gymru am £24 oddi ar ei wefan drychinebus, walesinabottle.com.

Slate, Stone, Sand or Water are just a few ideas which will remind you of your birthplace, school, farm or the place you were brought up

Grêt. Doeddwn i ddim yn deall fod dwr yn rhywbeth unigryw i Gymru. Pwy fyddai'n meddwl ei bod hi'n haf a bod dim byd o werth fel hurricanes yn mynd mlaen yn y byd ...

30.8.05

Sgubo'r Lludw

Dwi'n teimlo y dylwn i ddilyn y zeitgeist ar y blog yma, felly er mod i ddim am ymddangos fel mod i'n dilyn y 'dorf', dwi'n mynd i sôn am y criced.

I chi gael deall, dwi'n ffan 'go iawn' o griced, hynny yw dwi'n edrych am y sgôr ar y teledestun, roeddwn i'n arfer chwarae (dwi ddim yn dda iawn), dwi'n gwylio gemau sirol, dwi wastad yn gwylio gemau prawf a trwy wylio dwi'n golygu eistedd i lawr am bum diwrnod o flaen y teledu yn cael paned a chinio yr un pryd â'r chwaraewyr.

Felly mae'r 'ffad' o gefnogi Lloegr a mynd yn wirion dros y Lludw yn gwisgo fy amynedd i braidd. Mae'r ffaith fod 'fy' nhim wedi chwarae mor sal dros y tri prawf diwethaf (heblaw am eu hail fatiad i achub gem gyfartal yn y trydydd prawf ac ail fatiad Lloegr yn y prawf diwethaf) yn gwneud dim ond drwg i hynny o amynedd cystadleuol sydd gen i ar ôl.

Dwi ddim yn gwarafun cefnogi Awstralai o gwbl - allai jyst ddim cefnogi Lloegr mewn unrhyw chwaraeon oherwydd y cyfryngau. Maen nhw'n gwneud cymaint o ffys dros ddim byd ac yn gwneud i'r peth ymddangos fel diwedd y byd, boed y tîm yn ennill neu golli. Allai jyst ddim godde'r sylw. Mae'n rhaid mod i'n gywir gan fod Simon Davies yn cytuno gyda mi. Dwi'n gwbod fod 'Lloegr' yn cynrychioli yr England and Wales Cricket Board yn hytrach na Lloegr yn ddaearyddol, ond dwi'n methu rhoi fy nghefnogaeth i dim sy'n anwybyddu bodolaeth Cymru heblaw fel lle i gael ambell fowliwr swing, off spinner a hyfforddwr batio. Mae'r ffaith fod y llythrennau ECB yn sefyll am yr England and Wales Cricket Board yn profi eu hyfdra i'r dim. Dydy hanner y tim ddim yn dod o Loegr p'run bynnag - Simon Jones o Gymru, Geraint Jones o Awstralia / Cymru, Kevin Pietersen o Dde Affrica - throwback yn ôl i ddyddiau Graham Henry wrth y llyw gyda thim rygbi Cymru!

Beth bynnag, fe ddes i ar draws y blog hynod ddiddorol sydd wedi'i enwi yn llawn dychymyg, The Ashes. Mae hwn yn flog ardderchog i rywun sy'n gyfarwydd â chriced ac eisiau darllen sylwadau miniog a chrafog ac yn dda iawn i rywun sy'n llai cyfarwydd â'r gem a fydd yn anghofio amdani pan fydd Lloegr yn cael eu curo'n rhacs yn ystod y gyfres nesaf. Edrychwch allan am y re-enactments yn enwedig - comedi cricedol gwych (fel hwn ar y chwith).

25.8.05

That's Cyril in Welsh in't it?

Dyna'r geiriau anfarwol ddywedodd Bobby Gould, oedd yn reolwr ar Gymru ar y pryd, wrth roi ei lofnod i mi yn ystod gem Aberystwyth vs Telford yng Nghoedlan y Parc pan chwaraeodd Neville Southall dros y clwb. Wrth edrych yn ôl, gadawodd ymateb nawddoglyd ond serchog Bobby Gould llawer mwy o argraff arnaf na osgo swta a phwdlyd Nev wrth arwyddo darnau o bapur (neu ei lyfr In Search of Perfection ar fy nghyfer i) i res o fechgyn ifanc.

Beth bynnag, y pwynt roeddwn i'n ceisio ei wneud oedd fy mod i wedi hen arfer cael fy ngalw yn bopeth dan haul ond am fy enw. Dwi wedi clywed pob jôc am cereal a brecwast (I'm going to eat you for breakfast, Weetabix, Kellogg's ayyb), wedi clywed pob ynganiad posib o'r grwp o lythrennau sy'n fy enw a wedi cael fy ngalw yn bethau mor wahanol â Zaydriol (fel enw beiblaidd) a Kasabian. Dydw i ddim yn cwyno llawer am y peth. Ond pan darllenais i'r erthygl yma sy'n cyfeirio at gamynganu enwau a gweld enwau Håkon, Jiye, Michi, Elissa, Asa, Nara a Laszlo fel rhai anodd i'w ynganu, cefais fy nghythruddo! Triwch gael enw fel Seiriol!

24.8.05

Siarad ar ei gyfer

Gem dda i'w chwarae pan ry'ch chi wedi diflasu - cogio bod yn Arlywydd America. Gallwch chi newid polisiau America neu gwneud i George Bush edrych fel ffŵl. Wedi meddwl, sdim angen ein help ni arno fe i wneud hynny nagoes ...

15 munud drosodd, luv

Dyma wefan swyddogol Lesley o’r gyfres ddiweddaraf o Big Brother. Dwi’n teimlo drosti - gwefan erchyll, dim gobaith am ddyfodol yng ngolwg y cyhoedd, lluniau gwael (mae ganddi bedwar troed yn y llun cyntaf), wedi recordio cân ofnadwy ar safon arbennig o isel (cliciwch ar y ddolen ar y dudalen yma i gael clywed clip o’r gân i chi gael deall be dwi’n meddwl) ac fe fydd hi’n agor archfarchnad fechan yn Chipping Norton cyn bo hir. Dwi ddim yn siwr pa wefan sydd fwyaf trajic - Môn-Heli (diolch i dafydd) neu Lesley. Dwi’n gwbod pa berson ydy’r mwyaf trajic.

22.8.05

Mi wela i a'm llygad fach i

Rydw i’n ffan mawr o Marc Evans ac mae Dal:Yma/Nawr a Camgymeriad Gwych yn ddau o fy hoff ffilmiau. Roeddwn i’n disgwyl pethau mawr gan My Little Eye er bod yr adolygiadau ar IMDb yn ei feirniadu'n hallt.

Mae’r ffilm yn dilyn hanes pum person ifanc, tua diwedd eu harddegau neu yn eu hugeiniau cynnar, sydd ar webcast 24 awr am 6 mis (mewn steil Big Brother-aidd) ond mewn tŷ anferth Norman Bates-aidd yng nghanol nunlle. Mae'r ffilm gyfan wedi'i saethu trwy 'gamerau we'. Os oedd y pump yn aros yn y tŷ am chwe mis, roedden nhw’n ennill $1m yr un. Neu dyna beth roedden nhw’n feddwl oedd yn digwydd. Wrth gyrraedd ei therfyn, mae My Little Eye yn troi i mewn i slasher atmosfferig a thywyll, gyda'r camerau we yn rhoi naws voueyristig unigryw i'r ffilm.

Dwi ddim yn siwr iawn beth i feddwl am y ffilm. Mae’r stori’n olreit ac mae’r cyfan wedi’i saethu yn glyfar, yn gynnil ac yn glaustroffobig iawn. Serch hynny, mae’r cymeriadau’n fas a disylwedd, rhai o’r actorion yn wan, datblygiad y stori heb ei ymestyn ddigon hir ac mae’r llun drwy’r camerau o safon isel yn eich blino erbyn diwedd y ffilm. Dwi’n meddwl fod angen i mi wylio’r ffilm eto.

19.8.05

Canlyniadau

Fe ddaeth yr awr ac fe ddaeth y canlyniadau!

Fe fues i’n slei iawn ac edrych ar wasanaeth UCAS Track cyn mynd i’r ysgol, felly cefais i mo’r profiad canlyniadol go iawn mae’n debyg. Edrych allan o ymyrraeth yn fwy na dim wnes i, ond roeddwn i’n hapus iawn i weld fod y geiriau ‘Conditional Offer’ gyferbyn â Phrifysgol Caer-grawnt wedi newid i ‘Accepted’. Roedd yr holl broses UCAS drwy gyfrwng i Saesneg i mi gan fy mod wedi ceisio am o leiaf un Prifysgol tu allan i Gymru, gyda llaw. Mae eu gwasanaeth ar-lein yn Saesneg i bawb. Beth bynnag am hynny, roeddwn i wedi gwneud digon i gael mynd am Gaer-grawnt! Gwych!

Roedd derbyn fy nghanlyniadau yn yr ysgol yn ychydig o anti-climacs yn sgil cael syniad o’r hyn roeddwn i’n mynd i’w dderbyn adre. O wybod fy mod wedi cael o leiaf tair A, roeddwn i’n eithaf ffyddiog y byddwn yn cael pedair, ond yn anffodus, roeddwn i wedi gwneud yn affwysol o wael yn yr arholiad Almaeneg, GR6, a boddodd fy Deutsch ddau farc oddi ar lan y radd A. Mae’n rhaid i mi gyfaddef mod i’n eithaf siomedig, er nad yw’n gwneud gwahaniaeth i safon fy Almaeneg nac i ba Brifysgol y byddaf yn mynd iddi, ond am fy mod yn gallu bod yn berffeithydd, ac am fod y ddau farc yna’n mynd i aros gyda mi.

Yn anffodus, roedd rhaid i mi fynd yn syth o’r ysgol i’r gwaith, yn yr adran ddigido yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’r gwaith yn rhy ddiflas i roi arlliw ohono yma, hyd yn oed, ond mae’n talu’n dda ac roedd angen gwneud amser i fyny ar y ‘cloc’ (darn o bapur - dwi ddim digon pwysig i gael cerdyn clocio’i fewn) ar ôl cymryd diwrnod yn hwy na’r hyn roedd gen i’n wyliau ar ôl bod yn Nulyn. Doedd dim egni na chwant gen i fynd allan i ddathlu nos Iau (cabledd!) felly cefais noson dawel o flaen y teli bocs ac yn chwarae Football Manager 2005.

Felly 273 diwrnod ar ôl i’r broses ddechrau gyda fy ffurflen UCAS yn cael ei hanfon, mae’r ‘freuddwyd’ wedi ei gwireddu - dwi’n mynd i Goleg y Brenin - mae'r llythyr derbyn wedi ei anfon. Mae’r tymor yn dechrau ar y trydydd o Hydref a dwi’n methu aros. Nawr mod i’n gwybod lle fyddai’n mynd, mae’r cynnwrf yng ngwaelodion y bol wedi cychwyn go iawn.

17.8.05

Dulyn

Ychydig dros ddeuddeg awr ar ôl ysgrifennu’r neges ddiwethaf ar y blog, roedd hi’n amser dal y tacsi a mynd am Ddulyn. Roedden ni, fel criw o ffrindiau, wedi hanner bwriadu mynd ar wyliau tramor i ddathlu ar ôl gorffen ein harholiadau lefel A ond doedd neb digon brwdfrydig i fynd â’r maen i’r wal, felly yma, yn Aberystwyth, y bu’r dathlu bryd hynny. Wedi dweud hynny, roedd na ddigon o draed yn anesmwyth i ni benderfynu mynd dramor ychydig ymhellach ymlaen yn ystod y gwyliau haf. Dewiswyd Dulyn fel pen y daith yn weddol gynnar yn y trefnu a daeth y criw dethol at ei gilydd yn yr un modd. Roedden ni am fynd am y pris rhataf posib, felly penderfynwyd mynd o ddydd Llun tan ddydd Mercher. Fel y daeth hi’n agosach at y gwyliau, fe ddaeth hi’n amlwg ein bod wedi dewis gwyliau a fyddai’n gorffen y diwrnod cyn i ni dderbyn ein canlyniadau felly daeth y gwyliau yn ddathliad o flaen llaw yn y diwedd.

Roedd y siwrne i lawr i Gaerdydd yn braf - dwi’n hoff iawn o deithio ar ffyrdd gwag gyda’r tarth yn codi fel amdo dros y caeau. Yr hediad o Gaerdydd i Ddulyn oedd y byrraf i mi fod arni erioed, yn rhyw gwta ddeugain munud. Roedd gwasaneth Ryanair yn un hysbyseb hir ond roedd y pris yn dda. Ar ôl cyrraedd y gwesty, yr Harcourt Hotel, doeddwn i ddim yn credu ein lwc. Doeddem ni ddim wedi talu llawer amdano, rhyw £30 y noson, ond roedd y stafelloedd yn helaeth a’r lleoliad yn berffaith, jyst oddi ar St Stephen’s Green.

Fe aeth pnawn dydd Llun a’r nos heibio mewn gwahanol fwytai, bariau, tafarndai a chlybiau nos. Yn anffodus, anghofiais fy nghamera felly mae’r noson wedi dengid i bwll angof cwrw am byth. Ceisiais wneud yn iawn am fy nghamwedd a gweld ychydig o’r ddinas ben bore dydd Mawrth (ddim wir ben bore ond ben bore am fachgen 18 oed ar daith piss-up). Cofiais fy nghamera nos Fawrth, ond does dim byd syfrdanol ar gof a chadw, dim ond lluniau dirifedig o fi a’n ffrindiau yn mynd yn raddol fwy meddw mewn nifer esgynnol o dafarndai.

Er mor wael fy nisgrifiad o’r daith (gan gofio fod fy rhieni yn debygol o ddarllen hwn), gallaf eich sicrhau ein bod wedi joio mas draw. Mae Dulyn yn brifddinas Ewropeaidd fyw gyda thrigolion hyfryd a thafarndai heb eu hail. Ry’n ni wedi addo mynd yn ôl eisoes.

14.8.05

Miri Madog

Fe ddaeth hi’n bnawn Sul yn rhyfeddol o gyflym ar ôl penwythnos, wel nos Sadwrn a bore Sul mewn gwirionedd, i’w gofio. Aeth y siwrne i’r gogledd yn llyfn iawn, er fod y car yn llawn iawn. Roedd offer Dylan a fy sach gysgu a mag i yn llenwi’r bŵt felly roedd rhaid i babell Einion a gitar fas Meilyr a peth wmbreth o fagiau a drangalŵns eraill fynd ar eu glin. Rhoddais y mix-tape C90 bûm yn ei baratoi nos Wener i fynd wrth adael Bow Street ac fe ddaeth i ben ychydig filltiroedd tua allan i Borthmadog. Yn anffodus, cymerodd yr ychydig filltiroedd cyn y Cob ac i mewn i Borthmadog ei hun dipyn yn hirach na’r disgwyl. Roeddwn i’n meddwl gwnaed gwelliant i’r ffordd, ond roedd y traffig yn drymach nag erioed!

Beth bynnag am hynny, fe gyrhaeddodd y pedwar ohonon ni’n saff yn y car bach yn y diwedd gan gwrdd â’r merched, a fu’n ddigon caled i aros nos Wener ond oedd yn ofn y glaw ormod i aros tan ddydd Sul, yn y maes parcio. Erbyn i ni gyrraedd y Clwb Chwaraeon, roedd y glaw wedi peidio a'r gwair yn sychu! Rhyfedd o fyd. Dechreuodd y gerddoriaeth yn gynharach na’r oeddwn i’n disgwyl ac o fewn dim roedd Radio Luxembourg ar y llwyfan. Ceisiais dynnu llun neu ddau ohonynt ond doeddwn i ddim am dynnu sylw at fy hun yn ormodol felly mae safon y lluniau yn arbennig o isel. Chwaraeodd y band yn wych. Roedden nhw wir ar eu gorau felly roedd hi’n biti mawr fod y gynulleidfa yn siomedig yn ei nifer.

Dilynodd Ashokan a rociodd er problemau technegol, yna’r Poppies oedd yn arbennig o dynn, y Sibrydion a symudodd y noson i lefel arall gyda chaneuon pop o safon, Zabrinski oedd yn wael iawn a Topper i ddod â’r noson i derfyn gyda pherfformiad a blesiodd y dorf oedd yn faint teilwng iawn erbyn bryd hynny.

Roeddwn i’n ddigon lwcus i fod ar y rhestr westai ac felly’n cael mynediad i gefn llwyfan, lle roedd y bandiau ac amryw o (bennau) mawrion y “Sîn” yn cymdeithasu. Yno y bûm nes iddi fynd yn llawer rhy hwyr i rywun oedd yn gyrru adref y bore canlynol fod ar ei draed yn clebran. Uchafbwynt cymdeithasol y noson oedd cysgodi rhag y glaw ym mhabell arallfydol Bandit gydag Ian Cottrell a Huw Stephens (ydw, dwi’n name dropper). Blydi doniol.

Roedd Dylan a mi yn rhannu pabell Ffion, un o’r rhai nad oedd â’r stamina i bara trwy nos Sadwrn, a cefais i noson hynod dda o gwsg gan ystyried fy mod i’n gorwedd ar lawr y babell heb fat a bod fy sach gysgu yn gwrthod cau’n iawn. Didrafferth oedd y siwrne'n ôl a roedden ni bron adref erbyn amser cinio yn y diwedd.

Fe fyddai’n sicr yn mynd yn ôl i Firi Madog - pobl dda, caniau o gwrw’n ymddangos ym mhobman a’r bandiau yn rocio. Mae na rai lluniau arbennig o wael ar fy flickr.

13.8.05

Ry'n ni i gyd yn mynd ar wyliau haf ...

Rydw i ar fin cychwyn i Borthmadog i fynd i Wyl Ddeuddydd Miri Madog yng nghanol cawodydd erchyll o law. Mae’r daith yma i’r gogledd dod ar ddechrau cyfnod o fwynhau diamod ac afradus. Dwi’n aros ym Mhorthmadog heno mewn pabell, dod adre ddydd Sul ac yn cychwyn am wyliau am dridau yn Nulyn ben bore Llun. Fe fyddai’n cyrraedd yn ôl ddydd Mercher ar gyfer sobri ac yna casglu fy nghanlyniadau lefel A. Mae hi’n mynd i fod yn wythnos ddrud ond dwi’n siwr fydd yr hwyl yn werth bob ceiniog.

Nid y daith i Ddulyn fydd fy ngwyliau cyntaf eleni, gan mod i wedi bod yng Ngwlad Pwyl gyda Cherddorfa’r Tair Sir eisoes yr haf yma. Mae na luniau o’r daith ar fy flickr i ac hefyd ar gyfrif flickr Tair Sir a gan Rhodri. Roedd hi’n daith lwyddiannus iawn ym mhob ffordd. Roedd yr ochr ‘gerddorfaol’ yn hynod o dda, yn ôl ei arfer, er bod rhaid i ni chwarae pedwerydd symffoni Tchaikovsky heb dimpani yn un o’r cyngherddau. Roedd y gynulleidfa ar eu traed yn ein tri chyngerdd.

Roedd yr ochr gymdeithasol yn iach iawn eleni eto er fod y gerddorfa wedi’i rhannu’n ddwy oherwydd lle ar yr awyrennau i fynd â ni i Krakow. Un o’r uchafbwyntiau i bawb dwi’n meddwl, os allwch chi ei alw’n uchafbwynt, oedd mynd i wersyll Auschwitz yn Oswecim ac i wersyll Auschwitz-Birkenau i lawr y ffordd. Er fod na rai lluniau i fyny ar y we, wnes i ddim tynnu llawer yno o’i gymharu gyda rhai aelodau eraill o’r gerddorfa a fynnai dynnu lluniau o bopeth - o’r siambrau nwy i eiddo’r rhai a gafwyd eu llofruddio yno. Doeddwn i ddim eisiau lluniau o le bu farw miloedd o bobl ar fy nghyfrifiadur nac yn fy meddiant. Roeddwn i wedi ymweld a gwersyll tebyg yn Saschenhausen ac wedi darllen llyfr ardderchog Sybille Steinbacher, Auschwitz: A History felly roeddwn wedi paratoi fy hun yn llawn ac yn barod i elwa’n llawn o’r profiad.

Ar ôl diwrnod neu ddau yn Krakow, aethon ni i lawr i ganol mynyddoedd y Tatras i dref Zakopane. Roedd y dref yn llawer mwy bywiog na Krakow ac roedd naws ieuengach yno rywsut. Un o uchafbwyntiau’r daith i mi oedd rhoi ein cyngerdd olaf yn Eglwys y Groes Sanctaidd yn y dref. Roedd pensaernïaeth yr Eglwys yn gyfoes iawn ac yn eitha mentrus - roedd yr organ yn ffantastig - a roedd y bobl yr un mor fodern yn eu diwinyddiaeth gan eu bod yn cynnal cartref i blant amddifad yn y seler. Fe gyflwynwyd ail symudiad y symffoni, yr Andantino in mode di Canzone (mae modd gwrando ar glip yma ond dydw i ddim yn meddwl llawer o’r recordiad), fel teyrnged i’r rhai a fu farw ar Fehefin y 7fed yn Llundain.

Daeth y daith i ben ar ôl taith ar hyd afon ym Mharc Cenedlaethol Pieninsky (dwi ddim yn hollol siwr o hyn - dydy fy Mhwyleg i ddim yn dda iawn), sy’n ffinio gyda Slovakia. Fe ges i amser gwych ar y daith - roedd y Pwyliaid yn groesawgar, eu wodka yn blasu o rywbeth heblaw am anti-freeze a’r bryniau’n wyrdd. Ewch yno cyn iddyn nhw ymuno â’r Ewro a tra bod y bwyd a’r ddiod yn rhad!

11.8.05

24/06/2005 - 1100

Dyna pryd y gorffennais fy arholiad olaf, papur HI6 ar ddiwygio seneddol ym Mhrydain yn y bedwerydd ganrif ar bymtheg a chyfraniad Garibaldi at uno'r Eidal. Dwi wedi bod yn aros am fy nghanlyniadau bob dydd ers hynny ac mae'r golau a fu mor bell i ffwrdd yn awr yng ngheg y twnel ac yn fy nallu. Erbyn wythnos i heddiw, fe fyddai'n gwybod i le fyddai'n mynd i'r Brifysgol.

Fe fydd y lleoliad yn llywio cwrs gweddill fy mywyd yn eitha drastig. Fy newis cyntaf ydy mynd i Goleg y Brenin, ym Mhrifysgol Caer-grawnt i astudio hanes. Dwi wedi cael lle, sy'n amodol ar A mewn Hanes a dwy A mewn unrhyw ddau bwnc arall (fy mhynciau lefel A ydy Cymraeg, Almaeneg, Hanes a Cherddoriaeth gyda llaw), yn dilyn prawf a chyfweliad yn ôl ym mis Rhagfyr y llynedd.

Wrth ddod i weld y gwahaniaeth rhwng y dewis cyntaf a'r dewis wrth gefn, mae beth ddwedais i am newid cwrs fy mywyd yn amlwg. Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ydy hwnnw ac mae angen o leiaf 100 o bwyntiau Tariff UCAS mewn Cymraeg a chyfanswm o 260 o bwyntiau i deilyngu fy lle yno. Dwi'n meddwl fod hyn yn gyfystyr a BCC neu BBD neu rywbeth - dwi ddim yn siwr o'r system bwyntiau o gwbl.

Penderfynais i ddewis dau gwrs mor wahanol am nifer o resymau. Wrth geisio penderfynu pa Brifysgolion i'w rhoi ar y ffurflen UCAS, fe benderfynais y buaswn i'n mynd dros Glawdd Offa i'r Brifysgol ar yr amod fy mod yn mynd i le sy'n cynnig cyrsiau o safon sy'n llawer gwell na'r rhai sy'n cael eu cynnig ym Mhrifysgolion Cymru. Gan fod y cwrs sydd ar ben fy rhestr yn un o'r rhai gorau ym Mhrydain (a'r byd), dwi'n hyderu fy mod i wedi cadw'r addewid yma.

Mae'r system lefel A bresennol braidd yn gymysglyd i rywun o'r tu allan ond un o'i phrif rinweddau ydy'r modd mae dyn yn gwybod yn union sawl marc sydd ei angen arno yn arholiadau olaf lefel A er mwyn cael graddau arbennig. Mantais amlwg hyn ydy'ch bod chi'n gallu dewis a dethol rhai arholiadau i ganolbwyntio arnynt. Un o fanteision arall y system ydy'r modd y gallwch sefyll arholiadau ym Mis Ionawr a dewis opsiynau gwaith cwrs gan roi llai o ddwr ar gerrig sauna cyfnod arholiadau'r haf. Mae hyn i gyd yn golygu fod syniad bras gen i o ba mor dda oedd angen i mi wneud mewn rhai arholiadau i gael y graddau dwi eu hangen.

Dwi ddim am gynnig unrhyw arlliw ar ba mor dda dwi'n meddwl aeth yr arholiadau gan mod i'n dueddol o gal stincars ar ol meddwl fod yr arholiad yn hawdd a minnau wedi'i fwynhau. Ond nid hir yw pob aros, oherwydd fe fyddai'n gwybod cwrs ffawd erbyn yr adeg yma'r wythnos nesaf. Croeswch popeth er fy mwyn i fore Iau nesaf.